Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Arall

A fydd Tŷ’r Cwmnïau yn cynnal seminarau rheolaidd ynglyn â'r Ddeddf newydd?

Mae Tŷ’r Cwmnïau ar hyn o bryd yn uno â chyrff eraill i ddarparu anerchwyr mewn amrywiol ddigwyddiadau ledled y wlad. Yn y dyfodol, yr arfaeth yw i Dy'r Cwmnïau gynnal ei seminarau ei hun yn ystod y 6 mis cyn y prif weithredu yn Hydref 2009.

Yn y cyfamser mae pob digwyddiadau cyffredinol Tŷ’r Cwmnïau yn gynnwys cyflwyniadau Deddf Cwmnïau 2006. Yn arbennig mae cyflwyniad manwl Deddf Cwmnïau yn gynnwys yn ein Seminarau Webfiling a Diwrnodau Gwybodaeth

Mae cofrestru cangen ar hyn o bryd yn gymhleth iawn. A wneir hyn yn haws?

Rhoir sylw i'r agwedd hon yn y ddogfen ymgynghori sydd ar gael ar wefan yr Adran Busnes menter a Diwygio. Mae pob croeso ichi ei defnyddio i lunio unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud.

A fydd yn rhaid inni ffeilio contract cyfrannau yng nghyswllt 88(2) o hyd?

Mae hyn heb ei benderfynu eto o fewn y ddeddfwriaeth eilaidd. Ond pan gytunir, fe gaiff y wefan ei diweddaru.

Mae gwybodaeth fanwl bellach am benderfyniadau a chyfarfodydd wedi'i chynnwys yn Companies Act 2006: Private Company Information, ar wefan BIS: http://www.bis.gov.uk/files/file42261.pdf

A gaiff unrhyw gosbau ychwanegol eu codi o dan y Ddeddf newydd?

Lle bo cwmni'n diwygio'i erthyglau cymdeithasiad, rhaid anfon copi o'r erthyglau diwygiedig i Dy'r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod. Mae methiant i gydymffurfio yn dramgwydd troseddol.

Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn cyflwyno cosb sifil newydd o £200 am fethiant i gydymffurfio. Ni chodir y gosb sifil ond lle bydd y cwmni'n derbyn hysbysiad gan y Cofrestrydd yn mynnu iddo gyflwyno copi o'i erthyglau diwygiedig a bod y cwmni'n methu gwneud o fewn 28 diwrnod. Byddai'r cwmni'n dal yn agored i weithrediadau troseddol yn ychwanegol at y gosb sifil o £200.

I osgoi'r gosb sifil, ni raid i gwmni ond cyflwyno copi o'i erthyglau diwygiedig o fewn 28 diwrnod i'r hysbysiad. Os gwna hynny, nid yn unig y bydd yn osgoi'r gosb sifil ond ni fydd modd wedyn ddwyn achos troseddol yng nghyswllt y methiant gwreiddiol i gydymffurfio.

Yn annhebyg i'r gosb bresennol am ffeilio cyfrifon yn hwyr, caiff y gosb newydd ei chodi wrth i gwmni fethu ymateb i hysbysiad y Cofrestrydd. Nid yw wedi'i chysylltu â chyflwyno'r erthyglau yn hwyr.

Ni fydd y Cofrestrydd yn cadw'r arian a gaiff ei gasglu drwy'r gosb newydd; caiff ei dalu i'r Gronfa Gyfunol, fel sy'n digwydd gyda'r gosb bresennol am ffeilio'n hwyr.

A ddaeth Adran 809(2) i rym ar 20 Ionawr 2007, h.y. bod rhaid i'r cwmni roi gwybod i'r Cofrestrydd Cwmnïau ymhle y caiff cofrestr Adran 808 (yr wybodaeth wedi'i datgelu o dan Adran 793) ei chadw ar gael i'w harchwilio, ac am unrhyw newid i'r lleoliad hwnnw?

Do, fe ddaeth Adran 809 o Ddeddf Cwmnïau 2006 i rym ar 20 Ionawr 2007. Ond o dan Adran 809(1)(b) mae'r lle sydd i'w bennu ar wahân i'r swyddfa gofrestredig heb ei ddiffinio eto gan reoliadau o dan Adran 1136. Nes i'r rheoliadau hyn gael eu gwneud, dim ond yn swyddfa gofrestredig y cwmni y gellir cadw'r gofrestr, ac felly ni fyddai angen hysbysiad ar y Cofrestrydd.

A allwch gadarnhau, yn sgil Deddf Cwmnïau 2006, nad oes raid mwyach dystysgrifau cyfrannau yng nghwmnïau preifat y DU gael eu rhoi o dan sêl y cwmni, h.y. dim angen mwyach stampio tystysgrifau cyfrannau â sêl y cwmni?

Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn ailddatgan darpariaethau Deddf Cwmnïau 1985 gyda golwg ar sêl y cwmni a thystysgrifau cyfrannau. Mae hyn yn golygu bod modd i'r cwmni gyflawni dogfennau, fel ar hyn o bryd, naill ai drwy ddefnyddio sêl y cwmni neu drwy i'r ddogfen gael ei llofnodi gan ddau lofnodydd sydd wedi'u hawdurdodi, e.e. dau gyfarwyddwr, cyfarwyddwr ac ysgrifennydd, neu gyfarwyddwr yng ngwydd tyst.

Oes yna gynlluniau i Ymddiriedolaethau Sylfaen yr NHS a Chorfforaethau Budd Cyhoeddus ddod o fewn rhychwant Tŷ’r Cwmnïau yn y dyfodol?

Does dim cynlluniau i gynnwys y mathau hyn o gwmnïau yn Neddf Cwmnïau 2006.

Ydy Deddf Cwmnïau 2006 yn cyflwyno unrhyw newidiadau i'r lleiafswm cyfalaf cyfrannau i gwmnïau preifat?

Nid yw Deddf 2006 wedi cyflwyno newidiadau i'r lleiafswm cyfalaf cyfrannau y mae'n rhaid i gwmni cyfyngedig preifat feddu arno. Ond bydd newidiadau i'r gyfraith gyda golwg ar gwmnïau cyfyngedig cyhoeddus. Bydd modd i gwmni cyhoeddus fod â lleiafswm cyfalaf awdurdodedig o naill ai £50,000 fel ar hyn o bryd neu o 65,600 o ewros, ond nid fel cyfuniad rhwng y ddau.

Yn Neddf Cwmnïau 2006, oes yna ddyletswydd i roi gwybod i'r Cofrestrydd am ddiwygiadau i'r Memorandwm Cymdeithasiad?

O dan Ddeddf 2006, mae'r Memorandwm Cymdeithasiad yn ddogfen sefydlog a gaiff ei chwblhau drwy gynnwys manylion y tanysgrifwyr. Bydd yn dweud eu bod am ffurfio cwmni, yn cytuno i ddod yn aelodau ac y byddant yn cymryd o leiaf un gyfran os yw'r cwmni wedi'i gyfyngu drwy gyfrannau. Bydd pob tanysgrifydd hefyd yn dilysu'r Memorandwm.

Oherwydd cynnwys yr wybodaeth hon, ni fydd angen diweddaru'r Memorandwm mwyach. Ond bydd angen o hyd i gwmnïau ffeilio Erthyglau wedi'u diweddaru pryd bynnag y gwneir newid i'w cyfansoddiad

Brig
Ein polisi ar gwcis