Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Termau

 

Aelod Dynodedig- gweler aelod Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)

Aelod nad yw’n Ddynodedig  - gweler aelod Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)

Aelod Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig(PAC) Aelod o PAC yw person, endid naturiol neu endid corfforaethol a benodir i redeg busnes Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC). Caiff aelod o PAC ei benodi naill ai fel Aelod Dynodedig neu fel Aelod nad yw’n Ddynodedig. Mae gan Aelodau Dynodedig yr un hawliau a dyletswyddau â’r aelodau eraill (nad ydynt yn ddynodedig), ond mae ganddynt gyfrifoldebau ychwanegol hefyd, fel awdurdodi dogfennau i’w cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Gall aelod newid ei statws o ran dynodiad. Gall PAC ddewis penodi aelodau dynodedig yn unig neu benodi rhai aelodau dynodedig heb ddynodi’r lleill. Rhaid i bob PAC fod ag o leiaf dau aelod dynodedig, wedi eu penodi’n ffurfiol, ar bob adeg

Ap Symudolrhaglen ddi-dâl  yn Saesneg yw hon sy’n caniatáu i ddefnyddwyr chwilio cofnodion Tŷ’r Cwmnïau a gweld manylion sylfaenol cwmnïau o’u dyfais symudol iOS (Apple) neu Android.

Ardal Economaidd Ewrop (AEE) - Ardal economaidd yw hon sy’n cwmpasu aelodau’r Undeb Ewropeaidd (UE) a nifer o’i reoliadau, gan gynnwys y gyfraith cwmnïau. Dyma wledydd sy’n cynnwys yr Ardal Economaidd Ewrop yn gyredol: Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, Estonia, Ffrainc, Gweriniaeth y Tsieciaid, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Gwlad Pwyl, Hwngari, Iwerddon, Latifa, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Romania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden, Y Deyrnas Unedig, Y Ffindir, Ynys yr Iâ, Yr Almaen, Yr Eidal, Yr Iseldiroedd

Arian Treigl - Gall cyfalaf cyfrannau cwmni fod mewn unrhyw arian treigl o’i ddewis, ond rhaid i CCC fod ag isafswm awdurdodedig o £50,000 (Sterling) neu €65,600 (Ewro). Gall unrhyw gwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau drosi ei gyfalaf cyfrannau, neu unrhyw ddosbarth o’i gyfalaf cyfrannau i fathau eraill o arian treigl trwy gymeradwyo penderfyniad (yn amodol ar unrhyw waharddiad neu gyfyngiad sydd yn ei erthyglau).

Arian Treigl Etifeddol - Yr arian treigl etifeddol yw’r mathau o arian treigl a oedd mewn cylchrediad cyn yr Ewro yn Awstria, y Ffindir, yr Eidal, Gwlad Belg, Ffrainc, Lwcsembwrg, yr Almaen, Gwlad Groeg, yr Iseldiroedd, Sbaen, Iwerddon a Phortiwgal.

Barclaycard SmartPay - Mae Barclaycard SmartPay yn borth talu diogel a gaiff ei ddefnyddio gan Dŷ'r Cwmnïau i gasglu manylion eich cerdyn talu.

Blaengyfrannau - Mae hawl yn gysylltiedig â Blaengyfrannau fel rheol sy’n golygu bod unrhyw fuddrannau blynyddol sydd ar gael i’w dosbarthu’n cael eu talu’n flaenoriaethol cyn unrhyw ddosbarthiadau eraill o gyfrannau.

Blaengyfrannau Cronnol - Mae hawl ynghlwm wrth Flaengyfrannau Cronnol sy’n golygu y gellir dwyn buddrannau ymlaen i’r blynyddoedd nesaf os nad oes modd eu talu cyn pen un flwyddyn.

Canolfan Cyswllt - Mae Canolfan Gyswllt Tŷ’r Cwmnïau yn ymdrin ag ymholiadau cyffredinol am gwmnïau cyfyngedig ac yn derbyn archebion am ddogfennau cwmni. Ffôn. +44(0) 303 1234 500, Minicom 029 20381245

Canolfannau Gwybodaeth – Mae gan Dŷ’r Cwmnïau Ganolfannau Gwybodaeth yng Nghaerdydd, Llundain, Caeredin a Belffast. Mae’r rhain yn agored i’r cyhoedd i archwilio a ffeilio gwybodaeth am gwmnïau.

Cerdyn Credyd neu ddebyd - Mae Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn y Cardiau Credyd a Debyd canlynol - Visa, MasterCard, Switch / Solo, Delta, American Express a Diners Card.

