Newid logo Tŷ’r Cwmnïau ac un hunaniaeth y llywodraethDros yr ychydig fisoedd nesaf bydd Tŷ’r Cwmnïau’n mabwysiadu un hunaniaeth newydd y llywodraeth, a chyn bo hir bydd yn dechrau defnyddio’r Arfbais Frenhinol yn lle’r logo presennol. Mae’r un hunaniaeth newydd i’r llywodraeth wedi’i bwriadu i ddarparu dull brandio cydlynus a chyson ar draws adrannau’r llywodraeth.
Ein nod yw newid ein logo fesul cam gan ddechrau ym mis Gorffennaf 2013; byddwn yn newid ein gwefan a’n gwasanaethau ar-lein, a diweddaru ein deunydd ysgrifennu’n raddol wrth fod angen cael stoc newydd. Yn ystod y cyfnod hwn mae’n bosibl y byddwch yn sylwi ar rywfaint o anghysondeb o ran ein deunydd ysgrifennu wrth i ni gael stociau newydd o bapur a deunyddiau. Mae’r defnydd o’r Arfbais Frenhinol gan y llywodraeth yn ei gwneud yn gliriach ac yn haws ei adnabod, gan ei gwneud yn hawdd i gwsmeriaid wybod eu bod yn cyfathrebu gydag un o sefydliadau’r llywodraeth. |
||