Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cyngor ar ddiogelwch

Negeseuon e-bost na ofynnwyd amdanynt / gwe-rwydo

Byddwch yn amheus o negeseuon e-bost na ofynnwyd amdanynt, hyd yn oed os ydynt yn edrych fel pe baent wedi dod o ffynhonnell rydych yn ymddiried ynddi.

Ni fydd Tŷ'r Cwmnïau byth yn gofyn i chi, drwy neges e-bost, ddatgelu gwybodaeth bersonol na gwybodaeth am dalu. Os ydych yn amau nad yw neges e-bost rydych wedi'i chael oddi wrth Dŷ'r Cwmnïau yn ddilys, peidiwch â dilyn unrhyw ddolenni, agor unrhyw atodiadau, datgelu unrhyw fanylion personol nac ymateb iddi.

Anfonwch hi ymlaen i Dŷ'r Cwmnïau at phishing@companieshouse.gov.uk ac yna dilëwch hi.

Ni all Tŷ'r Cwmnïau ymchwilio i gopïau papur o negeseuon e-bost/gwefannau amheus. Er mwyn i ni weithredu, bydd angen i chi anfon y neges e-bost amheus wreiddiol at phishing@companieshouse.gov.uk

Bydd Tŷ'r Cwmnïau yn adolygu'r holl negeseuon e-bost a ddaw i law ond ni fydd yn ymateb iddynt yn unigol. Efallai y byddwch yn derbyn ymateb e-bost awtomatig oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau sy’n dweud bod eich e-bost wedi cael ei atal a’i gadw mewn cwarantîn. Anwybyddwch y neges hon.

Dyma rhai enghreifftiau o negeseuon e-bost gwe-rwydo (Saesneg):

An example of a phishing email Another example of a phishing email

I gael gwybod mwy am we-rwydo


Gwneud eich profiad ar lein mor ddiogel ag sy'n bosibl

Mae cyfathrebu a thrafodion electronig yn rhan allweddol o fusnes Tŷ'r Cwmnïau. Fodd bynnag, mae'r manteision mae trafodion ar-lein yn eu darparu hefyd yn gallu achosi perygl twyll – unigolion yn honni bod yn rhywun nad ydynt, ac yn cael gwybodaeth nad oes ganddynt hawl iddi.

Mae Tŷ'r Cwmnïau, fel pob darparwr gwasanaethau ar-lein, wedi ymrwymo i'ch diogelwch – ond mae angen i chi fod yn wyliadwrus.

Mae'r dulliau mae twyllwyr yn eu defnyddio i gael y wybodaeth maent ei heisiau yn newid o hyd, felly mae Tŷ'r Cwmnïau yn darparu diweddariadau am y math o sgamiau mae'n gwybod amdanynt. Mae'r prif berygl yn dod o ddwyn hunaniaeth neu fanylion mynediad ar-lein.

Os gwelwch yn dda, gwnewch bopeth a allwch i sicrhau bod y dynodwyr a'r cyfrineiriau rydych yn eu defnyddio wrth gyrchu systemau Tŷ'r Cwmnïau yn cael eu cadw'n ddiogel a'u newid yn rheolaidd. Ni ddylech ddatgelu'ch manylion mewngofnodi ar-lein i neb.

Dylid rhoi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau ar unwaith am unrhyw weithgarwch amheus. 