Clustnodi -Clustnodi yw’r broses sy’n gwneud pobl yn aelodau o gwmni. Mae’r tanysgrifwyr yn cytuno i gymryd cyfrannau adeg corffori ac ystyrir bod y cyfrannau wedi cael eu ‘clustnodi’ i bob aelod adeg corffori. Gellir derbyn rhagor o bobl yn aelodau o’r cwmni wedyn, a chaiff cyfrannau eu clustnodi ar eu cyfer. Fodd bynnag, rhaid i’r cyfarwyddwyr beidio â chlustnodi cyfrannau heb awdurdod y cyfranddeiliaid cyfredol. Nodir yr awdurdod naill ai yn erthyglau cymdeithasu'r cwmni neu fe’i rhoddir i’r cyfarwyddwyr trwy benderfyniad a gymeradwyir mewn cyfarfod cyffredinol o’r cwmni.  

Cod Dilysu- Cod alffaniwmerig 6 digid ar gyfer WebFiling yw’r Cod Dilysu. Mae’n eich galluogi i gyflwyno data ar gyfer cwmni unigol. Y Cod Dilysu yw’r fersiwn electronig o lofnod swyddog cwmni. Mae’n caniatáu i ddata gael ei gyflwyno yn electronig ar gyfer cwmni unigol ac mae’n union gysylltiedig â rhif y cwmni. Mae WebFiling yn gofyn am ddau god i gyflwyno data, Cyfrinair a Chod Dilysu. Anfonir y Cod Dilysu drwy’r post at Ysgrifennydd y Cwmni yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni cyn pen 5 diwrnod gwaith

Cod Diogelwch - Cod alffaniwmerig 8-32 digid yw’r Cod Diogelwch. Mae’n eich galluogi chi i gyflwyno gwybodaeth eich cwmni trwy WebFiling. Anfonir y cod diogelwch trwy e-bost i’r cyfeiriad e-bost a ddarparodd y cyflwynydd. Mae’r Cod Diogelwch yn gysylltiedig â chyfeiriad e-bost y cyflwynydd. Mae angen Cod Diogelwch a Chod dilysu er mwyn defnyddio WebFiling.

Cod SIC - Y SIC (Dosbarthiad Diwydiannol Safonol) yw Prif Gweithgarwch Busnes y cwmni. Gall cwmni ddangos hyd at bedwar cod SIC.

Cofnodion Cwmni - Cofnodion a chofrestrau (e.e. cofrestr o aelodau, cofrestr o gyfarwyddwyr ac ati) a gedwir gan y cwmni yw'r rhain. Maent ar gael i’w harchwilio naill ai yn swyddfa gofrestredig y cwmni neu mewn cyfeiriad SAIL (sef, lleoliad archwilio amgen unigol). Mae 12 gwahanol fath o gofnodion cwmni a gellir cadw rhai neu bob un ohonynt yn dibynnu ar y math o gwmni sydd dan sylw a’i amgylchiadau.

Cofrestr Aelodau - Y Gofrestr o Aelodau yw’r cofnod cyfreithiol o holl drafodion y cwmni o ran ei gyfrannau. Cedwir y Gofrestr yn y swyddfa gofrestredig fel rheol, ond gellir ei chadw mewn cyfeiriad amgen

Cofrestr Aelodau PAC - Cofrestr yw hon a gedwir gan y PAC ac mae’n cynnwys manylion yr holl aelodau (pobl a chorfforaethol) gan gynnwys enwau a chyfeiriadau cyflwyno hysbysiadau. Rhaid i’r ‘Gofrestr o Aelodau’r PAC’ fod ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd.

Cofrestr Cyfarwyddwyr - Cofrestr yw hon a gedwir gan y cwmni ac mae’n cynnwys manylion pob cyfarwyddwr (boed yn berson neu’n gorfforaethol) gan gynnwys enwau, cyfeiriadau cyflwyno hysbysiadau a manylion cyffredinol. Rhaid i’r ‘Gofrestr Cyfarwyddwyr’ fod ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd.

Cofrestr Cyfeiriadau Preswyl Aelodau PAC - Cofrestr yw hon sy’n cynnwys dim ond cyfeiriad preswyl arferol pob Aelod o’r PAC (pobl yn unig). Ni ddylid datgelu’r ‘Gofrestr o Gyfeiriadau Preswyl Aelodau’r PAC’ na’i rhyddhau i’r cyhoedd. Dylai’r PAC ddefnyddio’r wybodaeth yn y gofrestr hon at ddibenion cyfathrebu â’r aelodau ac er mwyn diweddaru’r cofnodion y mae Tŷ’r Cwmnïau yn eu cadw yn unig.

