Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau Cyffredin am Ddatgeliadau Masnachu

Ble mae’n rhaid imi ddatgelu enw fy nghwmni?

Rhaid i bob cwmni ddangos ei enw cofrestredig:

- yn ei swyddfa gofrestredig a’i fan archwilio. Fodd bynnag, mae cwmnïau segur wedi’u heithrio o 1 Hydref 2008 ymlaen.
- mewn unrhyw leoliad lle mae’r cwmni’n cynnal busnes. Ond os defnyddir y lleoliad hwnnw’n bennaf fel lle byw (er enghraifft, cyfeiriad cyfarwyddwr), caiff y cwmni ei eithrio.
- ar ohebiaeth a dogfennau busnes y cwmni. Mae hyn yn cynnwys copïau caled o ddogfennau neu’r diwyg electronig neu unrhyw ddiwyg arall.

Sut mae’n rhaid datgelu enw’r cwmni?

Rhaid i enw’r cwmni gael ei ddangos yn ddi-baid, ond o fis Hydref 2008 ymlaen, os ydych yn un o chwech neu ragor o gwmnïau sy’n rhannu swyddfa neu fan busnes, dim ond am bymtheg eiliad bob tair munud y bydd yn ofynnol ichi ddangos yr enw. Hwyrach y byddwch am fanteisio ar arddangosiadau electronig at y diben hwn.

Oes rhaid i enw cyhoeddedig y cwmni fod yr un fath yn union â’r enw cofrestredig?

O fis Hydref 2008 ymlaen, caiff mân amrywiadau ar ffurf yr enw eu caniatáu, gan gynnwys amrywio llythrennau bach a mawr, defnydd atalnodi, acenion, ac ati, a fformadu. Ond rhaid i’r gwahaniaethau beidio ag arwain at beryg dryswch.

Beth sydd angen imi ei ddangos ar fy llythyrau busnes, ar archebion ac ar wefannau?

Enw, rhif, man cofrestru a swyddfa gofrestredig y cwmni.

Alla i i wneud cais am fanylion cwmni yn ysgrifenedig?

Gallwch. O fis Hydref 2008 ymlaen, caiff rhywun fynnu gwybodaeth yn ysgrifenedig gan gwmni y mae’n delio ag ef, gan gynnwys cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, unrhyw fan archwilio a’r math o gofnodion cwmni a gaiff eu cadw yn y swyddfa neu’r fan honno. Rhaid i’r cwmni anfon ymateb ysgrifenedig i’r person hwnnw o fewn pum diwrnod gwaith i gael y cais.

Beth sy’n digwydd os bydd y cwmni’n methu cydymffurfio â’r gofynion datgelu masnachu?

Bydd y cwmni a phob un o’i swyddogion sy’n methu cydymffurfio yn cyflawni tramgwydd a gall fod yn agored i’w ddirwyo.

Ond o fis Hydref 2008 ymlaen cafodd yr atebolrwydd sifil personol ei ddileu. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, pe bai swyddog yn llofnodi siec ar ran y cwmni, na fydd mwyach yn bersonol atebol i ddeiliad y siec am unrhyw arian.

Brig
Ein polisi ar gwcis