Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin
Tŷ’r Cwmnïau yn Cyflwyno Gwasanaeth Gwrth-Gipio |
|||
|
Cynllun PROOF 1. Beth yw PROOF? PROOF yw Ffeilio Ar-lein wedi'i Ddiogelu (PROtected Online Filing). Mae'n ei gwneud yn bosib i gwmnïau eu diogelu eu hunain rhag newidiadau diawdurdod i'w cofnod cwmni gan ei fod yn atal ffeilio rhai ffurflenni papur. Mae'r rhain yn cynnwys dogfennau i benodi/terfynu penodiad/newid manylion swyddogion cwmni a newid y swyddfa gofrestredig. Unwaith eich bod wedi ymuno'n llwyddiannus â'r cynllun, bydd Tŷ'r Cwmnïau yn gwrthod unrhyw fersiynau papur o'r ffurflenni hyn ac yn eu hanfon yn ôl i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig. Bydd hyn o gymorth i sicrhau mai'r cwmni ei hun a wnaeth unrhyw newidiadau a gaiff eu cofrestru. 2. Sut mae cofrestru fy nghwmni ar gyfer PROOF? Mae cynllun PROOF bellach ar gael ar-lein drwy gwasanaeth WebFilling. I ymuno, ni raid ond derbyn yr Amodau a'r Telerau a dewis ‘Ymuno â PROOF'. Ar ôl y sgrin gadarnhau, cewch fwrw ymlaen i ddewislen WebFiling i ffeilio dogfennau. Unwaith bod eich cwmni'n rhan o gynllun PROOF, gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd ymdrechion i ffeilio'r ffurflenni canlynol ar bapur yn cael eu gwrthod:
Er mwyn atal dogfennau papur rhag cael eu gwrthod yn ddiangen mae'n hanfodol bod unrhyw un sydd ag awdurdod i ffeilio ar ran y cwmni yn cael gwybod am y cofrestriad PROOF. Os nad ydych wedi ymuno â gwasanaeth WebFiling, darllenwch manylion pellach. 3. A godir tâl am wasanaeth PROOF? Nac oes. Cynllun di-dâl yw'r cynllun PROOF. 4. Ga i gadarnhad fy mod i wedi cofrestru ar-lein ar gyfer y cynllun PROOF? Cewch. Cyn gynted ag y bydd eich cais electronig wedi'i gyflwyno gennyn ni, fe gewch chi neges e-bost i gadarnhau hynny ac yna pan fyddwn ni wedi prosesu eich cais, cewch neges e-bost bellach i ddweud a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. 5. Rwyf wedi cyflwyno fy nghais am ymuno â PROOF ond ni chefais e-bost i gadarnhau ei fod wedi'i dderbyn. A ddylwn i ailgyflwyno? Na ddylech. Gall ceisiadau am ymuno â PROOF gymryd hyd at 48 awr i'w prosesu. Gwiriwch y dangosydd statws PROOF ar y brif ddewislen i gadarnhau cynnydd eich cais. 6. Sut mae gwybod bod fy nghwmni eisoes wedi cofrestru ar gyfer PROOF Statudol? Cewch weld Statws PROOF eich cwmni ar Sgrin Dewislen WebFiling. Mae blwch newydd ar yr ochr dde'r tudalen sy'n dangos a yw'ch cais ar y gweill neu a gofrestrwyd ar gyfer PROOF neu beidio. .(Sylwer ei bod yn bosib na fydd ceisiadau am adael neu ymuno â PROOF yn ystod y 48 awr ddiwethaf wedi'u cymhwyso eto.) Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer PROOF yn barod, darllenwch C10 am drosglwyddo i PROOF Statudol. 7. Pa ffurflenni y mae cynllun PROOF yn eu cwmpasu? Daw'r dogfennau canlynol o dan y cynllun PROOF
Ffurflenni Deddf Cwmnïau 1985 ar gyfer ‘digwyddiadau' a gododd cyn 01/10/09:
