|
Hysbysiad i’r wasg Ymgynghoriad agored tŷ’r cwmnïau a’r hmrc ar ddyddiadau ffeilio cyfrifon cwmnïau Cyhoeddiad Canghellor y Trysorlys, Gordon Brown, heddiw yng Nghynhadledd Flynyddol y CBI y bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a Thŷ’r Cwmnïau yn ymgynghori â chwmnïau a’u hymgynghorwyr proffesiynol ynghylch cynigion i gyfuno ffeilio ffurflenni treth cwmnïau a’r drefn ar gyfer cyflwyno cyfrifon i’r Cofrestrydd Cwmnïau. Wrth groesawu cyhoeddiad y Canghellor, dywedodd Claire Clancy, y Cofrestrydd Cwmnïau: “Rwy’n falch iawn bod cefnogaeth ar lefel mor uchel i’r gwaith a wneir ar y cyd gan Dŷ’r Cwmnïau a’r HMRC. Mae’n cynigion yn adlewyrchu agenda’r llywodraeth ar gyfer gwell rheoleiddio. Rhoddant gyfle sylweddol i leihau lefel y fiwrocratiaeth y mae cwmnïau’n gorfod ymgodymu â hi, a byddant yn ei gwneud yn haws i gwmnïau gwrdd â’u rhwymedigaethau cyfreithiol.” Nod y cynllun yw cynnig i gwmnïau a’u hasiantiaid un gwasanaeth ffeilio ar-lein ar gyfer yr HMRC a Thŷ’r Cwmnïau, gan ysgafnhau’r baich gweinyddol ar ysgwyddau cwmnïau sy’n gorfod ffeilio cyfrifon. Craidd y cynigion yw’r ymdrech i gysoni dyddiadau ffeilio rhwng yr HMRC a Thŷ’r Cwmnïau. Bydd hyn yn golygu amserau ffeilio byrrach ond nid effeithir ar y dyddiad y bydd y cwmni yn talu’i dreth. Mae’r ymgynghoriad yn ceisio sylwadau am fuddion un gwasanaeth ffeilio ar-lein, ar gysoni’r dyddiadau ffeilio ac ar amseriad y newid. Gofynnir hefyd i ymatebwyr leisio barn ar agweddau eraill lle gallai’r HMRC a Thŷ’r Cwmnïau weithio gyda’i gilydd i wireddu buddion i gwmnïau. Nodiadau i olygyddion
|
|||