|
Gwasanaeth eAtgoffa Tŷ’r Cwmnïau ar gyfer cyfrifon a ffurflenni blynyddol
Mae eAtgoffa AM DDIM ac mae’n ffordd hwylus ac effeithiol o gofio pryd y mae’n rhaid i chi ffeilio cyfrifon a ffurflenni blynyddol eich cwmni.
Ymuno â'r gwasanaeth eAtgoffa am:
- neges amserol i'ch atgoffa i ffeilio eich cyfrifon a'ch ffurflenni blynyddol gyda Thŷ'r Cwmnïau.
- yr opsiwn i gofrestru hyd at 4 cyfeiriad e-bost y cwmni.
- dewis arall yn lle llythyr atgoffa ar bapur wedi ei hanfon i gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig.
I ymuno â'r gwasanaeth eAtgoffa, yn syml:
- Mewnlofnodwch i WebFiling.
- Detholwch ‘Ymuno â'r eAtgoffa’ o’r sgrin trosolwg cwmni.
- Nodwch eich cyfeiriad e-bost.
- Ychwanegwch hyd at 3 chyfeiriad e-bost arall os oes angen.
- Cytunwch â'r Telerau Gweithredu.
- Cewch neges e-bost i gadarnhau y caiff eich cwmni negeseuon eAtgoffa o hyn ymlaen.
Mae’r gwasanaeth eAtgoffa ar gael drwy WebFiling neu'ch cyflenwr meddalwedd.
Tŷ’r Cwmnïau Fideos WebFiling
Gwasanaeth eAtgoffa (Saesneg)
|