Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Gwelliannau i’n gwasanaeth ar-lein

Ar 6 Ebrill 2013, cyflwynasem nifer o welliannau ac ychwanegiadau i’n gwasanaethau ar-lein.

Mae ein gwasanaeth corffori ar y we wedi  cael ei wella i ganiatáu i gwsmer WebFiling, sy’n dweud bod lleoliad ei swyddfa gofrestredig a chyfeiriad ei swyddfa gofrestredig yng Nghymru, gael y dewis o gofrestru’r wybodaeth yn ddwyieithog a chael allbwn delweddau a thystysgrifau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Cafodd Rheoliadau Arwystlon newydd eu cyflwyno un cynllun ar gyfer holl gwmnïau cofrestredig y Deyrnas Unedig ac yn galluogi ffeilio dogfennau arwystlon yn electronig trwy ein gwasanaethau WebFiling a ffeilio meddalwedd am y tro cyntaf. Mae ffurflen gais newydd wedi cael ei chyflwyno er mwyn caniatáu i ddarparwyr benthyciad wneud cais am y codau maent eu hangen i ffeilio dogfennau arwystlon yn electronig.

Cafodd mathau newydd o ffurflenni ar gyfer Arwystlon ac Ansolfedd hefyd eu cyflwyno ar 6 Ebrill.

Bydd gwybodaeth chwilio naill yn y fformat newydd neu’r hen fformat gan ddibynnu ar bryd y cofrestrwyd y wybodaeth. Bydd copi ardystiedig o’r weithred ar gael i’w weld neu ei lawrlwytho gyda’r holl ffurflenni cofrestru arwystlon newydd heb gost ychwanegol.

Hefyd, fel rhan o’n rhaglen dreigl o welliannau, mae’r sgriniau WebFiling canlynol wedi cael eu diwygio: ffurflenni newid manylion (CH), cyfeiriad swyddfa gofrestredig (AD01) a lleoliad archwilio amgen unigol (SAIL) (AD02, 03 a 04). Mae’r sgriniau hyn wedi cael eu newid a’u symleiddio, gan dywys y defnyddiwr trwy gyfres o gwestiynau ac atebion i gwblhau’r wybodaeth mae ei hangen.

Brig
Ein polisi ar gwcis