|
|
Cwestiynau Cyffredin am Swyddfa Cyfreithwyr Erlyn Pam y buodd ichi bigo arna i a'm cwmni, a finnau'n gwybod am gwmnïau eraill sy'n 'dianc yn rhydd' ers blynyddoedd? Mae'n system gyfrifiadurol yn gallu adnabod yn awtomatig gwmnïau sy'n methu â chyflwyno'u cyfrifon neu eu ffurflenni blynyddol yn brydlon. Os gwyddoch am unrhyw gwmnïau sy'n hwyr yn cyflwyno'r dogfennau hyn, byddem yn falch o gael clywed y manylion. Gallwn gymryd camau i'w herlyn ar ddiwrnod cyntaf eu methiant i gydymffurfio ond ein nod pennaf yw sicrhau'r ddogfen/dogfennau (d)dyledus yn hytrach nag erlyn. Pam eich bod yn erlyn cwmnïau bach? Mae gan bob cwmni, bach a mawr, gyfrifoldeb i ffeilio cyfrifon a ffurflenni blynyddol yn brydlon. Yn yr un modd, mae cyfarwyddwyr anweithredol/segur yr un mor gyfrifol â 'phrif' gyfarwyddw(y)r. Oes rhaid imi fynd i'r llys? Does dim rheidrwydd arnoch i wneud. |
||