Dim ond y dogfennau uchod a gaiff eu gwrthod o dan y cynllun PROOF; gellir ffeilio unrhyw ddogfennau eraill ar bapur. 8. Ga i ffeilio fersiwn papur o ffurflen os bydd angen imi, hyd yn oed er fy mod i wedi ymuno â PROOF Statudol? Cewch. Bydd angen i chi lenwi ffurflen ‘Caniatâd ar Bapur’. Ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0303 1234 500 i ofyn am ffurflen Caniatâd ar Bapur. Dylid nodi bod defnydd o’r ffurflen Caniatâd ar Bapur yn gyfyngedig yn ôl Amodau a Thelerau PROOF, a dim ond os oes gwir angen y dylid ei defnyddio. 9. Pa ddogfennau eraill y tu allan i'r Cynllun PROOF ga'i ffeilio yn electronig? Cewch ffeilio'r ffurflenni canlynol drwy gyfrwng ein gwasanaeth WebFiling:
Ffurflenni Deddf Cwmnïau 1985 ar gyfer ‘digwyddiadau' a gododd cyn 01/10/09:
10. Os yw fy nghwmni eisoes wedi cofrestru ar gyfer PROOF oes rhaid imi ailgofrestru ar gyfer PROOF Statudol ar-lein? Oes. Mae amodau a thelerau newydd i'r Cynllun PROOF Statudol yn unol â Deddf Cwmnïau 2006. Bydd angen i gwsmeriaid presennol drosglwyddo i'r cynllun newydd ar neu wedi 1 Hydref er mwyn cael mantais y buddion a gynigir gan y cynllun hwn. I drosglwyddo, mewngofnodwch i'r gwasanaeth WebFiling, ticiwch y blwch i gytuno â'r telerau a'r amodau a dewiswch ‘ymuno â PROOF'. 11. Beth fydd yn digwydd os na throsglwyddaf i PROOF Statudol? Mae Tŷ'r Cwmnïau yn annog cwsmeriaid i drosglwyddo i'r cynllun PROOF Statudol newydd mor fuan ag y bydd hynny'n gyfleus iddynt gan y bydd y cynllun presennol yn cael ei dynnu'n ôl yn y pen draw. Gall y cwsmeriaid hynny na fyddant yn trosglwyddo i'r cynllun PROOF newydd gael eu dileu o'r cynllun a bod mewn peryg o ddioddef ffeilio twyllodrus. Os nad ydych wedi ymuno â gwasanaeth WebFiling, bwriwch gip ar ein gwefan am wybodaeth bellach. 3. Sut mae gwybod bod fy nghwmni eisoes wedi cofrestru ar gyfer PROOF? Cewch weld Statws PROOF eich cwmni ar sgrin Dewislen WebFiling. Mae blwch newydd ar yr ochr dde'r tudalen sy'n dangosa yw'ch cais ar y gweill neu a gofrestrwyd ar gyfer PROOF neu beidio. .(Sylwer ei bod yn bosib na fydd ceisiadau am adael neu ymuno â PROOF yn ystod y 48 awr ddiwethaf wedi'u cymhwyso eto.) 12. Sut mae gadael cynllun PROOF? Gallwch adael cynllun PROOF drwy ddethol y ddolen ‘Gadael PROOF yma' ym mlwch Statws PROOF ar y sgrin Dewislen. Cyn gynted ag y bydd eich cais electronig i adael y cynllun wedi'i brosesu'n llwyddianus gennyn ni, fe gewch chi neges e-bost i gadarnhau hynny. Sylwer: Mae gadael cynllun PROOF yn golygu na fydd eich cwmni wedi'i ddiogelu mwyach rhag ffeilio twyllodrus ar bapur. 13. Dwy ddim am ymuno â'r cynllun PROOF electronig.,Sut mae atal yr ysgogiad sy'n ymddangos bob tro y byddaf yn mewngofnodi i'r gwasanaeth WebFiling? Mae'r dudalen yn cael ei dangos i atgoffa'r rhai sydd heb ddiogelu eu cwmnïau rhag i ddogfennau ffug gael eu ffeilio ar bapur, a bydd yn cael ei dangos bob tro y bydd y defnyddiwr yn mewngofnodi i WebFiling, oni bai bod y defnyddiwr wedi ymuno â'r cynllun PROOF ar-lein yn barod. |
|||