Cofrestr Cyfeiriadau Preswyl Cyfarwyddwyr - Cofrestr yw hon sy’n cynnwys dim ond cyfeiriad preswyl arferol pob cyfarwyddwr (pobl yn unig). Ni ddylid datgelu’r ‘Gofrestr o Gyfeiriadau Preswyl Cyfarwyddwyr’ na’i rhyddhau i’r cyhoedd. Dylai’r cwmni ddefnyddio’r wybodaeth yn y gofrestr hon at ddibenion cyfathrebu â’r cyfarwyddwr ac er mwyn diweddaru’r cofnodion y mae Tŷ’r Cwmnïau yn eu cadw yn unig.

Cofrestr Dyledebwyr - Y Gofrestr Ddyledebwyr yw’r cofnod cyfreithiol o holl ddyledebwyr cwmni. Cedwir y Gofrestr yn y swyddfa gofrestredig fel rheol, ond gellir ei chadw mewn cyfeiriad amgen

Cofrestr ysgrifennyddion - Cofrestr yw hon a gedwir gan y cwmni ac mae’n cynnwys manylion pob Ysgrifennydd (pobl a chorfforaethol) fel enwau a chyfeiriad cyflwyno hysbysiadau. Rhaid i’r ‘Gofrestr o Ysgrifenyddion’ fod ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd.

Companies House Direct - Gwasanaeth Saesneg i danysgrifwyr yw Companies House Direct. Fe’i defnyddir i gyrchu a dadlwytho gwybodaeth am gwmnïau.

Corffori- Ystyr corffori cwmni yw sefydlu a chofrestru cwmni atebolrwydd cyfyngedig gyda Thŷ’r Cwmnïau.

Cosbau Ffeilio Hwyr - Cyflwynwyd Cosbau Ffeilio Hwyr (CFfH) ym 1992 er mwyn annog cyfarwyddwyr cwmnïau cyfyngedig i ffeilio eu cyfrifon yn brydlon am fod rhaid iddynt ddarparu’r wybodaeth statudol yma ar gyfer y cofnod cyhoeddus

Cwmni AEE (Ardal Economaidd Ewrop) - Cwmni AEE yw un y mae Cyfarwyddeb Gyntaf y Gyfraith Cwmnïau (68/151/EEC) yn berthnasol iddo. Yn achos cwmnïau AEE, mae gofyn i chi ddarparu manylion y gofrestr lle cedwir ffeil y cwmni (gan gynnwys y wladwriaeth berthnasol), plws y gofrestr (y gofrestr ganolog, y gofrestr fasnachol, y gofrestr cwmnïau) fel y’i disgrifiwyd yn Erthygl 3 o’r Gyfarwyddeb. Ni phennir a yw cwmni’n gwmni AEE ai peidio yn ôl a yw'r cwmni wedi ei leoli’n ddaearyddol yn un o wledydd yr AEE ai peidio

Cwmni o’r tu hwnt i’r AEE (Ardal Economaidd Ewropeaidd) - Cwmni o’r tu hwnt i’r AEE yw cwmni nad yw Cyfarwyddeb Gyntaf y Gyfraith Cwmnïau (68/151/EEC) yn berthnasol iddo. Mae cwmni o’r tu hwnt i’r AEE naill ai’n gorff corfforedig neu’n gwmni sy’n berson cyfreithiol o dan y gyfraith sy’n ei lywodraethu, fel Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig yn y DU, Partneriaeth Gyfyngedig yn yr Alban, LLC o’r Unol Daleithiau ac ati. Nid yw lleoliad daearyddol o fewn un o wledydd yr AEE yn pennu a yw cwmni yn gwmni AEE ai peidio .

Cyfalaf Cyfrannau - Wrth ffurfio cwmni, rhaid penderfynu a fydd atebolrwydd ei aelodau wedi ei gyfyngu trwy gyfrannau ai peidio. Bydd y memorandwm cymdeithasu yn datgan faint o gyfalaf cyfrannau y bydd gan y cwmni, a sut caiff y cyfalaf cyfrannau ei rannu yn gyfrannau o swm sefydlog. Rhaid i’r aelodau gytuno i gymryd rhai o’r cyfrannau, neu’r cyfan ohonynt wrth gofrestru’r cwmni. Rhaid i’r memorandwm cymdeithasu ddangos enwau’r bobl sydd wedi cytuno i gymryd perchnogaeth ar gyfrannau a nifer y cyfrannau a fydd gan bob un. Gelwir y bobl hyn yn danysgrifwyr

Cyfalaf Dosbarthedig - Y cyfalaf dosbarthedig yw gwerth y cyfrannau a ddosbarthwyd i’r cyfranddeiliaid. Cyfeiria hyn at werth nominal y cyfrannau yn hytrach na’u gwerth gwirioneddol.

