|
|
Cwestiynau Cyffredin am Ddiweddariad i bolisi cwmnïau tramor gofrestru morgeisiau neu arwystlon O 1 af Hydref 2011 ymlaen, nid yw’r gofyniad i gwmnïau tramor gofrestru morgeisiau neu arwystlon yn berthnasol mwyach. Mae’r gofyniad i gofrestru morgeisiau neu arwystlon o dan Reoliad 10 o Reoliadau Cwmnïau Tramor (Gweithredu Dogfennau a Chofrestru Arwystlon) 2009, yn cael ei ddiddymu gan reoliad 2(3) o Reoliadau Cwmnïau Tramor (Gweithredu Dogfennau a Chofrestru Arwystlon) (Diwygio) 2011. Bydd yr hysbysiad Cwestiynau ac Atebion hwn yn esbonio beth mae’r newidiadau’n ei olygu i chi a’ch cwmni. C. Ydi Tŷ’r Cwmnïau’n mynnu fy mod i’n cofrestru arwystlon ar gyfer cwmni tramor? A. Ar gyfer morgeisiau neu arwystlon sy’n cael eu creu gan gwmnïau tramor ar neu ar ôl 1 Hydref 2011, ar eiddo’r cwmni a saif yn y Deyrnas Unedig, nid oes unrhyw ofyniad i gofrestru’r arwystlon gyda’r Cofrestrydd Cwmnïau. Ni fydd angen ffeilio Ffurflen OS MG01 mwyach. C. Oes yn rhaid o hyd i mi gofrestru’r arwystl gyda Thŷ’r Cwmnïau os cafodd y morgais neu’r arwystl ei greu ar neu cyn 30 Medi 2011? A. Ar gyfer cwmnïau tramor sydd wedi creu arwystlon penodedig ar eiddo cwmnïau a saif yn y Deyrnas Unedig gyda dyddiad creu ar neu cyn 30 Medi 2011, rhaid iddynt barhau i gofrestru’r arwystlon hyn yn unol â Rheoliad 10 o Reoliadau Cwmnïau Tramor (Gweithredu Dogfennau a Chofrestru Arwystlon) 2009. Mae hyn yn cynnwys yr achosion hynny lle nad yw’r arwystl wedi cael ei gyflwyno cyn pen 21 diwrnod ar ôl y dyddiad creu a lle bo’r cyfnod a ganiateir ar gyfer cofrestru wedi cael ei ymestyn o dan orchymyn llys. Mae cofrestru arwystl o’r fath yn cael ei gyflawni trwy anfon ffurflen OS MG01 i Dŷ’r Cwmnïau gyda chopi ardystiedig o’r offeryn (os oes un) gyda’r ffi gofrestru o £13. C. Mae gennyf arwystl wedi’i gofrestru eisoes gyda Thŷ’r Cwmnïau. A allaf ffeilio datganiad bodloni yn ei erbyn? A. Bydd Tŷ’r Cwmnïau’n parhau i dderbyn datganiadau bodloni yn erbyn unrhyw wystlon a gafodd eu creu cyn 1af Hydref 2011. C. Ble allaf i gael mwy o wybodaeth am gofrestru arwystlon i gwmnïau tramor? A. Gweler Cwmnïau Tramor wedi’u cofrestru yn y DU – GPO1 ar wefan Tŷ’r Cwmnïau. |
||