Sut i'ch diogelu'ch hun ar lein

  • Manylion mewngofnodi
    Cadwch eich manylion mewngofnodi'n ddiogel. Peidiwch â'u hysgrifennu i lawr na dweud wrth neb, gan gynnwys staff Tŷ'r Cwmnïau, beth ydyn nhw.
  • Cyfrineiriau
    Defnyddiwch gyfrineiriau cryf. Cofiwch eu gwneud yn unigryw fel nad oes modd i neb arall eu dyfalu'n hawdd. Dylent gynnwys cymysgedd o lythrennau a rhifau bob amser. Ceisiwch osgoi defnyddio ymadroddion cyffredin neu unrhyw beth amlwg fel eich enw neu'ch dyddiad geni. Newidiwch eich cyfrinair yn rheolaidd; awgrymwn y dylech wneud hynny o leiaf unwaith bob tri mis.
  • Meddalwedd gwrthfeirysau
    Gwnewch yn siŵr bod gan eich cyfrifiadur feddalwedd wrthfeirysau a gwrthfaleiswedd, a bod hon yn cael ei diweddaru'n gyson gan ganiatáu iddi wirio cynnwys y ffeiliau ar eich cyfrifiadur yn erbyn y wybodaeth mae'n ei chadw am feirysau hysbys.
  • Wal dân bersonol a rhwydwaith diwifr diogel
    Gwnewch yn siŵr bod gan unrhyw gyfrifiadur sy'n cysylltu â'r rhyngrwyd amddiffyniad priodol ar ffurf wal dân i rwystro unrhyw gysylltiadau anawdurdodedig rhag cael eu gwneud. Os ydych chi'n defnyddio rhwydwaith diwifr, gwnewch yn siŵr ei fod yn ddiogel.
  • Diweddaru'ch porwr gwe
    Defnyddiwch y fersiwn ddiweddaraf o'r porwr gwe sydd orau gennych. Gallai hyn leihau'ch siawns o fynd yn ysglyfaeth i sgamiau gwe-rwydo ar-lein, trwy ddangos negeseuon i'ch rhybuddio.
  • Cadwch eich system weithredu'n gyfredol
    Gwnewch yn siŵr eich bod yn lawrlwytho a gosod diweddariadau'n rheolaidd.
  • Dyfeisiau Symudol
    Os ydych chi'n defnyddio dyfais symudol i gyfathrebu gyda Thŷ'r Cwmnïau, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio meddalwedd wrthfeirysau sy'n berthnasol i'r ddyfais honno. Mae diogelwch i ddyfeisiau symudol yr un mor bwysig â diogelwch i'ch cyfrifiadur cartref.
  • Rhwydweithio Cymdeithasol
    Byddwch yn ofalus am y manylion y byddwch yn eu darparu wrth rwydweithio'n gymdeithasol. Peidiwch byth â datgelu gwybodaeth bersonol.
  • Gwybodaeth sensitif
    Peidiwch byth â rhoi gwybodaeth sensitif fel manylion cyfrif, rhifau adnabod personol neu gyfrineiriau trwy ddolen i wefan mewn neges e-bost.
  • Gwefannau diogel
    Gwnewch yn siŵr bod gwefannau'n ddiogel – chwiliwch am y rhagddodiad 'https' a symbol clo clap caeedig neu allwedd gyfan. Gwiriwch ddilysrwydd gwefan ddiogel trwy glicio dwywaith ar y symbol.

Cysylltwch â pherchennog y wefan ar rif ffôn sy'n hysbys neu sydd wedi'i wirio'n annibynnol. Mae Tŷ'r Cwmnïau'n darparu diweddariadau rheolaidd am y sgamiau mae'n gwybod amdanynt.

Os gwelwch yn dda, gwnewch bopeth a allwch i sicrhau bod y dynodwyr a'r cyfrineiriau rydych yn eu defnyddio wrth gyrchu systemau Tŷ'r Cwmnïau yn cael eu cadw'n ddiogel a'u newid yn rheolaidd.

  • Atodiadau a negeseuon e-bost
    Byddwch yn ofalus rhag atodiadau a negeseuon e-bost – hyd yn oed os ydynt yn ymddangos yn ddiniwed, gallent gynnwys feirws sydd wedi'i gynllunio i ddwyn eich gwybodaeth bersonol.
  • Gwefannau ffug
    Teipiwch gyfeiriad llawn gwefannau diogel i'ch porwr, yn hytrach na chwilio amdano – mae hyn yn eich helpu i beidio â chael eich camgyfeirio i safle ffug.
    Gwefannau sy'n codi tâl am wasanaethau
  • Mae rhai gwefannau'n cynnig gwasanaethau y bydd Tŷ'r Cwmnïau'n eu darparu am ddim. Mae'r rhain yn cynnwys taliadau cysylltu ar y gyfradd uchaf i linellau cymorth Tŷ'r Cwmnïau.
Brig
Ein polisi ar gwcis