Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Negeseuon ebost na ofynnwyd amdanynt / gwe-rwydo

Byddwch yn amheus o negeseuon e-bost na ofynnwyd amdanynt, hyd yn oed os ydynt yn edrych fel pe baent wedo dod o ffynhonnell rydych yn ymddiried ynddi. 

Beth yw gwe-rwydo?

Mae gwe-rwydo'n ymgais gan dwyllwyr neu bobl sydd ag amcan maleisus i ‘bysgota' am wybodaeth bersonol fel y cyfrineiriau, manylion mewngofnodi a mesurau diogelwch rydych yn eu defnyddio. Er enghraifft, efallai bydd rhywun yn anfon neges e-bost atoch yr ymddengys ei bod yn dod oddi wrth eich banc neu sefydliad rydych wedi cofrestru gydag ef, fel PayPal. Mae'r neges e-bost yn gofyn i chi glicio ar ddolen a/neu gadarnhau'ch enw defnyddiwr neu gyfrinair – ac fel hyn maen nhw'n cael eich manylion. Gall y negeseuon e-bost hyn edrych yn hynod o ddilys, felly yn aml mae'n anodd barnu a ydyn nhw'n rhai go iawn neu'n rhai ffug.

Cofiwch na fydd Tŷ'r Cwmnïau byth yn gofyn i chi, drwy neges e-bost, ddatgelu gwybodaeth bersonol na gwybodaeth am dalu.

Os ydych yn amau nad yw neges e-bost rydych wedi'i chael oddi wrth Dŷ'r Cwmnïau yn ddilys, peidiwch â dilyn unrhyw ddolenni, agor unrhyw atodiadau, datgelu unrhyw fanylion personol nac ymateb iddi. Anfonwch hi ymlaen i Dŷ'r Cwmnïau atphishing@companieshouse.gov.uk ac yna dilëwch hi.

Pa arwyddion rhybudd y dylwn i chwilio amdanyn nhw?

Yn ogystal â gwe-rwydo, mae yna bob math o dwyllo ar y rhyngrwyd y mae angen bod yn ymwybodol ohono. Mae negeseuon e-bost yn eich rhybuddio bod eich cyfrif wedi cael ei hacio'n gyffredin. Mae negeseuon e-bost yn dweud wrthych chi eich bod wedi ennill y loteri neu'n eich gwahodd i fanteisio ar ‘gyfle busnes cyffrous na ddylid ei fethu' ar led hefyd. Chwiliwch am wallau sillafu, dyluniad o safon wael a chyfeiriadau sy'n edrych yn amheus. Os yw atodiad neu ddolen yn edrych yn amheus, peidiwch byth â'i agor – dilëwch ef. Os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod e.

Sut gawson nhw fy nghyfeiriad e-bost?

Nid gan Dŷ'r Cwmnïau. Mae rhestrau o gyfeiriadau e-bost byw yn cael eu prynu neu eu cyfnewid rhwng partïon diegwyddor.

Mae'r neges e-bost yn dweud ei bod oddi wrth Dŷ'r Cwmnïau – ydi hi?

Os ydyn ni'n cysylltu â chi trwy e-bost, ni fyddwn byth yn gofyn i chi roi i mewn neu gadarnhau'ch manylion diogelwch. Ond gall sefydliadau diegwyddor guddio cyfeiriad e-bost fel ei fod yn edrych yn debyg i gyfeiriad e-bost dilys yn y llinell ‘oddi wrth'.
Os ydych yn amau nad yw neges e-bost rydych wedi'i chael oddi wrth Dŷ'r Cwmnïau yn ddilys, peidiwch â dilyn unrhyw ddolenni, agor unrhyw atodiadau, datgelu unrhyw fanylion personol nac ymateb iddi. Anfonwch hi ymlaen i Dŷ'r Cwmnïau at phishing@companieshouse.gov.uk ac yna dilëwch hi.

Ni all Tŷ'r Cwmnïau ymchwilio i gopïau papur o negeseuon e-bost/gwefannau gwe-rwydo. Er mwyn i ni weithredu, bydd angen i chi anfon y neges e-bost gwe-rwydo wreiddiol at phishing@companieshouse.gov.uk

Bydd Tŷ'r Cwmnïau yn adolygu'r holl negeseuon e-bost a ddaw i law ond ni fydd yn ymateb iddynt yn unigol.

Dylid rhoi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau ar unwaith am unrhyw weithgarwch amheus.

Brig
Ein polisi ar gwcis