Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Newidiadau i ffioedd Cofrestrwyr Ebrill 2011

Mae  rhai o'i ffioedd Tŷ'r Cwmnïau wedi newid o 6 Ebrill 2011 ymlaen yn dilyn adolygiad o'n prosesau a'n gwasanaethau. Bwriad hyn yw sicrhau bod ein ffioedd yn adlewyrchu ein costau gwirioneddol, wrth i ni gyflwyno gwasanaeth newydd i gorffori ar y we.

Er mwyn cyflwyno'r newidiadau i'r ffioedd, roedd rhaid diwygio'r is-ddeddfwriaeth gyfredol a newid y ffioedd yn weinyddol mewn ambell i achos.

Fel Cronfa Fasnachu, rhaid i Dŷ'r Cwmnïau weithredu ar sail adennill costau. Mae cyfraith Ewrop a chanllawiau Trysorlys EM yn gofyn hefyd bod y prisiau'n gysylltiedig â'r costau a ragwelir ar gyfer darparu pob gwasanaeth a'r ffordd y bydd y cwsmeriaid yn eu cyrchu.

Gellir trosglwyddo'r arbedion o ran cost a welwyd am fod nifer fawr o gwsmeriaid yn defnyddio gwasanaethau electronig, i gwsmeriaid Tŷ'r Cwmnïau trwy ostwng y ffioedd. Mae'r cynnydd mewn ffioedd ar gyfer rhai cynhyrchion papur sy'n cyd-fynd â hyn yn adlewyrchu'r costau sefydlog uwch sydd ynghlwm wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer nifer llai o gwsmeriaid.

Gorolwg o gostau Tŷ'r Cwmnïau ar gyfer 2011/12 (Saesneg yn unig)

Mae rhai o'r ffioedd yr un diwrnod ar gyfer gwasanaethau penodedig wedi codi; ac yn benodol y ffioedd ar gyfer corffori ar bapur, copïau ardystiedig a thystysgrifau corffori yr un diwrnod. Mae hyn er mwyn sicrhau na fydd y galw am y gwasanaethau "premiwm" hyn yn effeithio ar lefel y gwasanaethau y gellir eu cynnig i'n cwsmeriaid papur safonol.

Yn ogystal, mae Tŷ'r Cwmnïau wedi cyflwyno gwasanaeth Corffori ar y We newydd ers Ebrill 2011.

Mae'r diwygiadau i'r ffioedd yn effeithio ar bob endid a gofrestrwyd yn Nhŷ'r Cwmnïau, sy'n cynnwys Cwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (PACau), Partneriaethau Cyfyngedig (PCau), Cwmnïau Buddiant Cymunedol (CBCau), Cwmnïau Tramor, Grwpiadau Buddiant Economaidd Ewropeaidd (EEIGau) a Chwmnïau Cyhoeddus Ewropeaidd ag Atebolrwydd Cyfyngedig (SEau). Mae'r newidiadau yn effeithio ar bobl sy'n chwilio'r gofrestr cyhoeddus hefyd.

Brig
Ein polisi ar gwcis