Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 


Gordaliadau Swmp

Oherwydd polisi Prisio Cymesur y Post Brenhinol, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi gweld angen adolygu’i arferion post.

O ganlyniad, o 31 Mawrth 2007 ymlaen, byddem yn annog cwsmeriaid i gymryd gofal ychwanegol wrth anfon dogfennau atom, gan na fyddwn mwyach yn derbyn unrhyw eitemau post sydd heb dâl cludiant digonol.

Buom yn cyd-drafod â’r Post Brenhinol a chludwyr post eraill yng nghyswllt eitemau â thâl cludiant annigonol. Rhoesant wybod inni y byddant yn ceisio dychwelyd eitemau felly i’r anfonydd, ar yr amod bod cyfeiriad dychwelyd wedi’i ddangos yn eglur ar yr amlen. Bydd yr eitemau hynny sydd heb gyfeiriad dychwelyd yn cael eu gyrru ymlaen i swyddfa’r Post Brenhinol yn Belfast, lle cânt eu hagor i edrych am gyfeiriad yr anfonydd. Os na welir hwnnw o gwbl, yna fe gaiff yr eitemau eu dinistrio. Rhoddwyd gwybod i Dŷ’r Cwmnïau ei bod yn bosibl iawn y bydd cryn oedi wrth ddelio â phost felly.

Llythyrau cydnabod

Carem roi gwybod i gwsmeriaid hefyd, lle dymunir nodyn cydnabod i gadarnhau bod dogfennau wedi dod i law, y dylid nodi cais o’r fath yn glir yn y llythyr a anfonir gyda’r dogfennau. Mae’n hanfodol amgáu copi o’r llythyr ac amlen ddychwelyd wedi’i chyfeirio a’i stampio. Bydd methiant i ddarparu hyn yn golygu na chaiff nodyn cydnabod mo’i anfon.

Sylwer os ffeiliwch eich gwybodaeth drwy ddefnyddio’n gwasanaethau WebFiling neu Ffeilio drwy Feddalwedd, y cewch e-bost awtomatig i gadarnhau bod eich eitemau wedi dod i law.

Carai Tŷ’r Cwmnïau roi gwybod i gwsmeriaid fod ei ffioedd wedi’u seilio ar gost y gweinyddu a bod pob rhyw arbed posibl yn cael ei adlewyrchu wrth osod y ffioedd.

Brig
Ein polisi ar gwcis