Gwasanaeth PROtected Online Filing (PROOF)Mae Tŷ’r Cwmnïau yn ymwybodol ers tro byd o’r niwed y gall herwgipwyr ei beri i gwmnïau a chyflenwyr nwyddau a gwasanaethau. Wrth herwgipio cwmni, bydd twyllwyr fel arfer yn newid manylion cyfarwyddwyr a swyddfa gofrestredig y cwmni dan sylw. I helpu i ymladd twyll cwmni, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cyflwyno cynllun PROOF (PROtected Online Filing). I ymuno â chynllun PROOF, yn gyntaf mae angen i chi fod wedi’ch cofrestru gyda gwasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau. Ar ôl mewngofnodi i WebFiling, dewiswch y ddolen 'Ymuno â PROOF' ochr yn ochr â’r clo clap ar frig y sgrin trosolwg, yna cytunwch i’r telerau ac amodau a dewis 'Diogelwch y cwmni hwn'. Byddwn yn anfon neges e-bost atoch i gadarnhau bod eich cais wedi llwyddo. Mae’r cynllun wedi’i ddylunio i helpu cwmnïau i ddiogelu eu hunain rhag ffeilio twyllodrus, gan ei fod yn atal unigolion rhag ffeilio rhai ffurflenni ar bapur. Y ffurflenni y mae cynllun PROOF yn eu cwmpasu yw:
Unwaith eich bod wedi cofrestru o dan gynllun PROOF, fel arfer bydd Tŷ’r Cwmnïau yn gwrthod unrhyw fersiynau papur o’r ffurflenni hyn ac yn eu gyrru’n ôl i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig. Mae hyn yn helpu i sicrhau mai’r cwmni ei hun sydd wedi cofrestru unrhyw newidiadau a wneir. Er mwyn atal dogfennau papur rhag cael eu gwrthod yn ddiangen mae’n hanfodol bod unrhyw un sydd ag awdurdod i ffeilio ar ran y cwmni yn cael gwybod am y cofrestriad PROOF. Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn fersiynau papur o’r dogfennau a rhestrir uchod gan gwmnïau sy’n perthyn i’r cynllun PROOF o dan amgylchiadau eithriadol, ond dim ond pan cyflwynir ffurflen ganiatâd wedi ei hawdurdodi gan gyfarwyddwyr y cwmni ar bapur gyda nhw. Dylai’r cwmnïau sydd wedi ymuno â PROOF gysylltu â Thŷ’r Cwmnïau i ofyn am gyngor cyn ffeilio unrhyw ddogfennau ar bapur Sylwer: Os oes anghydfod mewnol yn bwrw ymlaen yn eich cwmni ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i ymuno â chynllun PROOF. Ni all Tŷ’r Cwmnïau ymyrryd mewn anghydfod cwmni mewnol a rhaid i’r gwahanol ochrau geisio cyngor proffesiynol cyfreithiol annibynnol. Pan fydd y Cofrestrydd yn gwbl fodlon bod yr anghydfod mewnol wedi’i ddatrys, daw’r cwmni’n gymwys i ymuno â’r cynllun. Gallwch atal twyll hunaniaeth gorfforaethol trwy ddiogelu’ch cwmni gyda PROOF a ffeilio dogfennau’n electronig gan ddefnyddio ein gwasanaeth WebFiling. Gallwch hefyd ystyried ein gwasanaeth Monitor, sy’n eich rhybuddio pan gaiff dogfennau eu ffeilio ar gofnod eich cwmni, neu unrhyw gwmni arall ar y gofrestr. Telerau ac Amodau PROOF (PDF 404KB) Gwasanaeth Web Filing Gwasanaeth Monitor Dyma ein gwasanaeth rhybuddio am ffeilio dogfennau, a allai helpu’ch busnes trwy eich rhybuddio y funud mae gwybodaeth yn cael ei ffeilio ac ar gael ar gofnod cwmni. |
||