Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 


Telerau ac Amodau

Ymwadiad

Ni fwriedir i’r wybodaeth ar y wefan hon fod yn hollol gynhwysfawr a hepgorwyd llawer o’r manylion sy’n berthnasol i amgylchiadau penodedig. Am hynny, ni ddylid ystyried bod y wefan yn ffynhonnell gyflawn o ran y gyfraith cwmnïau a gwybodaeth, ac rydym yn cynghori darllenwyr i ofyn am gyngor proffesiynol annibynnol cyn gweithredu ar unrhyw beth a geir yma. Ni all Tŷ’r Cwmnïau gymryd unrhyw gyfrifoldeb am oblygiadau unrhyw wallau neu hepgoriadau.

Nodiadau ar gyfer defnyddwyr y gwasanaethau Chwilio am Gwmni a Chwilio am Gyfarwyddwyr a Waharddwyd

Daw’r wybodaeth sydd ar gael yma o’r Gofrestr Cwmnïau/Cofrestr o Gyfarwyddwyr a Waharddwyd sy’n cael eu diweddaru’n gyson. Mae hyn yn golygu y gall gwallau’n codi o bryd i’w gilydd a byddwn yn cywiro’r rhain cyn gynted ag y byddant yn dod i’n sylw. Os gwelwch chi rhywbeth a allai fod yn wallus, dywedwch wrthym er mwyn ein galluogi i gywiro’r gronfa ddata os oes angen.

Gwybodaeth am Gwmnïau a ddarperir gan Dŷ’r Cwmnïau

Cofrestrfa o wybodaeth am gwmnïau yw Tŷ’r Cwmnïau. Rydyn ni’n cyflawni archwiliadau sylfaenol er mwyn sicrhau bod y dogfennau a gyflwynir yn gyflawn a bod llofnod arnynt, ond nid oes gennym y pŵer statudol na’r gallu i ddilysu pa mor gywir yw’r wybodaeth y mae cwmnïau’n ei hanfon atom. Rydyn ni’n derbyn yr holl wybodaeth y mae cwmnïau’n ei chyflwyno i ni yn ddidwyll ac yn ei gosod ar y cofnod cyhoeddus. Nid yw’r ffaith bod y wybodaeth wedi cael ei gosod ar y cofnod cyhoeddus yn golygu bod Tŷ’r Cwmnïau wedi ei gwirio na’i dilysu mewn unrhyw ffordd.

Archwiliadau sylfaenol yn unig a wna Tŷ’r Cwmnïau wrth archwilio cyfrifon. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y cyflwynwyd y dogfennau priodol, eu bod ar gyfer y flwyddyn ariannol briodol a’u bod wedi cael eu llofnodi. Os ceir cwyn yn ddiweddarach am nad yw’r cyfrifon yn cydymffurfio â’r Deddfau Cwmnïau mewn unrhyw ffordd, mae dyletswydd arnom i dynnu sylw’r cwmni at hyn, ac i ofyn am set o gyfrifon diwygiedig sy’n cydymffurfio â’r gofynion os yw hynny’n briodol.

Dolenni i wefannau allanol

Ein polisi yw cael caniatâd cyn cysylltu â gwefannau eraill. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn na’u dibynadwyedd. Nid yw’r ffaith iddynt gael eu rhestru gyfystyr ag ardystiad o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy’r amser, ac nid oes unrhyw reolaeth gennym o ran argaeledd y tudalennau cysylltiedig. Brig

Preifatrwydd a Chwcis

Pan rydym yn darparu gwasanaethau, rydym eisiau eu gwneud yn hawdd, yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. Lle mae gwasanaethau’n cael eu cyflenwi ar y rhyngrwyd, weithiau mae hyn yn golygu gosod darnau bach o wybodaeth ar eich dyfais, er enghraifft, cyfrifiadur neu ffôn symudol. Yn y rhain ceir ffeiliau bach a elwir cwcis. Ni ellir eu defnyddio i’ch adnabod chi’n bersonol.
Defnyddir y darnau hyn o wybodaeth i wella gwasanaethau i chi trwy, er enghraifft:

  • alluogi gwasanaeth i adnabod eich dyfais fel nad oes rhaid i chi roi’r un wybodaeth nifer o weithiau wrth gyflawni un dasg
  • gwybod eich bod o bosibl wedi rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair eisoes, fel nad oes angen i chi wneud hyn ar gyfer pob tudalen we rydych chi’n gofyn amdani
  • mesur faint o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau, fel bod modd eu gwneud yn haws eu defnyddio a bod yna ddigon o gapasiti i sicrhau eu bod yn gyflym

Gallwch reoli’r ffeiliau bach hyn eich hun a dysgu mwy amdanynt yn Saesneg trwy “Cwcis porwr rhyngrwyd – beth ydyn nhw a sut i’w rheoli"

Y ffordd y defnyddiwn gwcis

Cwcis i fesur defnydd a gwella gwasanaethau

Mae gwefan Tŷ’r Cwmnïau, WebCHeck, WebFiling, a Companies House Direct i gyd yn defnyddio cwci, a ddefnyddir i wella’n dealltwriaeth o’r ffordd mae pobl yn defnyddio ein gwefan a’n gwasanaethau, trwy ddadansoddeg we.

