Datganiad Preifatrwydd |
||||
|
|
Datganiad Preifatrwydd Nid yw gwefan Asiantaeth Weithredol Tŷ’r Cwmnïau yn cadw nac yn cipio gwybodaeth bersonol. Y cyfan a wnaiff yw cadw cofnod o gyfeiriad IP y defnyddiwr (IP = Internet Protocol: safon sy’n hwyluso trosglwyddo data rhwng dwy ddyfais) a gaiff ei gydnabod yn awtomatig gan wasanaethydd y we. Cwcis Mae’r safle’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am y defnyddiwr; nid yw’n casglu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch y tu hwnt i’r manylion sydd eisiau i weinyddu system y wefan. Mae’r cwcis hyn yn ddarnau o ddata a greir wrth ichi ymweld â safle, ac maent yn cynnwys rhif unigryw, dienw. Fe gânt eu cadw yng nghyfarwyddiadur cwcis eich disg galed, heb ddiflannu ar ddiwedd eich sesiwn. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y ffordd y defnyddir cwcis gennym. Gwybodaeth bersonol Os byddwch yn cofrestru i dderbyn diweddariadau, neu’n archebu neu’n prynu defnyddiau, fe gaiff eich manylion eu cadw ar wasanaethydd diogel ac ni rennir y data ag unrhyw gyrff y tu allan i’r llywodraeth. Cânt eu defnyddio yn unig i ddarparu unrhyw gynhyrchion electronig a archebwyd gennych, ynghyd â diweddariadau drwy e-bost ar y pynciau y buoch yn holi yn eu cylch neu wybodaeth drwy’r post os gofynnwch am y gwasanaeth hwnnw. Os ymatebwch ar-lein i ymarferiad ymgynghori, caiff eich manylion eu defnyddio yn unig i hwyluso dadansoddi’r ymatebion. Dim ond ein gwefan yn www.companieshouse.gov.uk ac is-safleoedd o dan y parth hwn y mae’r datganiad preifatrwydd presennol yn eu cwmpasu. Nid yw’r datganiad yn gymwys i safleoedd eraill y cysylltir â nhw o’r parth hwn. Gall Asiantaeth Weithredol Tŷ’r Cwmnïau ddefnyddio’r wybodaeth a gedwir ganddi i atal a chanfod twyll. Gallwn hefyd rannu gwybodaeth o’r fath, at yr un diben, â chyrff eraill sy’n trin cronfeydd cyhoeddus. âChanolfan Cysylltu Tŷ’r Cwmnïau ar 0303 1234 500 neu e-bostio enquiries@companies-house.gov.uk Cliciwch yma i fynd yn ôl i wefan Tŷ’r Cwmnïau. |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|