Cyfarwyddwr - Mae cyfarwyddwr yn berson, endid naturiol neu gorfforaethol, a benodir gan aelodau’r cwmni i redeg y cwmni ar eu rhan. Gall cyfarwyddwr weithredu fel cyfarwyddwr ac fel ysgrifennydd. Rhaid i bob cwmni fod ag o leiaf un cyfarwyddwr sy’n berson naturiol ac sydd dros 16 oed.

Cyfeiriad Cyflwyno Dogfennau - Lleoliad lle gellir cyflwyno dogfennau a hysbysiadau swyddogol er sylw swyddog y cwmni yw’r cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau. Bydd y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau a ddarperir yn ymddangos ar y cofnod cyhoeddus. Ers cyflwyno newidiadau i’r ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar fanylion cyfeiriadau, nid oes angen Gorchymyn Cyfrinachedd mwyach i ddarparu cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau ar gyfer y cofnod cyhoeddus

Cyfeiriad Swyddfa Gofrestredig Cyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw ‘cartref’ y cwmni. Dyma lle’r anfonir yr holl ddogfennau swyddogol, hysbysiadau a phapurau llys yn ôl y gyfraith. Gall cyfeiriad y swyddfa gofrestredig fod unrhyw le yn Lloegr, Cymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn dibynnu ble mae’r cwmni wedi ei gofrestru. Pan fo cwmni’n newid cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, rhaid hysbysu Tŷ’r Cwmnïau am y cyfeiriad newydd gan ddefnyddio Ffurflen AD01c.

Cyflwynydd - Y cyflwynydd yw’r person sy’n cyflwyno’r dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau ar ran y cwmni.

Cyfranddeiliad - Aelod o gwmni sy’n berchen ar gyfrannau yn y cwmni yw cyfranddeiliad.

  • Rhaid i gwmnïau Preifat a Chyhoeddus y mae dyddiad diwallu eu Ffurflen Flynyddol cyn 1/10/08 ddarparu enwau a chyfeiriadau’r holl gyfranddeiliaid.
  • Rhaid i gwmnïau Preifat a Chyhoeddus sydd wedi masnachu ar farchnad reoledig ac y mae dyddiad diwallu eu Ffurflen Flynyddol ar 1/10/08 neu ers hynny ddarparu enwau’r cyfranddeiliaid yn unig; rhaid peidio â darparu cyfeiriadau’r cyfranddeiliaid.
  • Rhaid i gwmnïau Cyhoeddus sydd wedi masnachu ar farchnad reoledig ac y mae dyddiad diwallu eu Ffurflen Flynyddol ar 1/10/08 neu ers hynny ddarparu enwau a chyfeiriadau’r cyfranddeiliaid sy’n dal 5% neu ragor o unrhyw ddosbarth o gyfrannau; rhaid dileu’r rhai sydd â llai na 5% cyn cyflwyno’r ffurflen.

Cyfrannau Cyffredin - Cyfrannau’r cwmni heb unrhyw hawliau neu gyfyngiadau arbennig yw’r rhain. Gellir eu rhannu yn ddosbarthiadau o wahanol werthoedd.

Cyfrannau Adenilladwy - Dosberthir Cyfrannau Adenilladwy gyda chytundeb y caiff y cwmni neu’r cyfranddeiliaid ddewis i’r cwmni eu hadbrynu ymhen cyfnod penodedig, neu ar ddyddiad penodol. Ni chaiff cwmni ddosbarthu cyfrannau adenilladwy yn unig.

Cyfrinair - (hefyd yn cael ei adnabod fel Cod Diogelwch) Cod alffaniwmerig 8-32 digid yw’r Cyfrinair. Mae’n eich galluogi chi i gyflwyno gwybodaeth eich cwmni trwy WebFiling. Crëir y cyfrinair gan y cyflwynydd ac mae’n gysylltiedig â chyfeiriad e-bost y cyflwynydd. Mae angen Cyfrinair a Chod dilysu er mwyn defnyddio WebFiling.

