|
|
Hygyrchedd
Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi ymrwymo i ddarparu gwefan sy’n hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl – ni waeth am allu na thechnoleg bori, a chan gynnwys rhai sydd â nam ar eu golwg/clyw neu anabledd symud neu ddirnad. Mae’r wefan hon yn ceisio cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau’r World Wide Web Consortium (W3C) 2.0. Hwyrach nad yw ein gwasanaethau ar-lein (Companies House Direct, WebCHeck a WebFiling) yn cwrdd â’r canllawiau dan sylw ar hyn o bryd ond rydym wrthi yn eu datblygu. Lluniwyd y wefan hon drwy ddefnyddio cod sy’n gyson â safonau’r W3C ar gyfer HTML a Dalennau Sgwd. Dyluniwn y safle gyda defnyddioldeb a hygyrchedd mewn cof. Os cewch anhawster i gyrchu unrhyw wybodaeth sydd ar y safle, e-bostiwch: ismith@companieshouse.gov.uk Addasu maint y testun I gynyddu neu leihau maint y testun, ni raid ond newid gosodiadau’ch porwr:
Testun yn Unig I weld ein safle Testun yn Unig, dilynwch y ddolen gyswllt ‘Text Only’ (bysell gyrchu ‘2’) ar y brig. Sylwer mai ar ein gwefan hybu yn unig y mae hyn yn gweithio ac nid o dan WebCHeck na WebFiling. Delweddau Mae’r holl ddelweddau cynnwys a ddefnyddir ar y safle hwn yn cynnwys nodweddion disgrifiadol ALT. Mae’r graffeg addurnol a’r nodweddion graffeg a ddefnyddir ar gyfer gosodiad y wefan yn unig yn cynnwys nodweddion ALT gwag. I guddio’r delweddau, newidiwch osodiadau’ch porwr:
Defnyddiwn ddiwyg PDF ar gyfer llawer o’r ffurflenni ar ein gwefan. Bydd arnoch chi angen darllenydd Adobe (neu ryw syllwr PDF arall) i weld dogfennau PDF. Dadlwythwch fersiwn diweddaraf darllenydd Adobe yma. Cysylltu â ni Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau neu sylwadau, cysylltwch â Mr Ian Smith: ismith@companieshouse.gov.uk Dolenni Cyswllt Defnyddiol Bydd ar y gwefannau canlynol gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol am hygyrchedd gwe. |
||