Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 


Gwasanaeth Bilio Electronig – Cwestiynau cyffredin

Mae'r safle'n dweud na ellir cadarnhau fy manylion ac ni allaf gofrestru i gael y gwasanaeth

Os yw'ch cyfrif wedi cael ei agor yn ddiweddar, edrychwch o dan eich cyfeiriad e-bost cofrestredig am eich neges e-bost cofrestru. Ynddi bydd dolen i chi ei dilyn i gofrestru, ynghyd â chod unigryw i'w roi i mewn i gwblhau'r broses.

Os nad yw'ch cyfrif wedi cael ei agor yn ddiweddar, llenwch yr holl feysydd angenrheidiol sy'n ofynnol i gofrestru ar y dudalen gofretru.

Os cewch chi anhawster gyda'r naill neu'r llall o'r atebion uchod, ffoniwch ein canolfan gysylltu ar 0303 1234500, a byddan nhw'n cofnodi'ch galwad er mwyn i'n tîm Cyllid gysylltu â chi.

Ni allaf lawrlwytho'r anfoneb o'r system

Os ydych chi'n defnyddio Internet Explorer 9 neu 10 mae problem yn bosibl rhwng y porwr a gwefannau HTTPS (nid HTTP) lle mae angen lawrlwythiadau. Yn IE 9 ac IE 10 mae yna osodiad diogelwch uwch “Peidiwch â chadw tudalennau wedi'u hamgryptio i ddisg" sy'n atal cadw tudalennau wedi'u hamgryptio ac o ganlyniad unrhyw lawrlwythiadau wedi'u hamgryptio. I unioni hyn, gwnewch fel a ganlyn:

  • Agor Internet Explorer
  • Clicio ar Offer
  • Clicio ar Ddewisiadau Rhyngrwyd
  • Clicio ar y tab Uwch
  • Sgrolio i lawr i'r pennawd Diogelwch a dad-glicio'r blwch “Peidiwch â chadw tudalennau wedi'u hamgryptio i ddisg"
  • Clicio Iawn
  • Cau Internet Explorer (pob ffenestr)
  • Agor Internet Explorer a dylai'r broblem fod wedi cael ei hunioni.

Os ydych chi'n defnyddio unrhyw borwr arall ac os na allwch lawrlwytho'r ffeil wrth glicio 'agor' rhowch gynnig ar y canlynol. Yn lle clicio i 'agor' y ffeil, cliciwch y tab 'cadw' a chadw'r ddogfen i rywle ar eich cyfrifiadur, fel eich pen desg, yna dylech allu gweld yr anfoneb trwy agor y ddogfen sydd wedi'i chadw.

Os cewch chi anhawster gyda'r naill neu'r llall o'r atebion uchod, ffoniwch ein canolfan gysylltu ar 0303 1234500, a byddan nhw'n cofnodi'ch galwad er mwyn i'n tîm Cyllid gysylltu â chi.

Dwi ddim yn gwybod fy nghyfrinair i fewngofnodi i e-filio

Mae'r cyfrinair ar gyfer e-filio'n cael ei ddewis gan y cwsmer felly ni fydd gennym gofnod ohono ar systemau Tŷ'r Cwmnïau. Os nad ydych yn gwybod eich cyfrinair, defnyddiwch y sgrîn wedi anghofio cyfrinair  lle bydd angen i chi roi i mewn eich rhif cyfrif a'ch cyfeiriad e-bost cofrestredig. Ar ôl i chi roi'r wybodaeth hon i mewn bydd cyfrinair dros dro'n cael ei anfon atoch trwy e-bost. Ar ôl ei gael mewngofnodwch gan ddefnyddio'r cyfrinair dros dro, ac yna cewch eich atgoffa i newid y cyfrinair i rywbeth o'ch dewis chi. Nodwch fod y system yn adnabod priflythrennau a llythrennau bach mewn cyfrineiriau, ac argymhellwn i chi gopïo a gludo'r cyfrinair dros dro i mewn i'r meysydd gofynnol wrth gwblhau'r broses hon.

Os cewch chi anhawster gyda hyn, ffoniwch ein canolfan gysylltu ar 0303 1234500, a byddan nhw'n cofnodi'ch galwad er mwyn i'n tîm Cyllid gysylltu â chi.

Rwyf wedi cael y neges e-bost i'm hatgoffa i lawrlwytho f'anfoneb ond nid yw fy rhif cyfrif yn ymddangos yn y neges e-bost

Mae ein darparwr meddalwedd yn ymchwilio i hyn ar hyn o bryd ac yn ceisio unioni'r sefyllfa'n fuan.

Nid wyf wedi cael y neges e-bost i'm hatgoffa i lawrlwytho f'anfoneb

Edrychwch yn y blwch e-bost SBAM neu SOTHACH i weld a yw'r neges atgoffa wedi cael ei hidlo gan eich system. Mae ein hanfonebau'n cael eu cynhyrchu ar ddechrau pob mis a bydd y negeseuon e-bost yn cael eu hanfon cyn gynted ag y byddant ar gael i'n cwsmeriaid eu lawrlwytho.

Brig
Ein polisi ar gwcis