Deddf Cwmnïau 2006 - Darn o ddeddfwriaeth sylfaenol yw Deddf Cwmnïau 2006 ac mae’n gymwys yn uniongyrchol i gwmnïau i raddau helaeth. Mae nifer o ddarpariaethau yn cael eu pennu mewn is-ddeddfwriaeth, a hynny’n bennaf ar ffurf rheoliadau neu orchmynion a wneir trwy offerynnau statudol a Rheolau’r Cofrestrydd.

Dirwyn i Ben - Gellir dirwyn cwmni i ben o wirfodd os na all dalu ei gredydwyr. Gall cwmni gael ei ddirwyn i ben drwy orchymyn llys ar ddeiseb ei gredydwr hefyd.

Dosbarth o Gyfrannau - Dosbarth y cyfrannau yw’r enw sy’n gysylltiedig â’r cyfrannau, e.e. cyffredin, blaengyfran neu adenilladwy.

Dyddiad Caffael - Y dyddiad caffael yw’r dyddiad pan gafodd y cyfranddeiliad y cyfrannau.

Dyddiad Corffori - Dyddiad y corfrestrwyd y cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau yw’r dyddiad corffori.

Dyddiad Cyfeirnod Cyfrifeg - Hwn yw’r dyddiad bob blwyddyn y bydd cwmni yn paratoi cyfrifon cyfrifeg, h.y. diwedd y flwyddyn ariannol. Hefyd mae’r dyddiad pan fydd cyfrifon yn ddyledus i’w cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau.

Dyddiad Digwyddiad - Y dyddiad pan ddigwyddodd rhywbeth, fel dyddiad penodi rhywun neu ddyddiad diwallu Ffurflen Flynyddol.

Dyddiad Diwallu - Y dyddiad diwallu yw’r dyddiad pan fo’n rhaid i’r holl wybodaeth ar y Ffurflen Flynyddol fod yn gywir. Dyddiad pen-blwydd Corffori’r cwmni, neu ddyddiad diwallu’r Ffurflen Flynyddol ddiwethaf a gofrestrwyd yn Nhŷ’r Cwmnïau yw’r dyddiad diwallu fel rheol.

Eithriad rhag Datgelu - Eithriad yw hwn rhag datgelu cyfeiriad preswyl arferol y cyfarwyddwr i asiantaethau credyd. Mae’n gymwys i gyfarwyddwyr sydd wedi cael eithriad rhag datgelu o dan adran 243 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn unig. Bydd yr eithriad rhag datgelu yn gymwys hefyd i bobl oedd â Gorchymyn Cyfrinachedd gweithredol (adran 723b o Ddeddf Cwmnïau 1985) ar 01/10/09.

Endid Corfforaethol - Ystyr endid corfforaethol yw pan benodir cwmni yn hytrach nag unigolyn i fod yn swyddog cwmni.

Erthyglau Cymdeithasol - Pennir y rheolau ar gyfer cynnal busnes mewnol y cwmni yn nogfen yr Erthyglau Cymdeithasu.

Ffurflen Flynyddol - Mae Ffurflen Flynyddol yn giplun o wybodaeth benodol cwmni neu Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) ar y dyddiad diwallu. Mae’n ddogfen ar wahân i gyfrifon blynyddol cwmni neu PAC.

Rhaid i’r Ffurflen Flynyddol gynnwys:

  • Enw’r cwmni
  • Y rhif cofrestru
  • Y math o gwmni ydyw, e.e preifat neu gyhoeddus
  • Dyddiad y mae’r ffurflen flynyddol yn ei ddiwallu (y dyddiad diwallu)
  • Cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni
  • Y cyfeiriad (lleoliad archwilio amgen unigol - SAIL) lle y mae’r cwmni yn cadw cofnodion penodol a manylion y cofnodion hyn a gedwir yn y lleoliad hwnnw.
  • Prif weithgareddau busnes y cwmni
  • Manylion ysgrifennydd y cwmni (corfforaethol neu unigol), pan fo hynny’n berthnasol
  • Manylion holl gyfarwyddwyr y cwmni (corfforaethol neu unigol).

