| Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin | |||
|
Cwestiynau Cyffredin C1: Pryd daw’r ffi newydd ar gyfer Ffurflenni Blynyddol i rym? A: Codir y ffi newydd am ffurflenni blynyddol a gyflwynir o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, sy’n dod i law ar 6 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny. Codir yr hen ffi am ffurflenni blynyddol a gyflwynir o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 sy’n dod i law ar 5 Ebrill 2011 neu cyn hynny. Codir yr hen ffi am ffurflenni blynyddol a gyflwynir o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 neu Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986. NODYN : Codir y ffi newydd am ffurflenni blynyddol sy’n dod i law ar 5 Ebrill 2011 neu cyn hynny ond sy’n cael eu gwrthod gan Dŷ’r Cwmnïau, a’u cyflwyno eto wedyn ar 6 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny. C2: Pryd daw’r ffi newydd ar gyfer corffori i rym? A: Codir y ffi newydd am ddogfennau corffori sy’n dod i law ar 6 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny. Codir yr hen ffi am ddogfennau corffori sy’n dod i law ar 5 Ebrill 2011 neu cyn hynny. NODYN : Codir y ffi newydd am ddogfennau corffori sy’n dod i law ar 5 Ebrill 2011 neu cyn hynny ond sy’n cael eu gwrthod gan Dŷ’r Cwmnïau, a’u cyflwyno eto wedyn ar 6 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny. C3: Pryd daw’r ffi newydd ar gyfer ceisiadau o dan adran 1088 i rym? A: Codir y ffi newydd am geisiadau o dan adran 1088 sy’n dod i law ar 6 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny. Codir yr hen ffi am geisiadau o dan adran 1088 sy’n dod i law ar 5 Ebrill 2011 neu cyn hynny. NODYN : Codir y ffi newydd am geisiadau o dan adran 1088 sy’n dod i law ar 5 Ebrill 2011 neu cyn hynny ond sy’n cael eu gwrthod gan Dŷ’r Cwmnïau, a’u cyflwyno eto wedyn ar 6 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny. C4: A oes unrhyw eithriadau i’r cynnydd mewn ffioedd ar gyfer corffori/cofrestru ar bapur? A: Oes: Ni fydd yr endidau canlynol yn gweld cynnydd yn y ffioedd safonol ar gyfer corffori/cofrestru ar bapur:
C5: Pam eithrio’r endidau yn C4 uchod ond nid eraill e.e. corffori cwmnïau elusennol? A: Nid oes gan yr endidau hynny’r opsiwn i gorffori neu gofrestru yn electronig ar hyn o bryd. Rydyn ni wedi penderfynu eu heithrio rhag y cynnydd yn y ffioedd papur am na all yr endidau hyn ddewis dull electronig rhatach. Dim ond am gyfnod cymharol fyr y bydd hyn yn para am fod e-alluogi llwyr ar y gweill. Gall cwmnïau elusennol elwa ar wasanaethau electronig rhatach, ac am hynny, gallant ddewis peidio â defnyddio’r broses ffeilio ar bapur. C6: Pam mae rhai o’r ffioedd ar gyfer cofrestru ar bapur yn cynyddu? A: Mae’r ffioedd ar gyfer cofrestru ar bapur yn cynyddu er mwyn sicrhau bod y costau sydd ynghlwm wrth gofrestru dogfennau ar bapur yn cael eu hadfer trwy’r ffioedd papur. Dim ond 7% o gwsmeriaid sy’n dewis corffori neu ffeilio ffurflenni blynyddol ar bapur erbyn hyn. Mae hyn yn golygu bod y costau sydd ynghlwm wrth brosesu dogfennau papur yn cael eu lledu ar draws llai o gofrestriadau. Mae hyn yn golygu bod angen cynyddu’r ffi er mwyn sicrhau taw dim ond y cwsmeriaid papur sy’n ysgwyddo’r costau. C7: Pam mae’r ffi newydd ar gyfer corffori ar y we yn wahanol i’r ffi ar gyfer corffori â meddalwedd? A: Mae’r ffi yn wahanol am fod angen i’r gwasanaeth corffori ar y we ysgwyddo’r costau datblygu a chynnal sydd ynghlwm wrth gychwyn y gwasanaeth newydd hwn yn y tymor byr i ganolig. C8: Pam mae’r ffioedd corffori ar bapur yr un diwrnod wedi cynyddu? A: Mae’r ffioedd corffori ar bapur yr un diwrnod wedi cynyddu i gyd-fynd â’r ffioedd papur safonol. Mae’r canllawiau ar ffioedd yn caniatáu i sefydliadau’r llywodraeth ddarparu gwasanaethau premiwm ac yn galluogi iddynt bennu’r ffi yn uwch na’r ffi ar gyfer y gwasanaeth safonol er mwyn cadw rheolaeth ar y galw. Fodd bynnag, rhaid adfer yr holl gostau o gyfuno’r ffioedd yr un diwrnod a’r ffioedd safonol. C9: Pam mae’r ffioedd ar gyfer tystysgrifau a chopïau ardystiedig wedi cynyddu? A: Mae’r costau sydd ynghlwm wrth ddarparu copïau ardystiedig a thystysgrifau wedi cynyddu’n gyffredinol. Mae’r broses bapur hon yn un llafur-ddwys ac mae’r ffioedd wedi cynyddu er mwyn sicrhau ein bod yn adfer ein costau. C10: A fyddaf i’n talu dwy ffi yr un diwrnod os oes angen copi ychwanegol o’r dystysgrif arnaf? A: Na fyddwch. O 6 Ebrill 2011 ymlaen, os oes arnoch angen copi ychwanegol o dystysgrif, a’ch bod yn ei harchebu yr un pryd â’r dystysgrif wreiddiol yr un diwrnod, cewch gopi ychwanegol o’r dystysgrif am ffi is, sef £10. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n talu £70 yn hytrach na £120 am dystysgrif yr un diwrnod a chopi ychwanegol. Os gwnewch gais, byddwn ni’n darparu copi ffacs o’r dystysgrif yr un diwrnod hefyd, a hynny’n rhad ac am ddim. C11: Pam mae’r ffi am ofyn i Dŷ’r Cwmnïau atal gwybodaeth am fy nghyfeiriad wedi cynyddu? A: Mae’r ffi wedi cynyddu am fod ein rhagdybiaethau gwreiddiol o ran sawl cais a fyddai’n dod i law yn anghywir. Ychydig iawn o geisiadau sydd wedi dod i law ers 1 Hydref 2009. Am hynny, nifer fechan iawn o gwsmeriaid sy’n ysgwyddo’r gost o gynnal y gwasanaeth statudol hwn. Am hynny, mae’r ffi wedi cynyddu’n sylweddol.
|
|||