Adolygiad ShakespeareMae Stephan Shakespeare, Cadeirydd y Bwrdd Strategaeth Data, wedi cael ei benodi i arwain adolygiad annibynnol (a elwir Adolygiad Shakespeare) i edrych ar ffyrdd newydd o ddefnyddio'r wybodaeth a gedwir gan gyrff y sector cyhoeddus. Bydd yr adolygiad yn gwella'r gallu i gael data ac yn helpu i hybu twf economaidd trwy edrych ar y farchnad ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus. Mae Stephan yn awyddus i gasglu barn cynifer o fathau o ddefnyddwyr, ailddefnyddwyr a defnyddwyr posibl gwybodaeth y sector cyhoeddus ag sy'n bosibl ac mae'n eich gwahodd i gwblhau arolwg ar-lein; Mae'r arolwg yn cau ar ddydd Gwener 15fed Mawrth 2013. Ar ddiwedd yr adolygiad, caiff argymhellion eu gwneud i Weinidogion ar sut i gynyddu'r gallu i gael gwybodaeth ac ystyried cyfleoedd newydd ac arloesol ar gyfer data agored. Mae'r adolygiad yn ategu gwaith y Bwrdd Strategaeth Data a bydd yn sicrhau y caiff prosiectau eraill eu halinio â'r adolygiad, gan osgoi dyblygu amser ac adnoddau'n ddiangen. Mae Stephan hefyd yn gweithio gyda'r Sefydliad Data Agored, er mwyn adeiladu ar ei waith i fuddion economaidd data agored a modelau busnes ar ei gyfer, a gyda dadleuwyr eraill dros ddata agored yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Dros y 18 mis diwethaf mae Tŷ'r Cwmnïau wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i'r agenda data agored trwy wella'r gallu i gael data di-dâl am gwmnïau a thrwy gyflwyno cynhyrchion newydd megis:
|
||