Os oes gan y cwmni gyfalaf cyfrannau, hefyd rhaid i’r ffurflen flynyddol gynnwys:

  • Gwerth nominal cyfanswm y cyfalaf cyfrannau dosbarthedig
  • Enwau a chyfeiriadau (os yw hynny’n berthnasol) y cyfranddeiliaid a nifer a math y cyfrannau sydd ganddynt neu y maent yn eu trosglwyddo o gyfranddeiliaid eraill
Rhaid i Ffurflen Flynyddol PAC gynnwys:
  • Enw’r PAC
  • Y rhif cofrestru
  • Dyddiad y mae’r ffurflen flynyddol yn ei ddiwallu (y dyddiad diwallu)
  • Cyfeiriad swyddfa gofrestredig y PAC
  • Y cyfeiriad (lleoliad archwilio amgen unigol - SAIL) lle y mae’r cwmni yn cadw cofnodion penodol a manylion y cofnodion hyn a gedwir yn y lleoliad hwnnw
  • manylion holl aelodau’r PAC (corfforaethol neu unigolion) a ph’un ai aelodau dynodedig ydynt

Ffurflenni Newydd - Cyfeirir at y ffurflenni sy’n ymwneud â Deddf Cwmnïau 2006 fel “ffurflenni newydd” ac ni ddylid eu defnyddio oni bai bod dyddiad y digwyddiad ar 01/10/09 neu ar ôl hynny.

Gorchymyn Cyfrinachedd -  Daeth Gorchmynion Cyfrinachedd i ben ar 01/10/09, ond fe’u caniatawyd gynt o dan Adran 723b o Ddeddf Cwmnïau 1985. Roedd y gorchmynion hyn yn galluogi unigolyn i ddarparu cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau i’w ddangos ar y cofnod cyhoeddus, yn hytrach na chyfeiriad preswyl. Newidiodd y ddeddfwriaeth o ran manylion y cyfeiriadau sy’n ymddangos ar y cofnod cyhoeddus o 01/10/09 ymlaen, ac nid oes angen Gorchymyn Cyfrinachedd mwyach i ddangos cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau ar y cofnod cyhoeddus. Ystyrir bod gan unrhyw unigolion oedd â Gorchymyn Cyfrinachedd gweithredol ar 01/10/09 Eithriad rhag Datgelu sy’n weithredol o dan adran 243 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Gwasanaeth eAtgoffa - Gwasanaeth e-bost sy’n caniatáu cwsmeriaid WebFiling derbyn negeseuon e-bost amserol i’w hatgoffa pryd dylai cyfrifon a ffurflenni blynyddol cael eu ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnï. 

Gwerth nominal - Y gwerth nominal yw wynebwerth y cyfrannau. Hwn hefyd yw’r isafswm y mae’n rhaid ei dalu am gyfrannau. Defnyddir y gwerth nominal i gyfrif gwerth nominal  cyfanred y cyfrannau trwy luosi’r gwerth nominal â nifer y cyfrannau.

Gwlad/Gwladwriaeth Breswyl - Dyma’r Wlad neu’r Wladwriaeth lle mae’r cyfarwyddwr neu’r aelod o’r PAC yn byw. Dylai’r Wlad neu’r Wladwriaeth a enwir fod yn gyson â manylion cyfeiriad y cyfarwyddwr.

Hen Ffurflenni - Cyfeirir at y ffurflenni sy’n ymwneud â Deddf Cwmnïau 1985 fel “hen ffurflenni” ac ni ddylid eu defnyddio oni bai bod dyddiad y digwyddiad cyn 01/10/09.

iXBRL (inline XBRL) - iXBRL yw’r safon data ddarllenadwy i gyfrifiaduron ar gyfer adroddiadau ariannol y mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Thŷ’r Cwmnïau wedi’i mabwysiadu (yn Saesneg) ar gyfer ffeilio cyfrifon yn electronig . Mae iXRBL yn fersiwn diweddarach a mwy hyblyg o XBRL (eXtensible Business Reporting Language).  Ystyrir bod iXBRL yn ddarllenadwy i gyfrifiaduron ac i bobl, ond ystyrir nad yw XBRL ond yn ddarllenadwy i gyfrifiaduron.

Lleoliad Archwilio Amgen Unigol (SAIL) Lleoliad amgen i’r swyddfa gofrestredig yw’r SAIL (Lleoliad Archwilio Amgen Unigol). Gellir cadw cofnodion y cwmni yno a gall y cyhoedd fynd yno i’w harchwilio. Defnyddir y ffurflen AD02 i hysbysu Tŷ’r Cwmnïau am y cyfeiriad SAIL, a defnyddir y ffurflen AD03 i’w hysbysu bod cofnodion y cwmni’n symud i’r cyfeiriad SAIL. Defnyddir ffurflen AD04 i hysbysu bod cofnodion cwmni yn symud o’r cyfeiriad SAIL nôl i’r swyddfa gofrestredig.

