Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 
 

Cwestiynau Cyffredin am Weinyddiad Arbennig: Hysbysiad i Ymarferwyr Ansolfedd

C. Beth yw’r Gweinyddiad Arbennig Banc Buddsoddi (Lloegr a Chymru)?

A. Daeth Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011 i rym ar 8fed Chwefror 2011. Mae Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi wedi cael ei gyflwyno i sicrhau y byddai cyn lleied o darfu ag sy'n bosibl ar y marchnadoedd ariannol pe bai cwmni buddsoddi'n methu.

Yn dilyn gweithredu'r Rheoliadau, daeth Rheolau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi (Lloegr a Chymru) 2011 i rym ar 30ain Mehefin 2011. O dan y Rheolau hyn mae'n ofynnol i ddogfennau gael eu cyflwyno i Gofrestrydd Cwmnïau Lloegr a Chymru.

Noder nad yw'r Rheolau hyn yn berthnasol yng Gogledd Iwerddon. Daeth Rheolau Gweinyddiad Arbennig (Yr Alban) i rym ar 14 Tachwedd 2011.

C. Beth fydd rhaid imi ffeilio gyda Chofrestrydd Cwmnïau ynglŷn â Banc Buddsoddi sy’n mynd i Weinyddiad Arbennig?

A. Os ydych yn Ymarferydd Ansolfedd sy'n ymwneud â Gweinyddiad Arbennig Banc Buddsoddi, mae Cyfrol 2 o'n Rheolau'r Cofrestrydd yn nodi'r anodiadau sy'n ofynnol i ffurflenni sy'n bodoli eisoes er mwyn cyflwyno gwybodaeth i'r Cofrestrydd. Bydd angen i chi anodi'r ffurflenni perthnasol fel eu bod yn gymwys i achosion Gweinyddiad Arbennig a chyflwyno'r ffurflenni i'r Cofrestrydd Cwmnïau. Gweler y ddolen isod i gael rhestr o'r ffurflenni a'r anodiadau perthnasol sy'n ofynnol.

Tabl o'r ffurflenni i gael eu defnyddio a'r anodiadau i gael eu gwneud

I gael mwy o wybodaeth am Weinyddiad Arbennig i Fanciau Buddsoddi, ewch i wefan Trysorlys Ei Mawrhydi neu cliciwch yma i weld y ddogfen ymgynghori.

Tabl o'r ffurflenni Saesneg i gael eu defnyddio a'r anodiadau i gael eu gwneud mewn Gweinyddiad Arbennig

