Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Hysbysu Twyll i Dŷ’r Cwmnïau

Sut y gallwn ni helpu

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn asiantaeth weithredol i’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS).  Swyddogaeth Tŷ’r Cwmnïau yw derbyn, storio a lledaenu gwybodaeth am gwmnïau cyfyngedig a rhai cyrff eraill.  Sylwch nad oes gan Dŷ’r Cwmnïau bwerau ymchwilio penodol. 

Mae’r cynnydd mewn Twyll yn fater difrifol ac rydyn ni’n gwerthfawrogi pryderon cwsmeriaid yn llawn, ac yn awyddus i wneud popeth posibl i helpu i ddatrys y materion hyn.

Er hynny, sylwch mai’r cyfan y gallwn ei wneud yw rhoi cyngor am faterion sy’n ymwneud â dogfennau statudol sydd wedi’u ffeilio drwy dwyll ac sydd wedi’i hanfon i Dŷ’r Cwmnïau, megis:

  • Newid cyfeiriad swyddfa gofrestredig heb gymeradwyaeth y cwmni
  • Penodi unigolion yn swyddog i’r cwmni heb yn wybod iddyn nhw neu heb eu cydsyniad
  • Newid enwau cwmnïau heb ganiatâd
  • Defnyddio cyfeiriadau annilys ar gyfer swyddfa gofrestredig cwmni a/neu fel cyfeiriad ar gyfer un o swyddogion y cwmni
  • Anghydfodau mewnol rhwng swyddogion cwmni ynglŷn â ffeilio dogfennau annilys.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi manylion llawn eich cwyn inni, gan gynnwys eich manylion cysylltu.  Dylech roi gwybod am unrhyw honiadau o dwyll sy’n ymwneud â ffeilio’r dogfennau hyn i’r heddlu hefyd gan mai’r heddlu yw’r awdurdod priodol i ymdrin â materion o’r fath. 

Os cawn ni gais am wybodaeth gan yr heddlu wedyn, byddwn yn ceisio’u helpu mewn unrhyw fodd posibl.

Mae cyngor am wahanol fathau o dwyll fel fisa ar gyfer swydd/gwaith, esgrow a thwyll loteri ar gael ar y tudalen o Rybuddion Twyll Pwysig.

Os yw’ch cwyn yn bodloni unrhyw un o’r uchod, gallwch anfon y manylion aton ni drwy’r e-bost yn fraud@companieshouse.gov.uk (Byddwn yn anelu at ymateb i’ch neges e-bost o fewn pum diwrnod gwaith.)

Y Gwasanaeth Ansolfedd

Noder na allwn eich cynorthwyo gydag unrhyw faterion nad ydynt yn ymwneud â ffurflenni sy’n cael eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Os yw’ch cwyn yn ymwneud ag ymddygiad cwmni neu ei swyddogion dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Ansolfedd.

Mae’r Gwasanaeth Ansolfedd yn un o Asiantaethau Gweithredol yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS). Mae gan y tîm Ymchwiliadau i Gwmnïau yn y Gwasanaeth Ansolfedd y pŵer i ymchwilio i gwmnïau cyfyngedig lle bo gwybodaeth a ddaw i law yn awgrymu cam-drin corfforaethol; gall hyn gynnwys camymddygiad difrifol, twyll, sgamiau neu ymddygiad amheus yn y ffordd mae’r cwmni’n gweithredu.

I gwyno am gwmni cyfyngedig sy’n dal i fasnachu:

Ffôn: 0845 601 3546

E-bost: intelligence.live@insolvency.gsi.gov.uk

Cyfeiriad:
Intelligence Hub
Intelligence & Enforcement Directorate
Investigation and Enforcement Services
Insolvency Service
3rd Floor Cannon House
18 Priory Queensway
Birmingham B4 6FD

Rhagor o Gymorth

I gael rhagor o gyngor a chymorth ynghylch materion twyll, cysylltwch ag Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y Deyrnas Unedig i roi gwybod am dwyll, drwy eu gwefan: www.actionfraud.org.uk

I gael cyngor ynghylch Dwyn Manylion Adnabod, efallai y byddwch am edrych ar un o’r gwefannau canlynol sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth ymarferol www.cifas.org.uk neu www.identitytheft.org.uk

Brig
Ein polisi ar gwcis