Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau Cyffredin am Wasanaethau Yr Un Diwrnod

Mae gwasanaeth yr un diwrnod yn cyfeirio at ddogfennau a ddanfonir at y Cofrestrydd sydd, o dalu ffi premiwm, yn cael eu rhoi ar y trywydd cyflym a'u prosesu ar y diwrnod y dônt i law.

Proses Bapur Yr Un Diwrnod
Mae'r gwasanaeth corffori yr un diwrnod yn darparu ar gyfer cofrestru enw cwmni (os yw ar gael) a chasglu neu anfon tystysgrifau ar y diwrnod. Fel arfer mae lluniau'r dogfennau a gyrchir trwy wasanaethau ar-lein Tŷ'r Cwmnïau ar gael cyn pen 3 diwrnod gwaith.

C.Pa ddogfennau a ellir eu ffeilio ar sail "yr un diwrnod"?

A. Cwmnïau Cyfyngedig:

  • Corffori yr un diwrnod,
  • Newid enw yr un diwrnod,
  • Ailgofrestru a newid enw cydamserol yr un diwrnod,
  • Ailgofrestru yr un diwrnod,
  • Lleihau cyfalaf trwy ddatganiad solfedd yr un diwrnod,
  • Lleihau cyfalaf trwy orchymyn llys yr un diwrnod.

Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC):

  • Corffori PAC yr un diwrnod,
  • Newid enw PAC yr un diwrnod.

Cwmnïau Tramor:

  • Cofrestru sefydliad yn y DU o Gwmni Tramor yr un diwrnod,
  • Newid enw corfforaethol neu enw arall Cwmni Tramor yr un diwrnod

Partneriaethau Cyfyngedig (PC):

  • Cofrestru Partneriaeth Gyfyngedig yr un diwrnod

C.Ydi Tŷ'r Cwmnïau'n cynnig gwasanaethau eraill yr un diwrnod?

A. Ydi

  • Copi ardystiedig o ddogfen yr un diwrnod trwy'r post
  • Casglu copi ardystiedig o ddogfen yr un diwrnod yn un o Ganolfannau Gwybodaeth Tŷ'r Cwmnïau,
  • (Copi o) dystysgrif Corffori yr un diwrnod trwy'r post,
  • Casglu (copi o) dystysgrif Corffori yr un diwrnod yn un o Ganolfannau Gwybodaeth Tŷ'r Cwmnïau,
  • Copi ychwanegol dros ffacs o dystysgrif yr un diwrnod

C. Beth yw'r prisiau am y gwasanaethau yr un diwrnod?

A. Codir ffi uwch am wasanaethau yr un diwrnod nag am y gwasanaethau safonol cyfatebol. Mae hyn oherwydd costau ychwanegol y broses trywydd cyflym. Gellir gweld rhestr brisiau lawn ar gyfer holl gynhyrchion, ffeiliadau a gwasanaethau Tŷ'r Cwmnïau ar: http://www.tyrcwmniau.gov.uk/welsh/toolsToHelp/ourPrices_W.shtml 

C. Sut ydw i'n sicrhau yr ymdrinnir â'm ceisiadau yr un diwrnod?

A. Wrth ffeilio ceisiadau ‘yr Un Diwrnod' drwy'r post, drwy gludwr, neu â llaw, dylai pobl sy'n cyflwyno wirio bod yr holl ddogfennau perthnasol ac unrhyw dystiolaeth ategol (os yw'n berthnasol) wedi'u cynnwys a bod y ffi briodol wedi'i hamgáu.

Dylai dogfennau gael eu cyflwyno mewn amlen â'r geiriau "GWASANAETH YR UN DIWRNOD" wedi'u hysgrifennu'n glir ar y gornel chwith uchaf mewn inc du trwm. Dylai'r amlen gael ei danfon i swyddfa briodol Tŷ'r Cwmnïau dim hwyrach na 15.00 y prynhawn dydd Llun i ddydd Gwener. Os yw'r eitem yn cael ei hanfon gyda chludwr, dylai cwsmeriaid sicrhau bod y geiriau "GWASANAETH YR UN DIWRNOD" wedi'u hysgrifennu'n glir ar amlen y cludwr hefyd.  

Bydd un siec i dalu am yr holl geisiadau amgaeedig yn dderbyniol a dylid gwneud sieciau'n daladwy i "Tŷ'r Cwmnïau".

I gael gwybodaeth am Swyddfeydd Tŷ'r Cwmnïau ewch i: http://www.tyrcwmniau.gov.uk/welsh/contact/contactUs_W.shtml

Brig
Ein polisi ar gwcis