Gweinyddiad i ddatodiad gwirfoddol gan y credydwyrAdolygiad o achosion lle bo cwmni’n symud o weinyddiad i ddatodiad gwirfoddol gan y credydwyr Ar gyfer cwmnïau sydd wedi’u cofrestru yn Lloegr a Chymru neu Ogledd IwerddonSylwer: nad yw Rheolau hyn yn berthnasol i’r Alban Rydym wedi cynnal adolygiad o’n polisi pan fo cwmni’n trosi o weinyddiad i ddatodiad gwirfoddol gan y credydwyr ar Ffurflen 2.34B o dan Baragraff 83(4) o Atodlen B1 o Ddeddf Ansolfedd 1986 neu Baragraff 84(4) o Atodlen B1 o Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989. Beth sydd wedi newid? Rydym wedi sylweddoli, er bod cwmni’n symud i ddatodiad gwirfoddol gan y credydwyr ar ddyddiad cofrestru Ffurflen 2.34B gan y cofrestrydd cwmnïau, nad yw Ffurflen 2.34B yn hysbysiad am benodi datodydd. Hysbysiad trosi sy’n cynnwys manylion y datodydd arfaethedig yw Ffurflen 2.34B. Felly mae’n rhaid ffeilio hysbysiad am benodi datodydd (Ffurflen 600 yn Lloegr a Chymru neu Ffurflen VL1 yng Ngogledd Iwerddon) hefyd yn yr achosion hyn, o dan adran 109 o Ddeddf Ansolfedd 1986 neu Erthygl 95 o Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989. Mae’r cyngor hwn yn disodli’r cyngor blaenorol ynglŷn â hysbysiad am benodiad yn y sefyllfa hon. Pa gamau mae angen i chi eu cymryd? O heddiw ymlaen dylech gyflwyno hysbysiad am eich penodi’n ddatodydd i’r cofrestrydd ym mhob achos lle bo cwmni’n symud o weinyddiad i ddatodiad gwirfoddol gan y credydwyr. Byddai o gymorth pe bai’r llythyr eglurhaol yn nodi bod y Ffurflen 600 neu'r Ffurflen VL1 yn cael ei ffeilio ar gyfer achos lle mae’r cwmni wedi symud o weinyddiad i ddatodiad gwirfoddol gan y credydwyr. Os gwelwch yn dda, cyflwynwch yr hysbysiad ar ôl i’r Ffurflen 2.34B gael ei chofrestru oherwydd ni ellir penodi datodydd cyn y dyddiad hwn. Gallwch ddod o hyd i’r dyddiad y trosodd y cwmni i ddatodiad gwirfoddol gan y credydwyr trwy gynhyrchion chwilio Tŷ’r Cwmnïau (h.y. CHD/WebCHeck). Ni allwn gofrestru hysbysiad am eich penodiad ar gyfer unrhyw gwmni sydd wedi cael ei ddiddymu. Fodd bynnag, os ydych eisiau cyflwyno hysbysiad am eich penodi’n ddatodydd ar gyfer achosion byw, yna byddwn yn derbyn y rhain a’u gosod ar gofnod y cwmni. Beth mae hyn yn ei olygu i chwilwyr? Hoffem egluro pa wybodaeth chwilio rydym yn ei chyhoeddi ac o ble y’i cymerir. Mae ein cynhyrchion chwilio’n rhoi’r wybodaeth ganlynol:
Beth fydd yn cael ei gyhoeddi yn y Gazette? Ni fyddwn yn rhoi hysbysiad yn y London Gazette na’r Belfast Gazette mwyach pan fo Ffurflen 2.34B wedi cael ei chofrestru oherwydd nad oes gofyniad o dan adran 1078 o Ddeddf Cwmnïau 2006 i wneud hynny. Byddwn yn cyfathrebu â chi pan gaiff y newid hwn ei wneud. Byddwn yn parhau i roi hysbysiad yn y Gazette pan gawn hysbysiad am benodi datodydd, fel sy’n ofynnol gan adran 1078. Mae’n ofynnol o hyd i ddatodwyr gyhoeddi hysbysiad am eu penodiad yn y Gazette ar Ffurflen 600a ar gyfer cwmnïau Lloegr a Chymru neu Ffurflen VL2 ar gyfer cwmnïau Gogledd Iwerddon. Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth? Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â’r newid polisi hwn, anfonwch hwy at: Tŷ’r Cwmnïau |
||