Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Model Rhagolygon Tŷ’r Cwmnïau

Mae’r model rhagolygon (PDF 17KB) (Saesneg yn unig) wedi cael ei ddeillio gan ddefnyddio egwyddorion costio seiliedig ar weithgarwch gan ddefnyddio cynnyrch meddalwedd aeddfed. Mae costau gweithredol uniongyrchol yn cael eu gyrru’n uniongyrchol ar y grwpiau cynnyrch y maent yn gysylltiedig â hwy. Er enghraifft, mae timau sy’n gysylltiedig â phrosesu corfforiadau’n cael eu grwpio i ganolfannau cost penodol i’r dasg honno, ac mae’r costau’n cael eu gyrru’n uniongyrchol i’r cynhyrchion corffori hynny. Mae costau gorbenion eraill yn cael eu dyrannu gan ddefnyddio rheolau cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol megis yn ôl arwynebedd llawr, nifer gweithwyr cyflogedig ac ati.

Caiff tybiaethau ynghylch niferoedd eu deillio gan ddefnyddio dadansoddiad tueddiadau hanesyddol ac egwyddorion PESTLE (gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, cyfreithiol ac amgylcheddol) a chymhwyso polisïau hysbys. Mae’r rhain yn cael eu hasesu bob chwarter gan dîm trawsgyfarwyddiaethol a phob blwyddyn er mwyn cynorthwyo â’r cynllun busnes ffurfiol. Mae’r tybiaethau ynghylch niferoedd wedi bod yn gywir eithriadol dros y deng mlynedd diwethaf, sydd wedi lleihau unrhyw gyfnewidioldeb yn y broses pennu ffioedd.

Dyma’r prif dybiaethau a ddefnyddiwyd:

  1. bod yn rhaid peidio â chael croes-gymhorthdal rhwng gwasanaethau mewnbwn ac allbwn;
  2. y dylai ffioedd fod yn sylfaen i gyfeiriad strategol Tŷ’r Cwmnïau, fel y bydd arbedion effeithlonrwydd ychwanegol gwasanaethau electronig yn cael eu trosglwyddo i’r cwsmeriaid cyn gynted ag sy’n bosibl trwy ffioedd is; a
  3. bod y model wedi cael ei adeiladu’n unol ag egwyddorion Rheoli Arian Cyhoeddus.

Mae’r model wedi profi’n gadarn eithriadol yn y blynyddoedd blaenorol. Mae’r tybiaethau a wnaethpwyd ynghylch niferoedd, ynghyd â’r rheolaeth dynn ar ein costau a dulliau gweithio effeithlon, wedi ein galluogi i ragweld ein gofynion o ran ffioedd yn gywir. Mae hyn wedi caniatáu i Dŷ’r Cwmnïau ddarparu ei wasanaethau am brisiau sefydlog trwy gyfnod o newid sylweddol mewn prosesau, cyfraith a thrawsnewid electronig.

Cafodd y model ei asesu yn 2006 gan y Swyddfa Masnachu Teg fel rhan o adroddiad o’r enw “The Commercial Use of Public Information (CUPI)*. Tynnodd yr adroddiad hwn sylw at Dŷ’r Cwmnïau fel enghraifft dda o gymhwyso dyraniad costau mewn ffordd gyson wrth bennu ffioedd ar gyfer ei gynhyrchion a’i wasanaethau.

*Cyfeirnod Cyhoeddiad y Swyddfa Masnachu Teg: oft 861

Brig
Ein polisi ar gwcis