Daeth Rheolau Gweinyddiad Cwmnïau Cyflenwi Ynni i rym ar 7 Mehefin 2013. Mae gweinyddiad cwmnïau cyflenwi ynni'n drefn ansolfedd arbennig sydd wedi'i chreu'n benodol ar gyfer y cwmnïau sy'n cyflenwi nwy a thrydan ym Mhrydain Fawr.
Os ydych yn Ymarferydd Ansolfedd sy'n ymwneud â Gweinyddiad Arbennig Cwmni Cyflenwi Ynni yn Lloegr a Chymru, bydd angen i chi annodi'r ffurflenni perthnasol fel eu bod yn berthnasol i achosion Gweinyddiad Arbennig Cwmnïau Cyflenwi Ynni a chyflwyno'r ffurflenni i'r Cofrestrydd Cwmnïau. Gweler y rhestr isod i gael rhestr o ffurflenni (Saesneg) a'r annodiadau perthnasol y mae eu hangen
Tabl ffurflenni i gael eu defnyddio ac annodiadau i gael eu gwneud mewn achosion Gweinyddiad Arbennig Cwmnïau Cyflenwi Ynni
| Rheol y cyflwynir y ddogfen i'r cofrestrydd o dani |
Rhif ac enw'r ffurflen |
Diwygiad |
| Paragraff 46(4) o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 |
2.12B(CH) Notice of administrator's appointment |
- Yn lle 'Rheol 2.27' rhodder 'Paragraff 46(4) o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 fel y'i cymhwysir gan adran 96 o Ddeddf Ynni 2011'
- Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheolau Gweinyddiad Cwmnïau Cyflenwi Ynni 2013'
|
| Rheol 16(7) |
2.16B Notice of statement of affairs |
- Yn lle 'Rheol 2.29' rhodder 'Rheol 16(7)'
- Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheolau Gweinyddiad Cwmnïau Cyflenwi Ynni 2013'
|
| Rheol 20(1) |
2.17B Statement of administrator's proposals |
- Yn lle 'Rheol 2.33' rhodder 'Rheol 20(1)'
- Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheolau Gweinyddiad Cwmnïau Cyflenwi Ynni 2013'
|
| Rheol 20(6)(b) |
2.18B(CH) Notice of extension of time period |
- Yn lle 'Rheol 2.33' rhodder 'Rheol 20(6)(b)'
- Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheolau Gweinyddiad Cwmnïau Cyflenwi Ynni 2013'.
- Dileer 'mae Paragraff 51(2)(b) o'r Atodlen wedi cael ei estyn i (c)'
- Yn lle 'mae Paragraff 49(5)(b) o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 (“yr Atodlen”) wedi cael ei estyn i (c)' rhodder 'mae Paragraff 49(5)(b) o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 (“yr Atodlen”) fel y'i cymhwyswyd gan adran 96 o Ddeddf Ynni 2011 wedi cael ei estyn i (c)'
- Yn lle 'mae Paragraff 50(1)(b) o Atodlen B1 i'r Atodlen wedi cael ei estyn i (c)' rhodder 'mae Paragraff 50(1)(b) o Atodlen B1 i'r Atodlen fel y'i cymhwyswyd gan adran 96 o Ddeddf Ynni 2011 wedi cael ei estyn i (c)'
|
| Rheol 32(1) |
2.22B(CH) Statement of administrator's revised proposals |
- Yn lle '2.45' rhodder 'Rheol 32(1)'
- Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheolau Gweinyddiad Cwmnïau Cyflenwi Ynni 2013'
|
| Rheol 33(4) |
2.24B(CH) Administrator's progress report |
- Yn lle 'Rheol 2.47' rhodder 'Rheol 34(4)'
- Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheolau Gweinyddiad Cwmnïau Cyflenwi Ynni 2013'
|
| Rheol 35(5) |
2.28B >Notice of order to deal with charged property |
- Yn lle 'Rheol 2.66' rhodder 'Rheol 35(5)'
- Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheolau Gweinyddiad Cwmnïau Cyflenwi Ynni 2013'
|
| Rheol 80(1) |
2.33B Notice of court order ending administration |
- Yn lle 'Rheol 2.116' rhodder 'Rheol 80(1)'
- Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheolau Gweinyddiad Cwmnïau Cyflenwi Ynni 2013'