Y rheol neu reoliad y cyflwynir y ddogfen i'r cofrestrydd o dani / o dano Rhif ac enw'r ffurflen Yr anodiad sy'n ofynnol i'r ffurflen
Rheol 51(4) 2.12B(CH)
Hysbysiad am Benodi Gweinyddydd
  • Yn lle 'Rheol 2.27' rhodder 'Rheol 51(4)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
Rheol 54(7) 2.16B
Hysbysiad am ddatganiad amgylchiadau
  • Yn lle 'Rheol 2.29' rhodder 'Rheol 54(7)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
Rheol 59(1) 2.17B
Datganiad cynigiadau gweinyddydd
  • Yn lle 'Rheol 2.33' rhodder 'Rheol 59(1)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
Rheol 61(3) 2.18B(CH)
Hysbysiad am estyn cyfnod amser
  • Yn lle 'Rheol 2.33' rhodder 'Rheol 61(3)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
  • Dileer 'mae Paragraff 49(5)(b) o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 (“yr Atodlen”) wedi cael ei estyn i (c)'
  • Dileer 'mae Paragraff 50(1)(b) o'r Atodlen wedi cael ei estyn i (c)'
  • Yn lle 'Paragraff 51(2)(b) o'r Atodlen' rhodder 'Paragraff 51(2)(b) o'r Atodlen fel y'i cymhwysir gan reoliad 15 o Reoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'
Rheol 65(1) 2.22B(CH)
Datganiad o gynigiadau diwygiedig y gweinyddydd
  • Yn lle '2.45' rhodder 'Rheol 65(1)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
Rheol 67(a) 2.23B(CH)
Hysbysiad am ganlyniad cyfarfod y credydwyr
  • Yn lle 'Yn unol ag Atodlen B1, paragraff 53(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheol 67(a)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
Rheol 123(1)(b) 2.24B(CH)
Adroddiad cynnydd y gweinyddydd
  • Yn lle 'Rheol 2.47' rhodder 'Rheol 123(1)(b)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
Rheol 105 2.26B(CH)
Tystysgrif [Ddiwygiedig] o gyfansoddiad pwyllgor y credydwyr
  • Yn lle 'Rheol 2.51' rhodder 'Rheol 105'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
Rheol 131(5) 2.28B
Hysbysiad am orchymyn i ymdrin ag eiddo arwystledig
  • Yn lle 'Rheol 2.66' rhodder 'Rheol 131(5)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
Rheol 223(1) 2.33B
Hysbysiad am orchymyn llys yn terfynu gweinyddiad
  • Yn lle 'Rheol 2.116' rhodder 'Rheol 223(1)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
Rheol 224(1) 2.35B
Hysbysiad am symud o weinyddu i ddiddymu
  • Yn lle 'Rheol 2.118' rhodder 'Rheol 224(1)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
  • Yn lle 'paragraff 84(1) o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986' rhodder 'paragraff 84(1) o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 fel y'i cymhwysir gan reoliad 15 o Reoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
Rheoliad 15 2.36B
Hysbysiad i'r cofrestrydd cwmnïau ynghylch dyddiad diddymu
  • Yn lle 'Rheol 2.118' rhodder 'Paragraff 84(8) o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986, fel y'i cymhwysir gan reoliad 15 o Reoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
  • Yn lle 'paragraff 84(7) o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986' rhodder 'paragraff 84(7) o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 fel y'i cymhwysir gan reoliad 15 o Reoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
Rheol 208(5) 2.38B(CH)
Hysbysiad am ymddiswyddiad gweinyddydd
  • Yn lle 'Rheol 2.121' rhodder 'Rheol 208(5)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
Rheol 209(6), 210(a) neu 211(2) 2.39B
Hysbysiad bod gweinyddydd yn gadael ei swydd
  • Yn lle 'Rheol 2.122' rhodder 'Rheol 209(6), Rheol 210(a), Rheol 211(2)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
Rheol 218(1) 2.40B
Hysbysiad am benodi gweinyddydd newydd / ychwanegol
  • Yn lle 'Rheol 2.128' rhodder 'Rheol 218(1)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
Rheol 32(7) neu 50(3)(d) 4.15A
Hysbysiad am benodi datodydd dros dro mewn achos dirwyn i ben gan y llys
  • Yn lle 'Rheol 4.26' rhodder 'Rheol 32(7), Rheol 50(3)(d)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
  • Yn lle 'Hysbysiad am benodi datodydd dros dro mewn achos dirwyn i ben gan y llys' rhodder 'Hysbysiad am benodi gweinyddydd dros dro gan y llys'.
  • Yn lle pob cyfeiriad at 'datodydd dros dro' rhodder 'gweinyddydd dros dro'.
Rheol 36(5) neu 50(7) F4.39
Hysbysiad am derfynu penodiad datodydd dros dro
  • Yn lle 'Rheol 4.31' rhodder 'Rheol 36(5), Rheol 50(7)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
  • Yn lle pob cyfeiriad at 'datodydd dros dro' rhodder 'gweinyddydd dros dro'.
  • Dileer 'dyddiad deiseb dirwyn-i-ben'.
Rheol 188(3)(a) F10.2
Hysbysiad i'r cofrestrydd cwmnïau am hysbysiad ymwrthodiad o dan adran 178 o Ddeddf Ansolfedd 1986
  • Yn lle 'Rheol 4.187' rhodder 'Rheol 188(3)(a)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
  • Yn lle 'Adran 178 o Ddeddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Adran 178 o Ddeddf Ansolfedd 1986 fel y'i cymhwysir gan reoliad 15 o Reoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
  • Yn lle pob cyfeiriad at 'datodydd' rhodder 'gweinyddydd'.
Rheol 249(5) 12.1
Hysbysiad i'r cofrestrydd cwmnïau ynghylch gorchymyn o dan adran 176A
  • Yn lle 'Rheol 12A.57' rhodder 'Rheol 249(5)'.
  • Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
  • Yn lle cyfeiriadau at 'Adran 176A' rhodder 'Adran 176A fel y'i cymhwysir gan reoliad 15 o Reoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
  • Yn lle cyfeiriadau at 'Adran 176A o Ddeddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Adran 176A o Ddeddf Ansolfedd 1986 fel y'i cymhwysir gan reoliad 15 o Reoliadau Gweinyddiad Arbennig Banciau Buddsoddi 2011'.
Brig
Ein polisi ar gwcis