Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Beth yw porthiannau RSS?

Mae porthiannau RSS yn caniatáu ichi weld lle mae gwefannau wedi ychwanegu deunydd newydd (gan gynnwys newyddion a ffeiliau cyfryngau). Gallwch gael y penawdau a’r deunydd fideo diweddaraf mewn un man cyn gynted y cânt eu cyhoeddi, heb orfod ymweld â’r gwefannau y deilliodd y porthiant ohonynt.

Sut y defnyddia i’r porthiannau RSS?

Bydd arnoch chi angen darllenydd RSS i ddefnyddio’r porthiannau RSS. Dyma ddarn o feddalwedd sy’n gwirio porthiannau i roi gwybod ichi pan fo deunydd newydd wedi’i ychwanegu. Defnyddir rhai darllenwyr o fewn porwr gwe, tra bo eraill yn gymwysiadau i’w dadlwytho. Rhestrir nifer o ddarllenwyr isod.

Unwaith bod eich darllenydd yn eich llaw, bydd raid ichi benderfynu pa gynnwys y dymunwch ei dderbyn. Byddwch yn sylwi ar fotwm oren ar y tudalennau sydd â phorthiannau RSS. Os hoffech chi dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf sy’n ymwneud â’r porthiant RSS hwnnw, cliciwch ar y botwm oren. Gallwch hefyd danysgrifio i’r porthiant drwy dorri a gludo URL y porthiant i’ch darllenydd.

Darllenwyr RSS

Rhestrir isod rai darllenwyr wedi’u cymryd o wefan y BBC. Mae sawl dewis arall; nid rhestr gynhwysfawr mo hon.

Windows
Newz Crawler
FeedDemon
Awasu

Mac OS X
Newsfire
NetNewsWire

Web
Bloglines
FeedZilla
NewsGator
Microsoft Live
My Yahoo!

Browser
Mozilla Firefox
Other News Readers (GOOGLE)

 

 

Brig
Ein polisi ar gwcis