|
|
Cwestiynau Cyffredin am Gofrestru Cwmni Newydd Pam fod angen i bob un o’r tanysgrifwyr lofnodi’r Ffurflen IN01? Er mwyn dangos eu bod yn cydsynio i weithredu yn y cyd-destun a nodir yn y memorandwm, a’u bod yn derbyn y dyletswyddau a’r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth y swydd. Pam bod rhaid i'r tanysgrifwyr neu'r asiantiaid lofnodi ffurflen IN01c pan fyddant ran amlaf eisoes wedi llofnodi'r memorandwm. Maen nhw'n llofnodi i ddangos eu bod, fel perchnogion neu gynrychiolwyr y perchnogion, yn cydsynio i'r unigolion a nodir fel cyfarwyddwyr neu ysgrifenyddion weithredu dros y cwmni yn y rhinwedd honno. A oes yna waharddiad ar weithredu fel cyfarwyddwr cwmni o dan oedran arbennig? Ni chaniateir penodi cyfarwyddwyr o dan 16 oed. A ganiateir i swyddogion cwmni roi cyfeiriad corfforaethol neu rif Blwch Post fel cyfeiriad? Rhaid i swyddog cwmni nodi ei gyfeiriad preswyl arferol (URA) a chyfeiriad cyflwyno hysbysiadau. Ni fydd y cyfeiriad preswyl yn ymddangos ar y cofnod cyhoeddus ond caiff y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau ei gyhoeddi. Gall y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau fod yn gyfeiriad corfforaethol. Yn y naill achos a’r llall, rhaid i’r cyfeiriadau a roddir fod yn lleoliadau ffisegol, nid yw rhif Blwch SP yn dderbyniol oni bai ei fod yn rhan o gyfeiriad llawn.
Yr amcanion yw yr hyn a wna'r cwmni. New companies are considered to have unrestricted objects unless they specifically insert a clause in their articles detailing them. Disgrifir y fformat a ddisgwylir ar gyfer memoranda yn Rheoliadau Cwmnïau (Cofrestru) 2008 - www.opsi.gov.uk/si/si2008/uksi_20083014_en_1 . Mae Erthyglau Enghreifftiol ar gael ar wefan Tŷ’r Cwmnïau - www.companieshouse.gov.uk/about/modelArticles/modelArticles.shtml. Fel arall, gellir prynu memoranda ac erthyglau cymdeithasu gan ddogfenwyr cyfreithiol/y gyfraith neu asiantau ffurfio cwmnïau am tua £20-£30. Chwiliwch am werthwyr lleol yn y llyfr ffôn. Mae rhagor o wybodaeth am gorffori yn ein llyfryn canllaw GP1 - http://www.tyrcwmniau.gov.uk/welsh/about/gbhtml/gp1_W.shtml A fydd tystysgrifau a roir gan y Cofrestrydd Cwmnïau yn cael eu derbyn at ddibenion rhoi tystysgrifau cyfreithloni? Caiff tystysgrifau a roir gan Dŷ’r Cwmnïau eu stampio neu eu llofnodi’n electronig ond ni dderbynnir mohonynt gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad at ddibenion rhoi tystysgrifau cyfreithloni. Mae’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn mynnu bod dogfennau’n cynnwys y llofnod gwreiddiol neu sêl swyddog cyhoeddus Prydeinig. Er mwyn sicrhau tystysgrif wedi ei llofnodi’n bersonol gan swyddog yn Nhŷ’r Cwmnïau, mae angen i gwsmeriaid ofyn am ‘dystysgrif ardystiedig’. ‘Gellir archebu ‘tystysgrifau ardystiedig’ drwy:
Ffioedd tystysgrifau ardystiedig Gwasanaeth 4 diwrnod gwaith £20.00 Am wybodaeth bellach ynghylch cyfreithloni dogfennau, ymwelwch ag http://www.fco.gov.uk (Cliciwch ar 'Legalisation' yn y ddewislen i'r chwith). Ydy cofrestru enw fy nghwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau yn golygu y gwarchodir fy nod masnach hefyd? Nac ydy. Mae’r gyfraith cwmnïau yn wahanol i’r gyfraith nodau masnach. Ni allwch atal rhywun rhag defnyddio nod masnach sydd yr un fath â’ch un chi, neu’n debyg iddi, trwy gofrestru eich enw gyda Thŷ’r Cwmnïau yn unig. I gael rhagor o gyngor ar gofrestru eich nod masnach, ffoniwch Swyddfa Eiddo Deallusol y DU ar 08459 500 505 neu ewch i’w gwefan sef www.ipo.gov.uk Dylech sicrhau nad yw enw eich cwmni’n groes i nod masnach. Chwiliwch y gofrestr nodau masnach yn y Swyddfa Eiddo Deallusol Cewch chwilio cofrestr Nominet UK am yr holl enwau parth sy’n gorffen gyda .uk Sawl swyddog sydd i fod mewn cwmni? Mae’n ofynnol i gwmnïau benodi o leiaf un cyfarwyddwr sy’n berson naturiol, sef yn unigolyn |
||