Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi penodi Prif Weithredwr a Chofrestrydd Cwmnïau newydd ynghyd â dau Aelod Anweithredol o’r BwrddPrif Weithredwr a Chofrestrydd Mae Tŷ’r Cwmnïau yn hapus i gyhoeddi bod Tim Moss wedi cael ei benodi yn Gofrestrydd Cwmnïau ar gyfer Lloegr a Chymru a Phrif Weithredwr Tŷ’r Cwmnïau. Mae Tim wedi bod yn cyflawni’r rôl ar sail dros dro ers mis Mawrth 2012, ond bydd bellach yn cymryd y swydd yn barhaol. Tim fydd y 31ain Gofrestrydd Cwmnïau mewn cyfres hir sy’n dyddio nôl i 1844. Ymunodd Tim â Thŷ’r Cwmnïau yn 2002 a threuliodd yr ychydig flynyddoedd cyntaf yn rhedeg yr adrannau gweithrediadau a chydymffurfio cyn symud i rôl y Cyfarwyddwr Strategaeth Gorfforaethol. Yn y rôl honno roedd ganddo bortffolio eang o waith sy’n cynnwys strategaeth busnes, polisi corfforaethol, marchnata, archwilio mewnol, cyfathrebu corfforaethol yn ogystal ag arwain y gwaith o symud i gyfeiriad cofrestr hollol electronig a thrawsffurfio’r gwasanaeth. Cyn ymuno â Thŷ’r Cwmnïau, treuliodd ddeuddeg mlynedd mewn swyddi gweithredol uwch yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Mae ganddo radd yn y Gwyddorau Natur o Brifysgol Caergrawnt, MBA o Brifysgol Abertawe ac mae’n byw ar fferm yn ne Cymru. Aelodau Anweithredol o’r Bwrdd Bydd dau Aelod Anweithredol newydd yn ymuno â Tim ar Fwrdd Tŷ’r Cwmnïau. Yr wythnos hon, cyhoeddodd ein Gweinidog Busnes, Michael Fallon, y bydd Jeff Lynn a Mike Taylor yn ymuno â’r Bwrdd. Sefydlwyd y bwrdd newydd (o dan gadeiryddiaeth y Cadeirydd Annibynnol, Brian Landers) ym mis Awst 2012. Rôl yr Aelodau Anweithredol yw darparu cyngor ac arbenigedd allanol i fwydo prosesau penderfynu a strategaeth busnes Tŷ’r Cwmnïau wrth iddo weithio’n galed i gyflawni’r sialensiau cyffrous sydd o’i flaen. Dywedodd Cadeirydd Tŷ’r Cwmnïau, Brian Landers: “Rwy’n falch iawn o gael croesawu dau aelod newydd neilltuol i’n Bwrdd. Mae eu sgiliau a’u profiad yn cydategu’r hyn sydd gan aelodau cyfredol y Bwrdd i’w gynnig, a bydd eu cyfraniad at ein trafodaethau yn werthfawr iawn.” Daeth y penodiadau hyn i rym ar 1 Mawrth. Bydd Jeff Lynn yn cymryd y rôl am gyfnod cychwynnol o dair blynedd olynol a Mike Taylor am gyfnod cychwynnol o flwyddyn. Bydd Jeff yn aelod o Bwyllgor Archwilio’r sefydliad hefyd. Jeff Lynn yw Prif Swyddog Gweithredol a chyd-sylfaenydd Seedrs, un o gwmnïau ariannu trwy gronni cyllid mwyaf blaenllaw’r byd. Fe hefyd yw Cadeirydd cyntaf Cynghrair yr Economi Digidol (Coadec), y sefydliad sy’n darparu eiriolaeth ar faterion polisi a rheoliadol ar ran cwmnïau newydd a BBaCh y byd digidol. Cychwynnodd Jeff ei yrfa fel cyfreithiwr corfforaethol, gan ymarfer gyda Sullivan & Cromwell LLP yn Efrog Newydd a Llundain. Cychwynnodd gyrfa broffesiynol Mike Taylor fel Dadansoddwr Ymchwil yn y Ddinas. Cafodd ei ddyrchafu i lefel Cyfarwyddwr gan arwain tîm ymchwil y cyfryngau yn Credit Suisse First Boston. Roedd yn amlwg yn y prif bolau mewnol ac allanol, a chymrodd ran mewn nifer o ymarferion blaenllaw i godi cyfalaf. Gadawodd Mike y Ddinas yn 2003 gan sefydlu Innovise plc. Fel Prif Swyddog Gweithredol cyntaf, mae Mike wedi arwain y gwaith o brynu ac ehangu twf Innovise ac mae'r cwmni wedi ennill cydnabyddiaeth am ei dwf cyflym yn y farchnad TG gan ennill cystadleuaeth Fast 50 Deloitte (2010, 2011, 2012) a chystadleuaeth Tech Track y Sunday Times ddwywaith (2011, 2012) Rôl y Prif Fwrdd yw cynghori BIS a’r Gweinidogion ar ei gynllun corfforaethol ac ar i ba raddau y mae Tŷ’r Cwmnïau yn cyflawni ei swyddogaethau’n effeithiol ac yn effeithlon yn unol â’r Ddogfen Fframwaith, y Cynllun Busnes blynyddol a’r targedau cyhoeddus y mae’r gweinidogion yn eu pennu ar ei gyfer. Cadeirydd Annibynnol sy’n cadeirio cyfarfodydd y Prif Fwrdd. Mae aelodau’r bwrdd yn cynnwys y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr Tŷ’r Cwmnïau, cynrychiolydd uwch o’r Gweithgor Budd-deiliaid a phedwar Aelod Anweithredol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:- |
||