|
|
Cofrestru Newid Enw trwy benderfyniad NM01c Rhestr Gyfeirio er mwyn Osgoi Oedi Llenwch eich penderfyniad arbennig mewn teip du yn ddelfrydol, neu mewn llawysgrifen du tywyll, gan ddefnyddio papur A4 (80-100gsm2) am y caiff eich dogfen ei sganio’n electronig. Disgrifir y gofynion yn eu cyfanrwydd yn ein llyfryn canllaw, GP1 - Corffori ac Enwau. Y ffordd gyflymaf o gael copi o’r llyfryn yw trwy ein gwefan neu trwy ffonio +44 (0)303 1234 500. Gellir cael gwybodaeth am fformat derbyniol ar gyfer penderfyniadau arbennig i newid enw oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau trwy ffonio +44 (0)303 1234 500. A yw enw’r cwmni ar gael? A ydych chi wedi holi Canolfan Gysylltu Tŷ’r Cwmnïau trwy ffonio +44 (0)303 1234 500 neu edrych ar y gwasanaeth Saesneg Mynegai o Enwau a Chyfeiriadau Cwmnïau? (Noder: ni ellir neilltuo enwau). A oes gair neu ymadrodd sensitif yn yr enw? Darllenwch ein llyfryn canllaw, GP1 - Corffori ac Enwau. Y ffordd gyflymaf o gael copi o’r llyfryn yw trwy ein gwefan neu trwy ffonio +44 (0)303 1234 500. A ydych chi wedi sicrhau bod rhif ac enw cyfredol y cwmni wedi cael eu nodi’n gywir? A ydych chi wedi sicrhau bod y dyddiad, y lleoliad a’r math o gyfarfod wedi cael eu nodi’n gywir? A oes un o swyddogion y cwmni wedi llofnodi’r penderfyniad, neu wedi ei ardystio fel gwir gopi o’r penderfyniad gwreiddiol? A yw’r ffi angenrheidiol o £10 ynghlwm? A ydych wedi llenwi’r ffurflen NM01c yn gywir a’i chyflwyno ynghyd â’r penderfyniad a’r ffi? I gael gwybodaeth am ddulliau eraill o newid enw cwmni, darllenwch ein llyfryn canllaw, " GP1 – Corffori ac Enwau " * Rhaid talu’r holl ffioedd i ‘Dŷ’r Cwmnïau'.
|
||