|
Cofrestru Cwmnïau Newydd
Llenwi’n Glir
Wrth lenwi ein ffurflenni neu gyflwyno dogfennau i ni, cofiwch ein bod ni’n eu sganio nhw’n electronig. Dyna pam ein bod yn well gennym eich bod chi’n llenwi’r ffurflen mewn teip du. Os nad oes modd gwneud hyn, dylech ddefnyddio priflythrennau a llawysgrifen dywyll. Dylech ddefnyddio papur maint A4 sy’n pwyso 80-100 gsm2. Ceir disgrifiad cyflawn o’r gofynion yn ein llyfryn canllaw, GP2 - Rhan 1 Gofynion Blynyddol.
Enw’r Cwmni
- A yw enw’r cwmni ar gael?
- Ydych chi wedi gwirio hyn trwy Ganolfan Gysylltu Tŷ’r Cwmnïau ar +44 (0)303 1234 500 neu trwy fynegai Enwau Cwmnïau WebCHeck (gwasanaeth Saesneg yn unig)?
Fodd bynnag, dylech nodi na allwn neilltuo enw. Ni allwn gofrestru enw sydd yn union yr un fath ag un sydd eisoes ar y gofrestr chwaith. Os byddwch chi’n cofrestru enw sy’n “rhy debyg” i enw cwmni sy’n bodoli eisoes, mae gan y cwmni sy’n bodoli eisoes yr hawl i’w wrthwynebu a gallwn eich cyfarwyddo chi i newid eich enw.
A yw’r enw’n cynnwys gair sensitif? Darllenwch ein llyfryn canllaw, GP1 – Corffori ac Enwau .
Cyfarwyddwyr a Waharddwyd
- A oes unrhyw un o’r cyfarwyddwyr arfaethedig wedi cael eu gwahardd rhag gweithredu fel cyfarwyddwr? Gwiriwch hyn ar y Gofrestr y Cyfarwyddwyr a Waharddwyd (gwasanaeth Saesneg yn unig)
Memorandwm ac Erthyglau
- A yw’r dogfennau hyn wedi cael eu hargraffu? Byddwn yn gwrthod dogfennau a ysgrifennwyd â llaw am y gallai fod yn anodd eu sganio ar gyfer y cofnod cyhoeddus.
- A yw’r tanysgrifwyr wedi torri eu henwau ar y Memorandwm a’u llofnodi?
Ffurflen IN01c
- A yw’r Ffurflen IN01 c yn gyflawn, wedi cael ei llofnodi a’i dyddio, ac a nodwyd manylion y cyflwynydd arni?
- A ydych chi wedi cofio bod angen i o leiaf un o gyfarwyddwyr y cwmni fod yn berson naturiol h.y. yn unigolyn, a bod rhaid i’r person hwnnw fod dros 16 oed?
- Os nad oes unrhyw gyfarwyddwyr eraill, nodwch ‘dim’.
- Yn achos cwmni preifat, rhaid i o leiaf un cyfarwyddwr lenwi’r ffurflen, neu yn achos cwmni cyhoeddus, o leiaf 2 gyfarwyddwr ac un ysgrifennydd.
- A ydych chi wedi nodi’r codau post perthnasol ar gyfer unrhyw gyfeiriadau ar y ffurflen?
- A yw’r asiant wedi llofnodi a dyddio’r ffurflen ar ran y tanysgrifwyr neu a yw’r holl danysgrifwyr wedi gwneud hyn?
Archwiliad terfynol o’r dogfennau
Darllenwch dros yr holl ddogfennau’n ofalus er mwyn sicrhau bod popeth yn iawn cyn eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau. Bydd gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf yn cyflymu eich corfforiad.
Y ffi
A ydych chi wedi cynnwys y ffi sy’n angenrheidiol? Rhaid talu unrhyw ffioedd i ‘Dŷ’r Cwmnïau’.
Copïau
A ydych chi wedi cadw copïau o’r dogfennau corffori cyflawn? Bydd y Cofrestrydd yn cadw’r dogfennau corffori gwreiddiol a anfonir ato.
|