Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Arwystlon – Newidiadau i Ran 25 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (Cwmnïau a PACau)

Cafodd Rheoliadau Deddf Cwmnïau 2006 (Diwygio Rhan 25) 2013 eu cymeradwyo gan y Senedd a chafodd eu allgofnodi gan y Gweinidog ar 14 Mawrth 2013. Bydd y rheolidau yn dod i rym ar 6 Ebrill 2013 a byddant yn disodli Rhan 25 presennol o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Amcanion y darpariaethau newydd yw:

  • symleiddio'r gweithdrefnau a lleihau'r costau sydd ynghlwm wrth osod gwybodaeth ar y cofnod cyhoeddus, a hynny'n benodol trwy alluogi ffeilio electronig   
  • lleihau'r ansicrwydd o ran pa arwystlon y mae'n rhaid eu cofrestru  
  • disodli'r ddau gynllun cyfredol sy'n dibynnu ar ble y mae'r cwmni'n cael ei gofrestru ag un cynllun ar gyfer yr holl gwmnïau sy'n cofrestru yn y DU  
  • gwella ansawdd y wybodaeth y mae cwmnïau'n ei rhoi am ernesau 
  • ei gwneud yn haws cyrchu'r offerynnau sy'n creu arwystlon cwmnïau.  

Prif bwrpas y rheoliadau drafft yw rhoi grym i bolisi'r Adran sy'n darparu ar gyfer creu un cynllun i gofrestru, bodloni neu ddiwygio arwystlon cwmnïau, dim ots ble y cawsant eu  corffori (yn unol â gofynion cyfredol Rhan 25 o'r Ddeddf ). Gyda mân ddiwygiadau, bydd yr newidiadau'n berthnasol i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig hefyd, a hynny o dan offeryn statudol ar wahân. 

Ceir rhestr o'r prif newidiadau isod:

  1. Dilëwyd y drosedd o fethu â chofrestru arwystl.
  2. Bydd y drefn ar gyfer cofrestru'r un fath ledled y DU.Mae hyn yn golygu na fydd yna ofynion ffeilio gwahanol mwyach ar gyfer arwystlon cwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban (ac eithrio'r gofyniad penodedig o ran arwystlon ansefydlog sy'n berthnasol i ffurflen 466 yn unol â'r esboniad a roddir ym mhwynt 10).
  3. Bydd angen i unrhyw un sy'n cofrestru manylion arwystl anfon copi ardystiedig o'r Offeryn sy'n creu'r arwystl, er enghraifft y weithred, at y Cofrestrydd. Bydd angen i unrhyw un sy'n ffeilio'n electronig gyflwyno'r copi ardystiedig ar ffurf PDF, ac ni chaiff y ffeil fod yn fwy na 10 MB. Caiff copi o'r offeryn ei osod ar y cofnod cyhoeddus a gellir ei ddadlwytho hefyd. Rhaid i chi anfon copi ardystiedig o’r offeryn gyda phob ffurflen MR01/LL MR01, MR02/LLMR02, MR03/LLMR03. Os oes nifer o gwmnïau arwystlo mewn offeryn, rhaid i gopi ardystiedig o’r offeryn hwnnw ddod gyda phob ffurflen MR01; e.e. rhaid i 10 x copi ardystiedig o offeryn ddod gyda 10 x ffurflen MR01. Bydd modd golygu (dileu) rhai darnau o wybodaeth a allai fod yn sensitif. Gellir golygu unrhyw wybodaeth:

    • sy'n cynnig gwybodaeth bersonol am unigolyn (ac eithrio enw'r unigolyn);
    • sy'n rhoi rhif cyfrif banc neu ernes cwmni neu unigolyn, neu rif arall a allai ddatgelu hunaniaeth cwmni neu unigolyn.

    Ceir eglurhad pellach am y diffiniad o wybodaeth bersonol ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

