Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Ffeilio ar-lein

Pam ffeilio ar lein?

  • Mae ffeilio ar lein yn arbed amser – ffeiliwch yn uniongyrchol o’ch cyfrifiadur personol  
  • Mae llai o debygolrwydd y caiff dogfennau eu gwrthod diolch i’r cyfleusterau dilysu a’r data parod
  • Cewch neges gydnabod yn awtomatig trwy e-bost
  • Gallwch ffeilio Ffurflen Flynyddol ar lein am gost sylweddol lai na chost ei ffeilio ar bapur.
  • Gellir ffeilio gwybodaeth arall gan gynnwys newidiadau i gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig, gwybodaeth am swyddogion/aelodau yn ogystal â chyfrifon cwmni a newid enw trwy benderfyniad (safonol £8, yr un diwrnod £30).

Mae WebFiling yn darparu’r gallu i gael:

  • e-Atgoffa – ffordd hwylus, effeithiol a DI-DÂL o wybod pryd mae cyfrifon a ffurflenni blynyddol eich cwmni i fod i gael eu ffeilio.
  • PROOF (PROtected Online Filing) – amddiffyniad DI-DÂL i’ch cwmni neu PAC rhag cael ei herwgipio trwy rwystro ceisiadau i newid cyfeiriad eich swyddfa gofrestredig neu fanylion y cyfarwyddwyr heb yn wybod i chi.

Cofrestru

Cyn defnyddio WebFiling, rhaid i chi gofrestru ar gyfer;

  • Cyfrinair (sy’n gysylltiedig â’ch cyfeiriad e-bost)
  • Cod Dilysu (a gaiff ei anfon drwy’r post i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig)

Pan fydd gennych chi eich Cyfrinair a’ch cod dilysu , cewch fewngofnodi i WebFiling a dechrau ffeilio ar lein.

Ffeilio ar-lein
Brig
Ein polisi ar gwcis