Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Pa god SIC ddylwn i ei ddefnyddio?

Os ydych chi’n ffeilio’ch ffurflen flynyddol gyntaf bydd angen i chi ddewis eich cod SIC i ddweud beth yw’ch prif weithgarwch busnes. Defnyddir cod SIC (Dosbarthiad Diwydiannol Safonol) i ddynodi natur busnes cwnni neu’r math o weithgarwch economaidd mae’n ymgymryd ag ef. Hyd yn oed os yw eich cwmni yn segur (99999) neu’n anfasnachol (74990), rhaid dangos hyn gan ddefnyddio’r cod SIC priodol.

Mabwysiadodd Tŷ’r Cwmnïau’r fersiwn diweddaraf o SIC 2007 ar 1Hydref 2011 ac mae angen i bob cwmni sy’n ffeilio ei ffurflen flynyddol ar ôl y dyddiad hwn roi’r fersiwn diweddaraf o’i god SIC. 

I’ch helpu i ddewis y cod mwyaf priodol i’ch busnes chi, defnyddiwch un o’r dolenni canlynol:

Yn ffeilio’ch ffurflen flynyddol gyntaf ac angen cael hyd i god newydd?
chwilio trwy’r rhestr o godau SIC

Ar hyn o bryd mae’ch cwmni’n defnyddio fersiwn 2003 o’r codau SIC ac rydych angen cael hyd i’r cod 2007 cyfatebol?
chwilio trwy Dabl Trosi codau SIC

Mwy o wybodaeth am SIC 2007

Tŷ’r Cwmnïau
Arddangosiad fideo WebFiling
Gweld pa mor symyl yw hi i ddefnyddio WebFiling
i gyflwyno’ch dogfennau... (Saesneg yn unig)

Brig
Ein polisi ar gwcis