Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau Cyffredin am Gofrestru Cyfaddawd neu Drefniadau

Sut y gall cwmni gofrestru cyfaddawd neu drefniadau â’i gredydwyr neu ei aelodau (o dan adran 895 o Ddeddf Cwmnïau 2006)?

Ni fydd grym i orchymyn llys sy’n cymeradwyo cynllun trefnu nes i gopi swyddogol gael ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau er mwyn cofrestru. Mae rhai cynlluniau trefnu yn agored i doll stamp ac eraill heb fod. Yn y ddau achos, mae arnom angen cadarnhad ysgrifenedig Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).

I gofrestru gorchymyn yn cymeradwyo cynllun trefnu, mae’n rhaid ichi anfon atom:

  • copi swyddogol o’r gorchymyn llys;
  • y cynllun trefnu; a
  • (os yw’r cynllun trefnu heb ei stampio) cadarnhad ysgrifenedig HMRC (a sicrheir fel arfer drwy’r Swyddfa Stampio) fod toll stamp wedi ei thalu neu nad yw toll stamp yn daladwy yng nghyswllt y cynllun.
Brig
Ein polisi ar gwcis