Bydd unrhyw wybodaeth yr ydych chi neu’ch cwmni’n ei chyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau’n cael ei gosod ar y gofrestr gyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth a gyflwynir sy’n ymwneud â chorffori cwmni, cyfrifon cwmni, ffurflenni blynyddol, penodiadau cyfarwyddwr/ysgrifennydd a gwybodaeth am gyfranddeiliaid.
O dan Ddeddf Cwmnïau 2006 mae’n ofynnol i gyfarwyddwyr ddarparu cyfeiriad cyflwyno dogfennau ar gyfer y cofnod cyhoeddus a all fod yn wahanol i’w cyfeiriad preswyl arferol. Mae pob cyfeiriad preswyl arferol yn cael ei gadw ar gofnod ar wahân y mae’r mynediad iddo’n gyfyngedig ac mewn rhai amgylchiadau penodol mae’n bosibl y bydd unigolion yn gallu cyfyngu ar ddatgelu eu cyfeiriad preswyl arferol. I gael rhagor o gyfarwyddyd gweler
Pan fo unigolyn yn cael ei benodi fel swyddog cwmni mae Deddf Cwmnïau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i rywfaint o wybodaeth benodol gael ei chynnwys fel rhan o’i benodiad. Ar gyfer cyfarwyddwr bydd hyn yn cynnwys eich enw, cyfeiriad, galwedigaeth, cenedligrwydd a dyddiad geni. Mae’r wybodaeth hon yn ofynnol o dan y gyfraith a bydd yn cael ei gosod ar y gofrestr gyhoeddus.
Ystyrir y dyddiad geni’n ddarn pwysig o wybodaeth i gadarnhau hunaniaeth. Fel cofrestrfa gyhoeddus mae’r dyddiad geni’n ei gwneud yn bosibl i’r wybodaeth a gedwir gan Dŷ’r Cwmnïau fod mor unigryw ag sy’n bosibl. Bernir ei bod er budd y cyhoedd i oed, cenedligrwydd a galwedigaeth cyfarwyddwr cwmni fod yn hysbys. Yn arbennig, mae angen y dyddiad geni ar y rheiny sy’n chwilio trwy wybodaeth yn Nhŷ’r Cwmnïau gan nad oes unrhyw ffordd arall o fod yn sicr a yw dau gyfarwyddwr gyda’r un enw ac weithiau’r un cyfeiriad yn un unigolyn mewn gwirionedd.
Mae’r Ddeddf Diogelu Data’n diogelu gwybodaeth bersonol ond mae hefyd yn cynnwys rhai esemptiadau penodol. Mae Adran 34(c) o’r Ddeddf hon yn dweud bod data personol wedi’u hesemptio rhag darpariaethau’r Ddeddf ar beidio â datgelu os yw’r data’n wybodaeth y mae rhwymedigaeth ar y rheolydd data, gan neu o dan unrhyw ddeddf, i sicrhau ei bod ar gael i’r cyhoedd. Byddai gwybodaeth amdanoch chi fel un o swyddogion cwmni cyfyngedig yn dod o dan yr esemptiad hwnnw oherwydd bod Deddf Cwmnïau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cofrestrydd gasglu a chyhoeddi gwybodaeth benodol am gwmnïau, gan gynnwys manylion cyfarwyddwyr.
Caiff unrhyw unigolyn edrych ar y gofrestr gyhoeddus a chaiff ofyn am gopi o unrhyw ddeunydd sy’n rhan o’r gofrestr gyhoeddus o dan Adrannau 1085 ac 1086 o Ddeddf 2006. Ni all y Cofrestrydd wrthod unrhyw gais ar sail ei gymhelliad, nac ar sail pwy yw’r ceisydd, ac nid oes ganddo’r pŵer i reoli beth mae trydydd parti’n ei wneud gyda’r wybodaeth mae wedi’i phrynu. Mae unrhyw sefydliad trydydd parti sy’n arddangos eich manylion ar y rhyngrwyd yn gyfrifol am sicrhau ei gydymffurfiaeth ei hun â chyfraith hawlfraint ac egwyddorion diogelu data.
Mae gwybodaeth statudol yn cael ei chadw am gyfnod amhenodol ar gyfer cwmnïau byw. Mae gwybodaeth statudol am gwmnïau sydd wedi’u diddymu’n cael ei harchifo o’n gwasanaethau cynnyrch 20 mlynedd ar ôl i’r cwmni gael ei ddiddymu. Fodd bynnag, ar hyn o bryd gellir cael gwybodaeth wedi’i harchifo am gwmnïau sydd wedi’u diddymu o wneud cais, naill ai o Dŷ’r Cwmnïau neu o’r Archifau Gwladol sy’n cadw’n barhaol ganran o wybodaeth am gwmnïau sydd wedi’u diddymu, ar sail eu gwerth hanesyddol.