Cofrestr Datodiad ac Ansolfedd y Gymuned Ewropeaidd (ECLAIR)Mae wedi dod i’n sylw bod y cyngor a roddwyd o’r blaen ynghylch Cofrestr Datodiad ac Ansolfedd y Gymuned Ewropeaidd (ECLAIR) yn anghywir. Roeddem wedi camddehongli effaith Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1346/2000 ar achosion ansolfedd (y Rheoliad). Mae Tŷ’r Cwmnïau’n cynnal yr ECLAIR o dan y Rheoliad. Mae’r Gwasanaeth Ansolfedd wedi cadarnhau bod y Rheoliad yn berthnasol i gwmnïau y mae eu canolbwynt prif fuddiant o fewn unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd, waeth ble cafodd y cwmni ei gofrestru. Mae hyn yn golygu y gall cwmni sydd wedi’i gofrestru y tu allan i’r Deyrnas Unedig (gan gynnwys cwmnïau sydd wedi’u cofrestru yn Ynys Manaw, Jersey neu Guernsey), y mae ei ganolbwynt prif fuddiant yn y Deyrnas Unedig, ac sy’n destun achosion ansolfedd o dan gyfraith wladol y Deyrnas Unedig, gael ei restru ar yr ECLAIR. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra mae hyn wedi’i achosi. 1. Beth ellir ei restru ar yr ECLAIR?Mae’r Rheoliad yn berthnasol i achosion o ddatodiad gorfodol, datodiad gwirfoddol gan y credydwyr a gweinyddiad. Felly gall unrhyw hysbysiadau o ddatodiad gorfodol neu ddatodiad gwirfoddol gan y credydwyr neu weinyddiad y mae’n rhaid eu cyflwyno i’r cofrestrydd cwmnïau gael eu rhestru ar yr ECLAIR os yw canolbwynt prif fuddiant y cwmni yn y Deyrnas Unedig ac os ydynt yn destun achosion ansolfedd yn y Deyrnas Unedig. 2. Beth os cafodd fy nghwmni ei gofrestru y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd?Os yw canolbwynt prif fuddiant y cwmni yn y Deyrnas Unedig ac y mae’n wynebu achos ansolfedd yn y Deyrnas Unedig, yna gall yr hysbysiadau y cyfeirir atynt yng nghwestiwn 1 gael eu rhestru ar yr ECLAIR. 3. Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi dychwelyd neu wrthod hysbysiadau ansolfedd ar gyfer cwmnïau sydd wedi’u cofrestru y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd? Beth mae’n rhaid i mi ei wneud?Ymddiheurwn am hyn, fe ddigwyddodd oherwydd i ni gamddehongli’r Rheoliad. Os ydym wedi dychwelyd neu wrthod hysbysiadau ansolfedd, y mae cwestiynau 1 a 2 uchod yn berthnasol iddynt, gallwch eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau a byddwn yn eu rhestru ar yr ECLAIR. 4. Pa hysbysiadau nad oes angen eu rhestru ar yr ECLAIR?Nid oes angen i hysbysiadau y mae’n ofynnol eu cyflwyno i’r Cyfrifydd Methdaliadau (Accountant in Bankruptcy) yn unig gael eu rhestru ar yr ECLAIR. Er enghraifft, mewn achosion datod a gynhelir yn yr Alban o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 a Rheolau Ansolfedd (Yr Alban) 1986 mae’n ofynnol i rai hysbysiadau gael eu cyflwyno i’r cofrestrydd cwmnïau ac i hysbysiadau eraill gael eu cyflwyno i’r Cyfrifydd Methdaliadau, gan fod datodiad wedi’i ddatganoli yn yr Alban. Dim ond hysbysiadau y mae’n ofynnol eu hanfon at y cofrestrydd y byddai angen i Ymarferwyr Ansolfedd eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau a byddai’r hysbysiadau hyn yn cael eu rhestru ar yr ECLAIR. |
||