Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

19 Ionawr 2012 – Tŷ’r Cwmnïau’n arwain ar Agenda Amgylcheddol y Llywodraeth

Mae Tŷ’r Cwmnïau’n falch o gyflwyno datblygiad pwysig mewn technoleg gwresogi yn ei bencadlys yng Nghaerdydd. Yno sicrhawyd buddion sylweddol i’r trethdalwr yn ogystal ag effeithiau amgylcheddol cadarnhaol.

Mae’r dechnoleg biomas a ddefnyddiwyd yn cyd-fynd â rhaglen cynaliadwyedd y llywodraeth ac wedi bodloni gofynion gwresogi swyddfeydd mawr ar gost sylweddol is. Mae’r prosiect yn manteisio ar grantiau sydd ar gael gan y llywodraeth ym mhob achos o’r fath, sydd hefyd wedi helpu i wneud y newid hwn yn bosibl.

Roeddem eisiau tynnu sylw ein holl gwsmeriaid yn ffurfiol at hyn ac yn arbennig lle bo posibilrwydd bod eich sefydliad yn ystyried newid i fuddsoddi yn y dechnoleg greiddiol hon neu fod ganddo ddiddordeb mewn cynaliadwyedd. Gwybodaeth fanylach PDF 21kb (Saesneg yn unig)

Neil White
Rheolwr y Wasg a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Tŷ’r Cwmïau
Ffôn: 02920 380131

e- bost: nwhite@companieshouse.gov.uk

Brig
Ein polisi ar gwcis