Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Desg y Wasg

Croeso i Tîm Cyfathrebiadau Mewnol a’r Wasg Tŷ’r Cwmnïau

‘Sut y gallwn helpu cydweithwyr y Wasg?: Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cadw cyfleustra gwybodaeth a chyswllt bach i aelodau’r Cyfryngau a’r Wasg Fasnach. Am y rheswm hwn, er ein bod yn croesawu diddordeb proffesiynol yn Nhŷ’r Cwmnïau, rydym yn gyfyngedig dros ben o ran unrhyw allu i ymateb i geisiadau chwilio ac fe gewch eich ailgyfeirio mewn amgylchiadau o’r fath. Mi allwn, fodd bynnag, roi cefnogaeth a chymorth o ran trefnu cyfweliadau ffurfiol â’n huwch-reolwyr, dod i ddeall y ffordd y caiff deddfwriaeth Tŷ’r Cwmnïau ei chymhwyso, a chynghori ar ein rôl a’n cyfrifoldebau fel asiantaeth weithredol o dan y Llywodraeth. Os oes gennych ymholiadau eraill, byddem yn falch o gael trafod y rheiny a’ch rhoi ar y trywydd priodol.

Cewch eich ailgyfeirio i gydweithwyr arbenigol ar gyfer Chwiliadau Cwmni: Os yw’ch ymholiadau’n ymwneud â chwestiynau penodol ynghylch cwmnïau neilltuol, cyfarwyddwyr a/neu wybodaeth am gyfrifoldebau cyfreithiol cwmnïau, bydd staff Desg y Wasg yn eich cyfeirio at ein Gwefan neu’n Canolfan Cysylltu i Gwsmeriaid, lle bydd ein staff arbenigol yn falch o helpu gyda’ch ymholiadau. Yn y pen draw, mae’r ddogfennaeth ar-lein yn awdurdodol mewn ffordd nad yw sgyrsiau troslais a dylech ddibynnu’n unig ar yr wybodaeth ymchwil sydd i’w gweld ar y gronfa ddata neu a gaiff ei chodi’n uniongyrchol oddi yno at ddibenion eich adroddiadau mewn achosion o’r fath. Mae gwybodaeth am gyrchu’r Gofrestr Cwmnïau Prydeinig o’ch sylfaen eich hun wedi’i nodi isod.'

'Llyfrynnau Canllaw' yn rhoi canllaw ac amseru ar gyfrifoldebau cyfarwyddwyr, dyddiadau terfynol ar gyfer ffeilio cyfrifon etc.

'Ein Gwasanaethau': ein cofnod cyhoeddus helaeth sydd yn rhestru’r cyfleusterau chwilio sydd ar gael.  Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth y byddwch fyth ei hangen yn hyn o beth ar gael trwy ein cyfleuster  ’WebCHeck’ ardderchog, sydd yn wasanaeth wedi ei deilwra i’r cwsmer; neu o ‘ ‘Companies House Direct’, sydd yn wasanaeth tanysgrifio sydd yn costio £5 y mis. Mae’r gwasanaethau hyn ar gael o Ddydd Llun – Dydd Sadwrn 7:00am tan Hanner Nos Amser y DU.

Mae Tîm Cyfathrebiadau Mewnol a’r Wasg Tŷ’r Cwmnïau ar gael o 09:00 am - 17:00 pm Llun – Gwener, ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.

Ar gyfer Ymholiadau’r Wasg

Ffôn: 0303 1234 500, Minicom 029 20381245 neu e-bost: press@companieshouse.gov.uk


mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies