Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Rhaid gwneud pob ffi yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’

Cwestiynau Cyffredin am Ddileu o’r Gofrestr, Diddymu ac Adfer

Sut gwna i gais am i gwmni gael ei ddileu o'r Gofrestr?

Llenwch ac anfon atom Ffurflen DS01 gyda ffi ffeilio o £10. Bydd y Cofrestrydd yn darparu'r ffurflen yn unol â'ch cais. Ond dim ond i gwmni y mae dileu o'r Gofrestr yn gymwys, lle nad yw, yn ystod y tri mis diwethaf:

  • wedi masnachu na dilyn busnes mewn ffordd arall;
  • wedi newid ei enw;
  • wedi cael gwared, am werth cyfatebol, ag eiddo neu hawliau a ddaliai, yn union cyn rhoi heibio i fasnachu neu ddilyn busnes, er mwyn elw neu i'w gwerthu yng nghwrs arferol y fasnach neu'r busnes hwnnw; neu
  • wedi dilyn unrhyw weithgarwch arall, ac eithrio un oedd angen neu'n gyfleus er mwyn gwneud cais am i'w enw gael ei ddileu o'r Gofrestr, rhoi trefn ar faterion y cwmni neu gwrdd â gofynion statudol. Gall cwmni wneud cais, fodd bynnag, os yw wedi bodloni dyledion masnachu neu fusnes yn ystod y tri mis diwethaf.

Sylwer: Ni ddylai sieciau fod yn daladwy o gyfrif y cwmni sy’n gwneud cais am ddileu o’r gofrestr

(Gweler nodiadau canllaw ' Dileu o'r Gofrestr, diddymu ac adfer' am fanylion llawn sut i wneud cais.)

Sut gwna i gais am adfer cwmni i'r Gofrestr?

Mae dwy ffordd am adfer cwmni i’r Gofrestr. Drwy orchymyn llys yw’r ffordd gyntaf a thrwy Adferiad Gweinyddol yw’r llall.

Pwy all wneud cais am adferiad drwy orchymyn llys?

Aelod neu gredydydd i'r cwmni, a hynny o fewn 20 mlynedd i'r diddymu. Os diddymwyd y cwmni yn sgîl cais o dan adran 1003 y Ddeddf Cwmnïau 2006, gall cais gael ei gyflwyno hefyd gan unrhyw un o'r partïon y mae'n rhaid rhoi gwybod iddynt am y cais. Gweler nodiadau canllaw ' Dileu o'r Gofrestr, diddymu ac adfer' am ragor o wybodaeth.

Ble gwna i gais?

I'r Uchel Lys, Cofrestrfa'r Dosbarth neu Lys Sirol sydd ag awdurdodaeth i ddirwyn y cwmni i ben.

Beth yw'r costau?

Fel arfer, byddai costau'r Cofrestrydd rhwng £250 a £300 a byddai'n rhaid i'r ymgeisydd eu bodloni. Hefyd, ceir ffioedd y cyfreithiwr a chostau'r llys i'w thalu.

Am ragor o wybodaeth am adferiad trwy orchymyn llys gweler ein llyfryn canllaw ‘Dileu o’r Gofrestr, Diddymu ac Adfer’.

Sut i wneud cais am Adferiad Gweinyddol

Adran 1024 of Ddeddf Cwmnïau 2006

Cyflwynodd Deddf Cwmnïau 2006 broses newydd i adfer cwmni i’r gofrestr yn weinyddol heb orfod mynd i’r llys. Mae cwsmeriaid yn cael anhawster anfon y wybodaeth gywir i Dŷ’r Cwmnïau yn brydlon. Nod y wybodaeth isod yw helpu cwsmeriaid i wneud pethau’n iawn y tro cyntaf

Beth yw Adferiad Gweinyddol?

O dan rhai amgylchiadau lle cafodd cwmni ei ddiddymu am ei bod yn ymddangos nad oedd yn cynnal busnes neu’n gweithredu mwyach, gall cyn-gyfarwyddwr neu aelod o’r cwmni wneud cais i’r cofrestrydd i adfer y cwmni i’r gofrestr. Gelwir hyn yn ‘adferiad gweinyddol’. Os yw’r cofrestrydd yn adfer y cwmni, ystyrir ei fod wedi parhau i fodoli pe na bai wedi cael ei ddiddymu a’i ddileu o’r gofrestr. Mae Adran 1025 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn disgrifio’r gofynion o ran adferiad gweinyddol.

Mae adferiad gweinyddol ar gael os cafodd y cwmni ei ddileu o dan:

  • adran 652 o Ddeddf Cwmnïau 1985, neu
  • adrannau 1000 a 1001 o Ddeddf Cwmnïau 2006.
  • adran 603 o Orchymyn Cyfuno Cwmnïau (Darpariaethau Canlyniadol) (Gogledd Iwerddon) 1986 (OS 1986/1035 (NI 9)  

Pwy gaiff wneud cais i adfer cwmni i’r gofrestr?

Dim ond cyn-gyfarwyddwr neu gyn-aelod o’r cwmni, oedd yn gyfarwyddwr neu’n aelod o’r cwmni adeg diddymu’r cwmni, gaiff wneud cais.

A ellir gwneud cais am adferiad gweinyddol mewn perthynas ag unrhyw gwmni?