Llofnod -  Caiff pob dogfen electronig ei ffeilio gan ddefnyddio Cod Dilysu sy’n hysbys i Dŷ’r Cwmnïau a’r cwmni ei hun a neb arall. Mae’r Cod Dilysu yn cymryd lle llofnod ar y ddogfen.

Llyfrynnau canllaw - Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cynhyrchu nifer o ganllawiau sy’n ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin ac yn cynnig gwybodaeth am sut i fynd ati i ffeilio’r mathau mwyaf cyffredin o ddogfennau ym mhob maes e.e. dechrau cwmni.

Manylion penodedig Mae angen cyflwyno manylion rhagnodedig yn rhan o’r datganiad cyfalaf.

Mathau o Gyfrannau - Y mathau mwyaf cyffredin o gyfrannau yw Cyfrannau Cyffredin, Blaengyfrannau, Cyfrannau Adenilladwy a Chyfrannau Gohiriedig. Gall cwmni greu unrhyw fath o gyfrannau sydd ei angen arnynt gydag unrhyw hawliau y maent yn penderfynu arnynt.

Monitor – Defnyddiwch Monitor o fewn WebCheck neu Companies House Direct i gael hysbysiad trwy e-bost pan fo cwmni ar y gofrestr gyhoeddus yn cyflwyno dogfen. Sylwer: Mae’r tri gwasanaeth yn Saesneg yn unig

Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig - Mae Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig yn fusnes corfforedig amgen sy’n cynnig manteision atebolrwydd cyfyngedig ond yn rhoi’r hyblygrwydd i’w aelodau drefnu eu strwythur mewnol ar ffurf partneriaeth draddodiadol. Mae PAC yn endid cyfreithiol ar wahân, mae’n atebol am ei asedau ond mae atebolrwydd yr aelodau yn gyfyngedig

Penodiadau- Penodiad yw lle bo unigolyn (neu endid corfforaethol) naill ai’n cael ei benodi’n Gyfarwyddwr neu’n Ysgrifennydd cwmni, neu’n aelod PAC o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC).

Prif Gweithgarwch Busnes -  Y Cod SIC sy’n dangos Prif Weithgareddau Busnes y cwmni. Gall y cwmni ddangos hyd at bedwar cod/gweithgaredd ar ei Ffurflen Flynyddol.

PROOF- Cynllun Tŷ’r Cwmnïau i helpu cwmnïau i’w hamddiffyn eu hunain rhag ffeilio trwy dwyll yw PROOF (PROtected Online Filing). Mae’n gweithio trwy dderbyn rhai mathau o ffurflenni ar ffurf electronig yn unig. Caiff fersiynau o’r ffurflenni hyn a gyflwynir ar bapur eu gwrthod.

Rheolau’r Cofrestrydd – O dan Ddeddf Cwmnïau 2006 rhoddir awdurdod i’r Cofrestrydd Cwmnïau wneud rheolau sy’n llywodraethu rhai meysydd penodol mewn perthynas â ffeilio dogfennau yn Nhŷ’r Cwmnïau. Cânt eu hystyried yn is-ddeddfwriaeth, a wneir o dan adran 1117 o’r Ddeddf, ac maent yn cynnwys y ffurf, y modd cyflenwi a’r dull dilysu dogfennau, pa un a gânt eu cyflwyno mewn fformat electronig neu fel dogfen bapur.

Rhif - Rhif unigryw yw hwn (rhif cwmni neu rif PAC) y mae Tŷ’r Cwmnïau yn ei ddyrannu i bob cwmni neu PAC a gorfforir.

Rhif Cyflwyno - Rhif unigryw sy’n gysylltiedig â’ch data yw'r rhif Cyflwyno. Dylech nodi’r rhif hwn. Os nad ydych wedi cael neges e-bost sy’n cadarnhau bod y data wedi cyrraedd cyn pen 3 awr, ffoniwch Ganolfan Gyswllt Tŷ’r Cwmnïau ar +44 (0)303 1234 500.

Seminarau a Digwyddiadau – Bob blwyddyn mae Tŷ’r Cwmnïau yn trefnu neu’n mynychu amrywiaeth o seminarau a digwyddiadau i gefnogi a chynghori busnesau.

Software Filing - Gwasanaeth sy’n galluogi cwmnïau i ffeilio rhai dogfennau penodedig gyda Thŷ’r Cwmnïau gan ddefnyddio meddalwedd 3ydd parti ac ar ffurf data wedi ei fformadu yn hytrach nag ar bapur yw Software Filing.

