System ddiogel yw hon i gwsmeriaid gyflwyno eu ceisiadau i gorffori cwmni ar lein.
|
|
Gwasanaeth Corffori ar y We Tŷ’r CwmnïauBeth yw’r Gwasanaeth Corffori ar y We?System ddiogel yw hon i gwsmeriaid gyflwyno eu ceisiadau i gorffori cwmni ar lein. Pryd fydd y gwasanaeth ar gael?Fe’i rhoddwyd ar waith ar 6ed Ebrill 2011. Bydd y gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Pa fathau o gwmni a ellir eu corffori gan ddefnyddio’r gwasanaeth?Gellir corffori’r mathau canlynol o gwmni gan ddefnyddio’r gwasanaeth corffori ar y we: Faint mae’n costio?I gyflwyno corfforiad eich cwmni £15 yw’r ffi Sut ydw i’n talu?Gellir talu ar lein gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd, neu drwy Gyfrif Credyd Gwasanaethau Ffeilio Ar-lein y cytunwyd arno eisoes. All Tŷ’r Cwmnïau fy helpu i ffurfio fy nghwmni?Gall Tŷ’r Cwmnïau roi cyfarwyddyd i chi ar ffurfiau a dulliau corffori cwmni, ar ddewis enw i’ch cwmni, a hefyd rhoi cyngor cyffredinol ar faterion megis gofynion ffeilio. Fodd bynnag, ni allwn roi cyngor i chi am gynnwys erthyglau’ch cwmni, neu ai cwmni yw’r cyfrwng gorau i’ch busnes. Os nad ydych yn siŵr am unrhyw agwedd ar ffurfio cwmni, dylech ystyried ceisio cyngor proffesiynol gan gyfreithiwr, cyfrifydd neu asiant ffurfio cwmnïau. Sut ydw i’n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth corffori ar y we?Mae angen i chi roi cyfeiriad e-bost a chyfrinair i ddefnyddio’r gwasanaeth. Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda gwasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau, gallwch fewngofnodi i’r Gwasanaeth Corffori ar y We gan ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair. Sut roddir gwybod i mi a yw fy nghorfforiad wedi cael ei dderbyn ai peidio?Os yw’ch cais am gorfforiad wedi cael ei dderbyn, anfonir neges e-bost atoch cyn pen rhyw 2 ddiwrnod; bydd yn cynnwys cadarnhad o rif eich cwmni ac enw’ch cwmni. Bydd eich tystysgrif corfforiad a’ch memorandwm cymdeithasiad yn cael eu hatodi i’r neges e-bost ar fformat PDF. Beth yw’r dystysgrif corfforiad?Mae’r dystysgrif yn dystiolaeth derfynol y cydymffurfiwyd â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 o ran cofrestru a bod y cwmni wedi’i gofrestru’n briodol o dan y Ddeddf hon. Bydd y dystysgrif yn nodi:
Bydd y dystysgrif wedi’i dilysu gan sêl swyddogol y cofrestrydd. A fyddaf yn gallu cadw’r data rwyf wedi’i roi i mewn a dychwelyd ato’n ddiweddarach?Gallwch, gallwch gadw’ch cais ar unrhyw adeg yn y broses hyd at yr adran ‘Talu’, trwy glicio ar y botwm Allgofnodi a Gorffen yn Ddiweddarach ('Log out and Finish Later' ) yn y gornel dde uchaf ar y sgrin. Caiff y wybodaeth corffori ei chadw am 90 diwrnod, ond ni fydd yr enw cwmni a roddwyd i mewn yn cael ei gadw ac ni ellir ei warantu. I ddychwelyd at gorfforiad a ddechreuwyd ynghynt, y cwbl mae angen i chi ei wneud yw mewngofnodi gyda’ch cyfeiriad e-bost a chyfrinair; a bydd y gwasanaeth yn eich gwahodd i barhau â’r corfforiad neu ei ddileu. Oes yna fwy o wybodaeth am sut i gwblhau’r adrannau yn y gwasanaeth?Ceir nodiadau a chyfarwyddyd helaeth yn y gwasanaeth sy’n esbonio pa wybodaeth y mae ei hangen. Mae angen cwblhau’r sgriniau yn olynol; fodd bynnag gallwch gadw’r wybodaeth sydd wedi’i rhoi i mewn eisoes a dychwelyd at y cais yn ddiweddarach. Caiff crynodeb o’r data a roddwyd i mewn ei ddangos ar ddiwedd pob adran ac ar ddiwedd y broses gwneud cais, gyda’r dewis i newid unrhyw fanylion os oes angen. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi mwy o gyfarwyddyd ar y broses corffori yn y canllaw ‘Corffori ac Enwau’. Ydw i’n gallu cofrestru dogfennau corffori yn ddwyieithog?Cewch. O 6 Ebrill 2013 gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Corffori ar y We i gofrestru dogfennau corffori ar gyfer cwmni yn Gymraeg a Saesneg, cyhyd ag y bo’r cwmni sy’n cael ei gorffori yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni fod yng Nghymru hefyd. Bydd y sgriniau WebFiling yn eich tywys chi drwy’r broses. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi mwy o gyfarwyddyd ar y broses corffori yn y canllaw ‘Corffori ac Enwau’. |
|