|
| Paragraff 83 o Atodlen B1 o Ddeddf Ansolfedd 1986 fel y'i cymhwyswyd gan adran 96 o Ddeddf Ynni 2011 |
2.34B Notice of move from administration to creditors voluntary liquidation |
- Yn lle 'Rheol 2.117A' rhodder 'Paragraff 83 o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 fel y'i cymhwyswyd gan adran 96 o Ddeddf Ynni 2011'
- Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Deddf Ansolfedd 1986 fel y'i cymhwyswyd gan adran 96 o Ddeddf Ynni 2011'
- Yn lle 'Paragraff 83(1) o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Paragraff 83(1) o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 fel y'i cymhwyswyd gan adran 96 o Ddeddf Ynni 2011'
|
| Rheol 81(1) |
2.24B(CH) Administrator's progress report (Final Progress report following conversion to liquidation) |
- Yn lle 'Rheol 2.47' rhodder 'Rheol 81(1)'
- Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheolau Gweinyddiad Cwmnïau Cyflenwi Ynni 2013'
|
| Rheol 82(1) |
2.35B Notice of move from administration to dissolution |
- Yn lle 'Rheol 2.118' rhodder 'Rheol 82(1)'
- Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheolau Gweinyddiad Cwmnïau Cyflenwi Ynni 2013'
- Yn lle 'paragraff 84(1) o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986' rhodder 'paragraff 84(1) o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 fel y'i cymhwyswyd gan adran 96 o Ddeddf Ynni 2011'
|
| Rheol 84(4) |
2.36B Notice to registrar of companies in respect of date of dissolution |
- Yn lle 'Paragraff 84(8) o Ddeddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheol 84(4)'.
- Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheolau Gweinyddiad Cwmnïau Cyflenwi Ynni 2013'
- Yn lle 'paragraff 84(7) o Atodlen B1i Ddeddf Ansolfedd 1986' rhodder 'paragraff 84(7) o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 fel y'i cymhwyswyd gan adran 96 o Ddeddf Ynni 2011'
|
| Rheol 86(2) |
2.38B(CH) Notice of resignation by administrator |
- Yn lle 'Rheol 2.121' rhodder 'Rheol 86(2)'.
- Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheolau Gweinyddiad Cwmnïau Cyflenwi Ynni 2013'
|
| Rheol 87(5), 88, 89(4) |
2.39B Notice of vacation of office by administrator |
- Yn lle 'Rheol 2.122' rhodder 'Rheol 87(5), 88, 89(4)'
- Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheolau Gweinyddiad Cwmnïau Cyflenwi Ynni 2013'
|
| Rheol 93 |
2.40B Notice of appointment of replacement / additional administrator |
- Yn lle 'Rheol 2.128' rhodder 'Rheol 93'
- Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheolau Gweinyddiad Cwmnïau Cyflenwi Ynni 2013'
|
| Rheol 200(6) |
12.1 Notice to registrar of companies in respect of order under section 176A |
- Yn lle 'Rheol 12A.57' rhodder 'Rheol 200(6)'.
- Yn lle 'Deddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Rheolau Gweinyddiad Cwmnïau Cyflenwi Ynni 2013'
- Yn lle cyfeiriadau at 'Adran 176A' rhodder 'Adran 176A fel y'i cymhwyswyd gan adran 96 o Ddeddf Ynni 2011.'
- Yn lle cyfeiriadau at 'Adran 176A o Ddeddf Ansolfedd 1986' rhodder 'Adran 176A o Ddeddf Ansolfedd 1986 fel y'i cymhwyswyd gan adran 96 o Ddeddf Ynni 2011'
|
Gallwch gyflwyno'r wybodaeth i unrhyw un o swyddfeydd Tŷ'r Cwmnïau, ond rydym yn argymell i chi ei chyflwyno i'r cyfeiriad isod: