Mae ein ffioedd wedi newid er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu ein costau'n gywir. Mae Tŷ'r Cwmnïau'n Gronfa Fasnachu ac mae'n rhaid iddo weithredu ar sail adennill costau. O ganlyniad i arbedion effeithlonrwydd sydd wedi cael eu gwneud gan Dŷ'r Cwmnïau, ynghyd â nifer fawr o gwsmeriaid yn defnyddio gwasanaethau electronig, mae arbedion cost yn cael eu trosglwyddo i'n cwsmeriaid ar ffurf ffioedd llai.
Ar 1 Hydref 2012 roedd y ffi newydd yn berthnasol i ffurflen flynyddol, a gyflwynir yn electronig o dan Ddeddf Cwmnïau 2006,a ddaw i law ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
Ar 1 Hydref 2012 roedd y ffi newydd yn berthnasol i ddogfennau corffori, a gyflwynir yn electronig, a ddaw i law ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
Nac ydyn. Ar wahân i'r newidiadau i'r ffioedd corffori electronig a'r ffi ffurflen flynyddol electronig nid yw unrhyw ffioedd cofrestru eraill wedi newid.
Yn dilyn adolygiad o'n costau rydym wedi cyfrifo bod angen i ni dynnu £1 oddi ar y ffioedd sy'n berthnasol i gyflwyno ffurflen flynyddol yn electronig a chorffori trwy feddalwedd, gan eu gostwng o £14 i £13. Mae hyn yn golygu arbed cyfanswm o £2.858 miliwn y flwyddyn i economi'r Deyrnas Unedig.
Mae'r ffioedd cofrestru papur wedi aros yr un peth er gwaethaf y ffaith mai nifer fach o drafodion papur sy'n cael eu ffeilio bellach (mae 97%+ o Gorfforiadau a Ffurflenni Blynyddol yn cael eu ffeilio'n electronig). Mae hyn oherwydd ein bod wedi cymryd i ystyriaeth effeithiau gostyngiadau pellach yn nifer y trafodion papur wrth i ni gyfrifo'r costau fel rhan o reoliadau diwygio ffioedd Ebrill 2011. O ganlyniad nid oes angen codi ffioedd papur ar hyn o bryd.
Un o nodau strategol Tŷ'r Cwmnïau yw darparu cymaint o ddata am gwmnïau ag sy'n bosibl am ddim, yn unol ag Agenda Ddigidol y Llywodraeth.
Yn dilyn adolygiad o'n costau rydym wedi cyfrifo bod angen i ni naill ai gostwng ffioedd chwilio ychydig o geiniogau drwyddi draw neu achub ar y cyfle i ddarparu mwy o wybodaeth am ddim, yn unol â'r nod strategol cyffredinol, a throsglwyddo'r arbedion i chwilwyr.
Rydym wedi penderfynu darparu gwybodaeth am gyfarwyddwyr cwmni fesul cwmni ac adroddiadau am benodiadau am ddim, gan drosglwyddo gwerth £1.992 miliwn o arbedion y flwyddyn i chwilwyr.
Yn unol â'r strategaeth hon, yn ddiweddar rydym wedi darparu mynediad am ddim i swmp-ddata cwmnïau, a ddarperir am ddim eisoes yn ein cynhyrchion chwilio ar y we a Dynodwyr Adnodd Unffurf (URI) trwy Gynnyrch Data Cyhoeddus Am Ddim.
NODER: Mae ffi o £1 yn daladwy o hyd am chwilio am benodiadau
Nid oedd modd i ni newid y ffioedd swmp Cyfeiriad Preswyl Arferol ar 30 Ebrill 2012 oherwydd mae’n rhaid iddyn nhw cael eu gosod mewn rheoliadau, ac nid oeddem wedi cael cymeradwyaeth y gweinidog, ar y pryd, i weithredu'r rheoliadau ffioedd. Roedd angen hefyd i ni aros am Ddyddiad Cydgychwyn seneddol ar gyfer gweithredu rheoliadau e.e. 6 Ebrill neu 1 Hydref.
Rydym wedi dileu'r ffioedd sy'n gysylltiedig â'r holl ddogfennau Deddf 85 neu Gorchymyn 1986, ar wahan i ffurflenni 466 ac LLP 466, mae ffioedd yn daladwy amdanynt oherwydd bod nifer y dogfennau hyn mor fach nes ei bod wedi mynd yn anghymesur cynnal y systemau technoleg gwybodaeth a chyllid ar gyfer cyn lleied o ddogfennau.
Rydym wedi dileu'r broses ffeilio trwy feddalwedd ar gyfer dogfennau Deddf 1985 a Gorchymyn 1986 oherwydd y nifer fach iawn o'r dogfennau etifeddol hyn sy'n cael eu ffeilio. Mae costau cynnal a chefnogi'r systemau technoleg gwybodaeth a ddefnyddir yn y broses hon yn anghymesur o'u cymharu â maint y wybodaeth sy'n cael ei ffeilio fel hyn.
Yn ogystal â dileu'r broses ffeilio meddalwedd rydym hefyd wedi dileu'r ffioedd sy'n gysylltiedig â'r holl ddogfennau Ddeddf Cwmnïau 1985 a Gorchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986. Felly o 1 Hydref 2012 mae’r dogfennau canlynol yr oedd ffioedd yn daladwy amdanynt ar gael i'w ffeilio am ddim:
| Dogfen Deddf Cwmnïau 1985 |
Gofyniad cyflwyno perthnasol |
| Ffurflenni 363a , LLP 363, 371s, LLP371 |
Cyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau gyda dyddiad diwallu cyn 1 Hydref 2009 o dan adran 363 o Ddeddf Cwmnïau 1985 neu erthygl 371 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986 ac fel y'u cymhwyswyd i PAC. |
| Ffurflenni 395, 397, 400, 410, 413, 416, LLP395, LLP397, LLP 400, LLP 410, LLP 413, LLP 416 (Cofrestru Arwystlon) |
Cyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau gyda dyddiad creu cyn 1 Hydref 2009 o dan Ran 12 o Ddeddf Cwmnïau 1985 neu Ran 13 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986, a gofrestrwyd yn hwyr gyda Gorchymyn Llys ac fel y'u cymhwyswyd i PAC. |
| Cyfrifon Cwmni Tramor |
Cyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau mewn perthynas â blwyddyn ariannol a ddaeth i ben cyn 1 Hydref 2009 o dan Ran 23 o Ddeddf Cwmnïau 1985 a Phennod 2, Rhan 23 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986 ac fel y'u cymhwyswyd i PAC. |