Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Newidiadau i ffurflenni Ansolfedd

Ar 6 Ebrill 2013, bydd newidiadau i'r ffurflenni yn penodi ac yn peidio â gweithredu fel derbynnydd neu reolwr (Rhan 25 o Ddeddf Cwmnïau 2006 – Arwystlon Cwmni). Yn disodli'r ffurflenni cyfredol, LQ01 ac LQ02, fydd ffurflenni RM01 ac RM02, sy'n hysbysu'r cofrestrydd cwmnïau am benodi neu beidio â gweithredu fel derbynnydd neu reolwr.

Bydd y ffurflenni RM01 ac RM02 yn gofyn am wybodaeth debyg i'r ffurflenni cyfredol, ond mae gofyniad i ddarparu gwybodaeth wahanol gan ddibynnu ar yr adeg y crëwyd yr arwystl.

  • Os crëwyd yr arwystl ar neu ar ôl 6 Ebrill 2013, bydd angen i'r person sy'n penodi'r derbynnydd neu reolwr ddarparu'r cod cyfeirnod unigryw (cod arwystl) sydd wedi'i ddynodi i'r arwystl.
  • Os crëwyd yr arwystl cyn 6 Ebrill 2013, bydd angen i'r person sy'n penodi'r derbynnydd neu'r rheolwr ddarparu:
    • dyddiad creu'r arwystl,
    • disgrifiad o'r offeryn (os oes un) sy'n creu'r arwystl neu'n darparu tystiolaeth o'r arwystl; a
    • manylion cryno'r eiddo neu'r ymgymeriad y mae arwystl arno.

Bydd y wybodaeth hon yn galluogi Tŷ'r Cwmnïau i adnabod yr arwystl cywir y mae'r derbynnydd neu'r rheolwr yn cael ei benodi drosto.

Bydd ffurflenni RM01 neu RM02 ar gael o wefan Tŷ'r Cwmnïau ar 6 Ebrill 2013.

Dylai unrhyw hysbysiad i'r cofrestrydd cwmnïau am benodi neu beidio â gweithredu fel derbynnydd neu reolwr a gaiff ei gwblhau cyn 6 Ebrill 2013 gael ei gwblhau gan ddefnyddio ffurflenni LQ01 ac LQ02.

Dylai unrhyw hysbysiad i'r cofrestrydd cwmnïau am benodi neu beidio â gweithredu fel derbynnydd neu reolwr a gaiff ei gwblhau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2013 gael ei gwblhau gan ddefnyddio ffurflenni RM01 ac RM02.

Brig
Ein polisi ar gwcis