|
|
Rhybuddion Twyll PwysigRhybudd Sgam: 03/09/13 12yp Mae wedi dod i’n sylw anfonir e-byst ar hap gydag atodiad zipfile sy’n honni eu bod o Dŷ’r Cwmnïau. Dydy’r e-byst hyn ddim wedi cael eu cynhyrchu gan Dŷ’r Cwmnïau ac argymhellwn yn gryf i beidio ag agor yr atodiad. Dylai ein cwsmeriaid bod yn sicr nad yw’r manylion sydd gennym wedi cael eu cyfaddawd. Rhybudd sgâm ffôn Tŷ'r Cwmnïau Cafwyd achosion yn ddiweddar lle bu rhywun oedd yn honni ei fod o Dŷr Cwmnïau yn cysylltu â chwsmeriaid Tŷr Cwmnïau, gan ofyn am fanylion cyfarwyddwyr cwmnïau. Cofiwch na fydd personél Tŷr Cwmnïau byth yn cysylltu â chi dros y ffôn i geisio canfod pwy ywch swyddogion na gofyn am fanylion fel codau dilysu cwmnïau. Pe bai unrhyw un yn cysylltu â chi gan honni ei fod o Dŷr Cwmnïau, ceisiwch gael rhif ffôn iw ffonion ôl a chysylltwch â ni ar unwaith. Sgâm ‘Intracom VAT Registry’ Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cael gwybod am sgâm sy’n gysylltiedig â chwmni o’r enw Intracom VAT Registry. Mae’r cwmni hwn wedi anfon llythyrau at gwmnïau sydd newydd gofrestru yn ymwneud â chofrestru am DAW yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r llythyrau’n gofyn i gwmnïau fynd i wefan dwyllodrus (sydd bellach wedi cael ei chau i lawr) a thalu gyda cherdyn credyd/debyd. Mae Tŷ’r Cwmnïau’n cydweithio’n agos gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a’r Heddlu Metropolitan. Peidiwch â thalu unrhyw arian a dywedwch wrth yr heddlu a Thŷ’r Cwmnïau am unrhyw gysylltiad oddi wrth y cwmni hwn. Gallwch ddweud wrthym am hyn trwy e-bost fraud@companieshouse.gov.uk Cynigion swydd twyllodrus a hocedion teitheb Mae Tŷ’r Cwmnïau yn gweld cynnydd yn nifer y cwynion a’r ymholiadau ynghylch cynigion swydd ymddangosiadol yn y DU. Mae’r rhain yn cynnwys cynigion gyda chwmnïau olew a’r sectorau Bancio, Gwestyau a Cholegau. Bydd hysbysebion sy’n ymhonni dod o gwmnïau olew neu betrolewm, yng nghyswllt amrywiaeth o swyddi tâl bras yn y DU, yn cael eu rhoi mewn papurau neu wefannau o enw da. Fel arfer, bydd yr hysbysebion hyn hefyd yn cynnig cyfleusterau ar gyfer sicrhau teithebau’r DU drwy eu cysylltwyr. Gofynnir fel rheol am dâl am y teithebau hyn drwy swyddfa gwasanaeth arian. Gellir casglu’r tâl unrhyw le yn y byd. Nid yw’r swyddi hyn yn bodoli a’r unig ffordd gyfreithlon i sicrhau teitheb y DU yw drwy lysgenhadaeth neu gomisiwn lleol y DU - mae manylion llawn i’w gweld yn www.ukvisas.gov.uk. Dylech bob amser drin unrhyw gynnig swydd o’r fath yn ofalus dros ben, yn enwedig os yw’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir. Gwnewch eich ymholiadau eich hun heb ddefnyddio’r manylion cysylltu a roir gan y cwmni, gan fod y rheiny hefyd yn dwyllodrus. RHYBUDD PWYSIG AR DWYLL - Codau Dilysu WebFiling Gwelwyd achosion yn ddiweddar o gysylltu â chwsmeriaid Tŷ’r Cwmnïau gan rywun yn honni perthyn i Dŷ’r Cwmnïau ac yn gofyn iddynt gadarnhau eu Codau Dilysu ar gyfer WebFiling. Dylech gadw mewn cof na fydd personél Tŷ’r Cwmnïau byth yn cysylltu â chi dros y ffôn i holi ynghylch eich Codau Dilysu ar gyfer WebFiling. Os bydd rhywun yn dod i gysylltiad â chi gan honni perthyn i Dŷ’r Cwmnïau, ceisiwch sicrhau eu rhif teleffon a chysylltu â ni’n syth. RHYBUDD AM DWYLL YSGROW Rydym yn ymwybodol bod yna nifer o wefannau sy’n cynnig gwasanaethau ysgrow ac yn honni eu bod “o dan drwydded a bond gyda Thŷ’r Cwmnïau". Mae’r safleoedd hyn yn dwyllodrus yn gymaint â bod Tŷ’r Cwmnïau heb ddarpariaeth i gynnig trwyddedau na bondiau i unrhyw gwmni. Bydd y safleoedd fel arfer yn dangos rhif cofrestru cwmni dilys ond nid oes ganddynt gysylltiad â’r cwmni ei hun. Bydd y safleoedd twyllodrus hyn yn gweithio trwy fod rhywun yn chwilio safle arwerthu dros y rhyngrwyd ac y cytuno i brynu rhyw eitem, fel arfer gemwaith, a hefyd yn awgrymu bod y gwerthwr, yn lle defnyddio un o’r systemau talu awdurdodedig, yn gwerthu’r eitem i wasanaeth ysgrow a argymhellir gan y darpar brynwr. Caiff y nwyddau eu hanfon ac ni fydd cysylltiad pellach oherwydd bod y “prynwr” yn cau eu cyfrif e-bost. Os credwch eich bod wedi dioddef tramgwydd yng nghyswllt unrhyw safle o’r fath, dylech sôn am hyn wrth yr heddlu lleol. Os cysylltwch â Thŷ’r Cwmnïau, cadwch mewn cof nad ymchwilir o angenrheidrwydd i’r mater wrth ichi wneud, er ein bod yn gwerthfawrogi bod yr wybodaeth yn cael ei dwyn i’n sylw. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cydweithio â Heddlu Llundain (Operation Sterling) i ymchwilio i’r safleoedd hyn a’u cau’n derfynol lle bo hynny’n briodol. |
|