Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau Cyffredin am Ysgrifenyddion

A fydd arna i angen ysgrifennydd ar ôl Ebrill 2008?

O 6 Ebrill 2008 ymlaen, bydd cwmnïau preifat yn cael dewis a drefnir ysgrifennydd cwmni neu beidio. Os bydd y cwmni'n penderfynu peidio â bod ag ysgrifennydd mwyach ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd angen iddo roi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau ar ffurflen TM02c.

Pryd y bydd y newidiadau o ran ysgrifenyddion cwmni yn dod i rym?

Ar 6 Ebrill 2008 ymlaen, daeth y ddarpariaeth sy'n galluogi cwmnïau preifat i ddewis a ydynt am fod ag ysgrifennydd cwmni neu beidio yn dod i rym.

A gaiff cwmni fod ag un cyfarwyddwr yn unig a dim ysgrifennydd?

Caiff, cyhyd â'i fod yn gwmni preifat ac o 1af Hydref 2008 bod y cyfarwyddwr yn berson naturiol.

Oes rhaid i ysgrifennydd hefyd fod yn berson naturiol neu a all fod yn gorfforaethol?

Nid yw'r darpariaethau newydd ynglŷn â chyfarwyddwyr naturiol yn gymwys i ysgrifenyddion. Gall ysgrifenyddion fod yn gorfforaethol o hyd.

A fydd yn ofynnol i'r cwmni ddiwygio'i Erthyglau?

Bydd yn ofynnol i'r cwmni ddiwygio'i Erthyglau os oes cyfeiriad penodol at ysgrifennydd i'r cwmni. Ond os at ddyletswyddau ysgrifennydd yn unig y mae'r Erthyglau'n cyfeirio, does dim angen diwygio.

Wrth i'r cwmni ddiwygio'i Erthyglau, pa ddogfennaeth y mae'n rhaid ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau?

Rhaid i'r cwmni gyflwyno penderfyniad ysgrifenedig neu arbennig, ynghyd â fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r Erthyglau.

Pryd bydd gweddill y darpariaethau sy'n ymwneud ag ysgrifenyddion yn dod i rym?

Daeth y rhain yn dod i rym ar 1 Hydref 2009. O'r dyddiad hwnnw ymlaen, ma modd i ysgrifenyddion sy'n berson unigol ffeilio cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau er mwyn y cofnod cyhoeddus ac mae’n yn ofynnol i ysgrifenyddion corfforaethol roi manylion eu lleoliad cofrestru a rhif cofrestru'r cwmni lle bo hynny'n gymwys.

Brig
Ein polisi ar gwcis