Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Newidiadau i erthyglau enghreifftiol

Ar 28 Ebrill 2013, daeth rhan 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gwahaniaethu) 2013 i rym. Yr effaith oedd diwygio erthyglau enghreifftiol cwmnïau cyfyngedig preifat a chyhoeddus fel y nodir yn Atodlenni 1-3 o Reoliadau Cwmnïau (Erthyglau Enghreifftiol) 2008.

Mae paragraff 18(e) o’r erthyglau enghreifftiol i gwmnïau preifat wedi eu cyfyngu drwy gyfrannau neu drwy warant a pharagraff 22(e) o’r erthyglau enghreifftiol i gwmnïau cyfyngedig cyhoeddus yn cael eu dirymu. Roedd yr erthyglau hyn yn darparu y gellid atal penodiad cyfarwyddwr pe bai ‘llys, oherwydd iechyd meddwl y person hwnnw, yn gwneud gorchymyn yn atal y person yn llwyr neu’n rhannol rhag arfer unrhyw bwerau neu hawliau a fyddai ganddo fel arall’

Bydd yr erthyglau enghreifftiol diwygiedig (gyda’r paragraff hwn wedi’i ddileu) yn berthnasol i gwmnïau cyfyngedig preifat a chyhoeddus sy’n corffori gyda’r erthyglau enghreifftiol neu’n eu mabwysiadu ar neu ar ôl 28 Ebrill 2013.

Ni fyddant yn berthnasol i gwmnïau a gorfforodd cyn y dyddiad hwn ac nid oes gofyniad i’r cwmnïau hynny ddiwygio eu herthyglau; fodd bynnag, mae’n bosibl y byddant eisiau gwneud hynny.

Os yw cwmni a gorfforodd cyn 28 Ebrill 2013 eisiau sicrhau bod ei erthyglau’n adlewyrchu’r newid, gall naill ai basio penderfyniad arbennig i ddiwygio ei erthyglau neu basio penderfyniad arbennig i fabwysiadu’r erthyglau enghreifftiol newydd.

Nid oes yn rhaid i unrhyw gwmni sy’n corffori neu’n mabwysiadu’r erthyglau enghreifftiol yn eu cyfanrwydd wedi hynny anfon copi ohonynt i Dy’r Cwmnïau.

Brig
Ein polisi ar gwcis