Swydd y person sy’n awdurdodi’r cyflwyniad - Swydd y person sy’n awdurdodi’r wybodaeth a gyflwynir am y cwmni (e.e. cyfarwyddwr).

Swyddogion - Cyfeiria’r term Swyddog at naill ai Ysgrifennydd, Cyfarwyddwr neu aelod o PAC. Dim ond at yr Ysgrifennydd, y Cyfarwyddwr neu’r ddau y cyfeiria’r term Swyddog Cwmni.

Trosglwyddiad Cyfrannau -  Mae trosglwyddiad cyfrannau yn digwydd pan fo cyfranddeiliad yn penderfynu gwerthu rhai o’i gyfrannau, neu’r cyfan ohonynt. Caiff y cwmni ffurflen trosglwyddo stoc a bydd yn hysbysu Tŷ’r Cwmnïau, ar ôl i’r trosglwyddiad ddigwydd.

WebCheck - Gwasanaeth Saesneg ar wefan Tŷ’r Cwmnïau yw WebCheck. Mae’n cynnig gwasanaeth lle cewch chwilio am wybodaeth am gwmnïau. Byddwch yn talu am y gwasanaethau yr ydych yn eu defnyddio yn unig.

WebFiling - Gwasanaeth ar wefan Tŷ’r Cwmnïau yw WebFiling. Mae’n galluogi cwmnïau i gyflwyno’u gwybodaeth yn electronig.

Wedi’i gysylltu â (cyfeiriad) – fe’i gelwir hefyd Yr un peth â (cyfeiriad).

Wedi masnachu ar farchnad reoledig / cwmni a fasnachwyd- Cwmni cyhoeddus yw hwn y derbyniwyd unrhyw un o’i gyfrannau i fasnachu ar farchnad reoledig (cwmni a fasnachwyd). Mae gofyn i gwmnïau cyhoeddus a fasnachwyd ddarparu enwau a chyfeiriadau’r cyfranddeiliaid sy’n dal 5% neu ragor o unrhyw ddosbarth o gyfrannau.

Rhaid i gwmnïau preifat a chwmnïau cyhoeddus na fasnachwyd ddarparu enwau’r cyfranddeiliaid yn unig - nid oes angen manylion eu cyfeiriadau.

XBRL (eXtensible Business Reporting Language) – gweler hefyd iXBRL.

XML Gateway - Mae XML Gateway Tŷ’r Cwmnïau yn cynnig mynediad electronig yn Saesneg i fathau craidd o wybodaeth am gwmnïau o gronfeydd data Tŷ’r Cwmnïau.

Y rheol 28 diwrnod - Wrth gyflwyno Ffurflen Flynyddol, gall y cwmni newid y dyddiad diwallu i ddyddiad cynharach. Lle bo’r dyddiad a ddewisir dros 28 diwrnod cyn y dyddiad cyflwyno, bydd gofyn i’r cwmni gyflwyno ffurflen bellach hyd at y dyddiad diwallu.

Yr un fath â (cyfeiriad) – (fe’i gelwir hefyd yn “Wedi’i gysylltu â”cyfeiriad) Cyfeiriad yr ystyrir ei fod ‘yr un fath’ â chyfeiriad arall ac a gofnodwyd yng nghofrestr y cwmni (neu’r PAC) ei hun gyda’r datganiad “yr un fath â” – yn hytrach na’i gofnodi fel cyfeiriad llawn (e.e. yng nghofrestr y cyfarwyddwr, mae’r cofnod am gyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn cynnwys y datganiad “yr un fath â chyfeiriad y swyddfa gofrestredig”). Os yw cyfeiriad “yr un fath” â chyfeiriad sydd wedi newid, ystyrir bod y ddau gyfeiriad wedi newid.

Ysgrifennydd- Ysgrifennydd yw person a benodwyd i fod yn brif weinyddwr y cwmni. Nid oes rhaid i gwmni cyfyngedig preifat benodi Ysgrifennydd Cwmni, ond mae’n orfodol i gwmnïau cyfyngedig cyhoeddus. Gall yr Ysgrifennydd a benodir fod yn berson naturiol (ac nid oes unrhyw gyfyngiad ar oedran yn hyn o beth) neu’n endid corfforaethol. Gall Ysgrifennydd weithredu fel cyfarwyddwr ac ysgrifennydd.

Brig
Ein polisi ar gwcis