Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

17eg Mawrth 2011 - Mwy na miliwn yn cofrestru am gynllun PROOF Tŷ’r Cwmnïau

Ers 2005 mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cynnig cynllun PROtected Online Filing (PROOF) i gwsmeriaid, sydd wedi’i gynnwys yn ein ‘Cynllun 3 Phwynt’ i amddiffyn cwmnïau rhag twyll hunaniaeth gorfforaethol. Mae’r cynllun yn rhad ac am ddim ac yn ychwanegu lefel arall o ddiogelwch at WebFiling. O dan y cynllun, mae cwmnïau’n ein hawdurdodi i wrthod dogfennau penodol oni chânt eu ffeilio’n electronig gan ddefnyddio cyfrineiriau diogel. Ar 4ydd Mawrth cofrestrodd y miliynfed corff ar gyfer y cynllun!

Dywedodd Tim Moss, Cyfarwyddwr Strategaeth Gorfforaethol 'Rydym yn falch iawn o weld cynifer o gwmnïau’n cymryd camau cadarnhaol bellach i frwydro yn erbyn bygythiad dwyn hunaniaeth gorfforaethol a herwgipio cwmni'.

Gellir cael mwy o wybodaeth am dwyll hunaniaeth a chynllun PROOF trwy ddilyn y dolenni canlynol:

http://www.tyrcwmniau.gov.uk/welsh/about/fraud_W.shtml

http://www.tyrcwmniau.gov.uk/welsh/infoAndGuide/proofArticle_W.shtml

Mae cynllun PROOF yn cael ei weinyddu gan ‘Dîm PROOF a Thwyll’ Tŷ’r Cwmnïau.

Tîm y Wasg, Tŷ’r Cwmnïau

press@companieshouse.gov.uk

02920 380161

Brig
Ein polisi ar gwcis