Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Arwystlon electronig ar gael 6 Ebrill 2013

Gallwch gyflwyno rhai mathau o wybodaeth am arwystlon yn electronig am y tro cyntaf o 6 Ebrill 2013 ymlaen. Bydd modd ffeilio manylion arwystl, manylion arwystl y caffaeliwyd eiddo mewn perthynas ag ef a datganiadau am fodloni a rhyddhau arwystlon.

WebFiling

Mae WebFiling yn ddull diogel a dibynadwy o ffeilio gwybodaeth ar-lein.

I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn fel benthyciwr:

  • Llenwch y ffurflen gais ar-lein (PDF 974Kb), ei hargraffu a'i hanfon i'r cyfeiriad a nodir.(Saesneg yn unig yw'r ffurflen hon)
  • Cewch ddefnyddio'r un ffurflen i wneud cais am gyfrif credyd os oes angen.
  • Byddwn ni'n anfon eich cod dilysu benthyciwr a'ch codau cyflwyno atoch trwy lythyr.
  • Cofrestrwch ar gyfer WebFiling gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a chrëwch gyfrinair.

Pan fyddwch wedi cofrestru ac wedi cael y codau angenrheidiol, mewngofnodwch i WebFiling a ffeiliwch eich gwybodaeth am arwystlon. Y ffi i ffeilio manylion arwystlon yn electronig fydd £10; ni chodir ffi am ffeilio datganiadau bodloni neu ryddhau.

 

Gallwch ddefnyddio cod dilysu cwmni i ffeilio gwybodaeth ar gyfer cwmni penodol, ond mae'r cod dilysu benthyciwr yn eich galluogi ffeilio gwybodaeth mewn perthynas ag arwystlon ar ran unrhyw gwmni.

 

I gofrestru arwystl, bydd arnoch angen manylion yr arwystl, copi PDF o'r weithred a'r taliad. Dylech ddefnyddio PDF fformat 1.2 i 1.7, ac ni ddylai'r ffeil fod yn fwy na 10 MB. Os oes angen sganio'r weithred, dylech ddefnyddio inc du ar bapur gwyn plaen maint A4 â chydraniad o 300 dpi er mwyn cynyddu'r posibilrwydd y bydd y ffeil o dan y terfyn hwn.

Byddwn ni'n anfon neges e-bost i gadarnhau bod y wybodaeth wedi dod i law. Mae'n bwysig nodi taw cadarnhad bod y wybodaeth wedi dod i law yn unig yw hyn. Nid yw'n golygu bod yr arwystl wedi cael ei gofrestru; y neges e-bost dderbyn fydd yn cadarnhau hyn, a bydd y dystysgrif ynghlwm wrth y neges honno.

Gallwch ddefnyddio ‘Fy Ngweithgarwch Ffeilio Ddiweddar' i weld yr eitemau rydych chi wedi ei ffeilio yn ystod y 10 diwrnod diwethaf, ynghyd â statws y dogfennau a ffeiliwyd. Gallwch ddadlwytho'r ffurflen, y weithred a'r dystysgrif yma hefyd.

Software Filing

Mae Software Filing yn gyfrwng i drosglwyddo data cwmni a negeseuon cydnabod yn electronig rhwng y bobl sy'n cyflwyno'r data a Thŷ'r Cwmnïau.

I ffeilio gwybodaeth am arwystlon gan ddefnyddio'r gwasanaeth Software Filing, bydd angen i chi:

Brig
Ein polisi ar gwcis