Na ellir. I fod yn gymwys ar gyfer adferiad gweinyddol, rhaid i’r cwmni:

  • fod wedi cael ei ddileu o’r gofrestr o dan adrannau 1000 a 1001 o Ddeddf Cwmnïau 2006 neu adran 652 o Ddeddf Cwmnïau 1985 neu adran 603 o Orchymyn Cyfuno Cwmnïau (Darpariaethau Canlyniadol) (Gogledd Iwerddon) 1986 (OS 1986/1035 (NI 9)
  • bod wedi ei ddiddymu am gyfnod sy’n llai na chew blynedd ar y dyddiad pan ddaw’r cais am adferiad i law’r cofrestrydd.

Os yw cwmni’n bodloni’r meini prawf hyn, gellir cyflwyno cais am adferiad os yw’n bodloni’r amodau canlynol:

  • rhaid iddo fod wedi body n parhau i gynnal busnes neu weithredu adeg ei ddiddymu
  • os gwnaed unrhyw eiddo neu hawliau o feddiant y cwmni yn bona vacantia, rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno ysgrifenedig gan gynrychiolydd perthnasol y Goron sy’n cydsyno i adferiad y cwmni i’r cofrestrydd. Gelwir datganiad o’r fath yn ‘Llythyr ildio hawl Bona Vacantia’, a rhaid iddo ddod oddi wrth gynrychiolydd perthnasol y Goron. Codir ffi am y llythyr.

Diddymu cwmnïau Lloegr a Chymru gydag achosion datod gorfodol dros ddeng mlwydd oed

Mae Tŷ’r Cwmnïau’n symleiddio ei broses i ddiddymu cwmnïau Lloegr a Chymru sydd wedi bod yn cael eu datod yn orfodol ers deng mlynedd neu ragor ac sydd heb gysylltu â Thŷ’r Cwmnïau ers deng mlynedd.

C. Pam mae Tŷ’r Cwmnïau’n symleiddio ei broses?

A. Er mwyn dileu cwmnïau o’r cofnod cyhoeddus nad oes eu hangen mwyach.

C. Sut mae gan Dŷ’r Cwmnïau’r pŵer i wneud hyn?

A. Mae Adran 1001(1) o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn dweud, lle mae cwmni’n cael ei ddirwyn i ben ac mae gan y cofrestrydd achos rhesymol i gredu (i) nad oes unrhyw ddatodydd yn gweithredu/mae’r cwmni wedi cael ei ddirwyn i ben yn llwyr a (ii) nad yw’r datodydd wedi cyflwyno’r ffurflenni gofynnol am gyfnod o chwe mis olynol, rhaid i’r Cofrestrydd gyhoeddi yn y Gazette ac anfon at y cwmni neu’r datodydd hysbysiad y caiff y cwmni ei ddileu o’r gofrestr a’i ddiddymu ymhen tri mis oni ddangosir rheswm i’r gwrthwyneb.

C. Pa broses fydd Tŷ’r Cwmnïau’n ei dilyn i ddileu’r cwmnïau hyn?

A. Lle mae cwmni, gyda datodydd wedi’i benodi, wedi bod yn cael ei ddatod yn orfodol ers deng mlynedd neu ragor ac nad yw’r datodydd wedi cysylltu â’r cofrestrydd ers deng mlynedd, bydd Tŷ’r Cwmnïau’n anfon hysbysiad at y datodydd i’r cyfeiriad hysbys diwethaf i roi gwybod iddo am ein bwriad i ddileu’r cwmni o’r gofrestr. Os na cheir ymateb caiff hysbysiad ffurfiol ei anfon yn dweud, oni ddangosir rheswm i’r gwrthwyneb, y byddwn yn dileu’r cwmni o’r gofrestr a’i ddiddymu cyn pen tri mis.                                   

Mewn achosion lle mae’r Derbynnydd Swyddogol wrth ei waith ac nad yw datodydd wedi cael ei benodi, bydd Tŷ’r Cwmnïau’n anfon hysbysiad i’r Gwasanaeth Ansolfedd ar ffurf rhestr o gwmnïau i gael eu dileu o’r gofrestr gan ddweud, oni ddangosir rheswm i’r gwrthwyneb, y caiff enw pob cwmni a grybwyllir yn yr hysbysiad ei ddileu o’r gofrestr a’i ddiddymu ar ddiwedd tri mis o ddyddiad yr hysbysiad.

C. Rwy’n gweithredu fel Ymarferydd Ansolfedd dros gwmni sydd wedi bod yn cael ei ddatod yn orfodol ers mwy na deng mlynedd ac mae’r gweithrediadau ansolfedd yn parhau. Beth mae’n rhaid i mi ei wneud?

A. Ffeiliwch unrhyw ddogfennau sydd heb eu cyflwyno neu rhowch hysbysiad ysgrifenedig bod y cwmni’n dal i gael ei ddatod yn orfodol ac ni fydd Tŷ’r Cwmnïau’n cymryd unrhyw gamau pellach.

C. Rwyf wedi cael hysbysiad yn dweud, oni ddangosir rheswm i’r gwrthwyneb, y bydd Tŷ’r Cwmnïau’n dileu’r cwmni o’r gofrestr a’i ddiddymu cyn pen tri mis. Beth mae’n rhaid i mi ei wneud?

A. Ffeiliwch unrhyw ddogfennau sydd heb eu cyflwyno neu rhowch hysbysiad ysgrifenedig bod y cwmni’n dal i gael ei ddatod yn orfodol a bydd Tŷ’r Cwmnïau’n rhoi’r gorau i weithredu i ddileu’r cwmni o’r gofrestr.

Am ragor o wybodaeth am adferiad trwy orchymyn llys gweler ein llyfryn canllaw ‘Dileu o’r Gofrestr, Diddymu ac Adfer’.

Brig
Ein polisi ar gwcis