Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau Cyffredin am Ogledd Iwerddon

Pryd cafodd Cofrestrfa Gogledd Iwerddon ei chyfannu â Thŷ'r Cwmnïau?

1 Hydref 2009

Allwch chi egluro sut y caiff cwmnïau eu corffori yng Ngogledd Iwerddon?

Mae'r Ddeddf yn cwmpasu'r DU gyfan a chaiff cwmnïau Gogledd Iwerddon eu corffori yn yr un modd â chwmnïau'r DU.

Ydy ffurflenni GI yr un fath â rhai'r DU?

Ydynt.

Pryd oedd gwybodaeth am gwmnïau Gogledd Iwerddon ar gael i'w chwilio o Dy'r Cwmnïau?

1 Hydref 2009

A fydd y brif swyddfa'n aros yn Belfast?

Bydd. Bydd Swyddfa Gogledd Iwerddon yn aros yn Belfast.

Ydy’r wybodaeth am gwmnïau Gogledd Iwerddon yn cynnwys mynediad i ddogfennau hanesyddol neu ddim ond i'r rheiny a gafodd  eu ffeilio ar ôl 1 Hydref 2009?

Mae data hanesyddol Gogledd Iwerddon, a dogfennau o 2000 ymlaen, ar gael yn syth. Ond mae amser trosglwyddo ychydig yn hwy i ddogfennau hyn gan y cânt eu sganio cyn eu trosglwyddo

Sawl cwmni sydd yng Ngogledd Iwerddon?

Mae tua 38,000 o gwmnïau wedi'u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon.

Oes modd ffeilio gwybodaeth am gwmnïau Gogledd Iwerddon ar-lein?

Oes. Mae cwmnïau Gogledd Iwerddon wedi cael manteisio ar wasanaeth WebFiling ers 1 Hydref 2009 ymlaen.

A fydd cwmnïau Gogledd Iwerddon yn cadw'r "NI" o flaen eu rhifau cwmni?

Byddant. Fe gedwir yr "NI".

Pan gaiff Cofrestrfa Gogledd Iwerddon ei chyfannu â Thy'r Cwmnïau, beth fydd yr effaith ar gofrestru canghennau?

Yn sgil gweithredu Rheoliadau Cwmnïau Tramor 2009/1801 ar 1 Hydref 2009, cyflwynwyd awdurdodaeth sengl ar gyfer cwmnïau tramor a gofrestrwyd yn Lloegr/Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu nad oes angen i gwmni Lloegr/Cymru neu’r Alban gofrestru cangen/sefydliad y DU yng Ngogledd Iwerddon mwyach nac i gwmni Gogledd Iwerddon gofrestru cangen/sefydliad DU yn Lloegr/Cymru neu’r Alban chwaith.

Brig
Ein polisi ar gwcis