Enw: chcookie
Cynnwys nodweddiadol: rhif a gynhyrchir ar hap
Yn dod i ben ymhen: 2 fis

Mae WebFiling yn defnyddio cwci  sy’n cofio pa wasanaeth yn WebFiling oedd ar waith pe bai sesiwn yn dod i ben oherwydd terfyn amser.

Enw: trafodyn
Cynnwys nodweddiadol: Dynodwr adnoddau unffurf (URI) trafodyn
Yn dod i ben: 1 diwrnod

Cwcis i gofio dewisiadau defnyddwyr

Mae WebCHeck yn defnyddio cwci sy’n cofio’r defnyddiwr ar gyfer ymweliadau wedi hynny. Rhoddir dewis i’r defnyddiwr ganiatáu hyn yn eglur wrth iddo fewngofnodi.

Enw: chwebcheck
Cynnwys nodweddiadol: rhif a gynhyrchir ar hap
Yn dod i ben: 1 flwyddyn

Cwcis ar safle Tŷ’r Cwmnïau o wefannau rhwydweithio cymdeithasol

Mae gan Dŷ’r Cwmnïau ddolenni fel y gallwch ddefnyddio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol (e.e. Twitter a Facebook) gyda Thŷ’r Cwmnïau. Mae’n bosibl y bydd y gwefannau hyn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur.

Gwybodaeth bersonol

Nid yw gwefan Asiantaeth Weithredol Tŷ’r Cwmnïau yn cadw nac yn cipio gwybodaeth bersonol. Y cyfan a wnaiff yw cadw cofnod o gyfeiriad IP y defnyddiwr (IP = Internet Protocol: safon sy’n hwyluso trosglwyddo data rhwng dwy ddyfais) a gaiff ei gydnabod yn awtomatig gan wasanaethydd y we.

Os byddwch yn cofrestru i dderbyn diweddariadau, neu’n archebu neu’n prynu defnyddiau, fe gaiff eich manylion eu cadw ar wasanaethydd diogel ac ni rennir y data ag unrhyw gyrff y tu allan i’r llywodraeth. Cânt eu defnyddio yn unig i ddarparu unrhyw gynhyrchion electronig a archebwyd gennych, ynghyd â diweddariadau drwy e-bost ar y pynciau y buoch yn holi yn eu cylch neu wybodaeth drwy’r post os gofynnwch am y gwasanaeth hwnnw. Os ymatebwch ar-lein i ymarferiad ymgynghori, caiff eich manylion eu defnyddio yn unig i hwyluso dadansoddi’r ymatebion.

Dim ond ein gwefan yn www.tyrcwmniau.gov.uk neu www.companieshouse.gov.uk  ac is-safleoedd o dan y parth hwn y mae’r datganiad preifatrwydd presennol yn eu cwmpasu. Nid yw’r datganiad yn gymwys i safleoedd eraill y cysylltir â nhw o’r parth hwn.

Gall Asiantaeth Weithredol Tŷ’r Cwmnïau ddefnyddio’r wybodaeth a gedwir ganddi i atal a chanfod twyll. Gallwn hefyd rannu gwybodaeth o’r fath, at yr un diben, â chyrff eraill sy’n trin cronfeydd cyhoeddus.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â Chanolfan Gysylltu Tŷ’r Cwmnïau ar +44 (0)303 1234 500 neu e-bost enquiries@companies-house.gov.uk

Brig

Manteisio’n dderbyniol ar Gronfeydd Data Chwiliadwy Ty’r Cwmnïau

Lluniwyd cronfeydd data chwiliadwy Ty’r Cwmnïau i ddiwallu anghenion amrywiaeth eang o ddefnyddwyr sydd am gyrchu’n gwybodaeth ar-lein.

Oherwydd cyfyngiadau’r offer a lled y band, ni fwriedir iddynt fod yn ffynhonnell ar gyfer swmp-ddadlwytho.

Gellir gwarafun cysylltiad â’r gwasanaethau hyn, yn ddirybudd, i unigolion, cwmnïau, cyfeiriadau IP neu flociau o gyfeiriadau IP sy’n gwadu neu’n diraddio gwasanaeth i eraill drwy greu niferoedd anarferol o uchel o gyrchiadau cronfa-ddata beunyddiol, a hynny naill ai â llaw neu drwy ddull awtomataidd.

Brig