  4. Dilëwyd y terfyn o 21 diwrnod ar gyfer ffeilio manylion eiddo a gafaeliwyd sy'n destun arwystl.
  5. Yn hytrach na nodi rhestr o'r arwystlon y gellir eu cofrestru yn y ddeddfwriaeth (fel sy'n wir yn Rhan 25 o'r Ddeddf ar hyn o bryd), bydd y Ddeddf ar ei newydd wedd yn darparu rhestr o eithriadau.
  6. Er mwyn ffeilio'n electronig, bydd yn rhaid i fenthycwyr (neu unrhyw un sy'n cyflwyno'r manylion cofrestru heblaw am y cwmni ei hun) wneud cais am god dilysu benthyciwr. Cais untro fydd hwn, a bydd yn galluogi iddynt anfon dogfennau arwystl i'w cofrestru yn y dyfodol. (Gall cwmnïau ffeilio'u harwystlon eu hunain gan ddefnyddio cod dilysu'r cwmni ac ni fydd angen iddynt gael cod dilysu benthyciwr (LAC) at y perwyl hwnnw). Caiff benthycwyr wneud cais am LAC ym mis Chwefror.
  7. Rhoddir Cyfeirnod Unigryw (URC) 12 digid  i unrhyw arwystl, arwystl dros eiddo a gafaeliwyd neu arwystl i ddiogelu cyfres o ddyledebion a gofrestrwyd, â dyddiad creu o 6 Ebrill 2013 neu'n ddiweddarach, a bydd y cyfeirnod i'w weld ar y dystysgrif. Os caiff yr arwystl ei fodloni neu ei ddiwygio wedyn, bydd angen i'r cyflwynydd nodi'r URC ar y ffurflen berthnasol. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i Dŷ'r Cwmnïau ac unrhyw un sy'n chwilio cofnod y cwmni gysylltu'r arwystlon â'r dogfennau ffeilio priodol.
  8. Bydd yna ffurflenni newydd ar gyfer cwmnïau ac ar gyfer PACau. Am y tro cyntaf, bydd yna ffurflenni ar wahân i gofrestru arwystlon sy'n cael eu creu drwy offeryn a'r rhai sy'n cael eu creu heb offeryn. Bydd y ffurflenni newydd yn gofyn am lai o wybodaeth na'r ffurflenni cyfredol

    Dyma'r ffurflenni newydd:

    • MR01 – Manylion arwystl.
    • MR02 – Manylion arwystl y caffaeliwyd eiddo neu ymgymeriad yn ddarostyngedig iddo.
    • MR03 – Manylion cofrestru arwystl i ddiogelu cyfres o ddyledebion.
    • MR04 – Datganiad bodloni arwystl yn llwyr neu'n rhannol.
    • MR05 – Datganiad i nodi bod rhan o'r eiddo sy'n destun yr arwystl neu'r eiddo cyfan (a) wedi cael ei ryddhau o'r arwystl (b) nad yw'n rhan o eiddo'r cwmni mwyach.
    • MR06 – Datganiad bod cwmni yn gweithredu fel ymddiriedolwr .
    • MR07 – Manylion diwygiad i arwystl (Manylion gwystl negyddol).
    • MR08 – Manylion arwystl lle nad oes unrhyw offeryn.
    • MR09 – Manylion arwystl y caffaeliwyd eiddo neu ymgymeriad yn ddarostyngedig iddo lle nad oes unrhyw offeryn.
    • MR10 – Manylion cofrestru arwystl ar gyfer cyfres o ddyledebion lle nad oes offeryn.
    • RM01 – Hysbysiad am benodi derbynnydd gweinyddol, derbynnydd neu reolwr.
    • RM02 – Hysbysiad am roi'r gorau i weithredu fel derbynnydd gweinyddol, derbynnydd neu reolwr.

    Bydd ffurflenni cyfatebol ar gael ar gyfer PACau.

  9. Pontio

    Bydd y gofynion cofrestru newydd yn berthnasol i unrhyw arwystlon newydd sy'n cael eu creu ar 6 Ebrill 2013 neu'n ddiweddarach.

    Mae'r cofnodion bodloni a rhyddhau (a859L) yn berthnasol i bob arwystl, a bydd angen darparu gwybodaeth wahanol yn dibynnu pryd y cafodd yr arwystl gwreiddiol ei greu.

    Mae'r Hysbysiad am Dderbynnydd neu Reolwr yn berthnasol i bob arwystl (ac eithrio yn yr Alban).

    Bydd Ychwanegu neu Ddiwygio arwystl (a859O) yn berthnasol i bob arwystl.

  10. Pontio ffurflen 466
    Bydd ffurflen 466 yn aros mewn grym (ac yn ddarostyngedig i'r terfyn o 21 diwrnod ar gyfer ffeilio) mewn perthynas â diwygio arwystlon ansefydlog yn yr Alban (SFC). Ar gyfer SFCau sy'n cael eu creu cyn 6 Ebrill, bydd y gofynion ffeilio cyfredol mewn perthynas ag a466 yn berthnasol fel y maen nhw nawr. Yn achos SFCau sy'n cael eu creu ar 6 Ebrill 2013 neu'n ddiweddarach, bydd angen copi ardystiedig o'r diwygiad ac ati, bydd y Rheol 21 Diwrnod yn berthnasol o hyd a bydd angen llai o wybodaeth ar gyfer y manylion a bennir yn Atodlen 2 o Baragraff 1 o'r Rheoliadau.

    **Ni chodir ffi am ffeilio'r wybodaeth hon o 6 Ebrill 2013 ymlaen

  11. Ffioedd
    Dyma'r ffioedd ar gyfer cyflwyno arwystlon ar bapur ac yn electronig o 6 Ebrill 2013 ymlaen:
    Cynnyrch Hen Ffi Ffi Newydd
    Cofrestru Arwystl ar Bapur £13 £13
    Cofrestru Arwystl yn Electronig D/B £10
Brig
Ein polisi ar gwcis